Trin a rheoli ceffylau
URN: LANEHC2
Sectorau Busnes (Suites): Pedolwr,Gofal Carnau Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys trin a rheoli ceffyl er mwyn gallu gwneud gwaith yn ddiogel a bod y risg i’r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith, yn cynnwys chi eich hun, mor isel â phosibl.
Byddwch yn gallu asesu’r risg sydd yn gysylltiedig, adnabod dullau trin a rheoli ar gyfer y ceffyl yr ydych yn gweithio gydag ef a defnyddio’r dulliau hyn yn ddiogel. Byddwch yn gallu ystyried ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad ceffylau.
Bydd angen i chi gyfathrebu gyda pherson cyfrifol i gytuno ar y gofynion ar gyfer trin a rheoli. Byddwch yn gallu dewis a defnyddio’r offer a’r cyfarpar cywir a chynnal lles y ceffyl a diogelwch unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith, yn cynnwys chi eich hun.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni’r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau’r busnes.
Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu weithiwr proffesiynol gofal carnau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio’n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, eich arbenigedd, eich hyfforddiant, eich cymhwysedd a’ch profiad
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- dewis y dull o drin a rheoli sy’n ofynnol ar gyfer y ceffyl cysylltiedig a’i anghenion, er mwyn lleihau’r risg i’r ceffyl ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â’r gwaith yn cynnwys chi eich hun
- trafod a chytuno ar y gofynion trin a rheoli gyda’r person cyfrifol er mwyn i’r dasg gael ei gwneud
- mynd at y ceffyl mewn ffordd sydd yn hybu lles anifeiliaid, yn lleihau straen i’r ceffyl ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- addasu trin a rheoli’r ceffyl mewn ymateb i’w ymateb a’i ymddygiad
- mabwysiadu safle gwaith sydd yn ddiogel i’r ceffyl ac i chi eich hun
- cadarnhau bod iechyd a lles y ceffyl yn cael ei gynnal trwy gydol y dasg
- cadarnhau nad yw eich rhyngweithiad â'r ceffyl yn effeithio'n andwyol ar ei ymddygiad
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion wedi eu cwblhau, eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwrieth berthnasol ac ymarfer busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a’r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau a chodau ymarfer eraill sy’n berthnasol i anifeiliaid, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
- sut i gydnabod y bydd eich ymddygiad yn cynrychioli hyfforddiant i’r ceffyl a’r ffordd y gallai eich ymddygiad effeithio ar ymddygiad y ceffyl
- y rhesymau gwahanol pam y gallai fod angen trin a rheoli ceffyl a’r ffordd y gallai’r rhain effeithio ar y dull o drin a rheoli a ddewisir
- yr ystod o ddulliau gwahanol o drin a rheoli
- sut i ddewis a chynllunio’r dull perthnasol o drin a rheoli ar gyfer y ceffyl yr ydych yn gweithio gydag ef
- sut i asesu’r risg cynhenid wrth drin a rheoli ceffyl
- y ffactorau a allai achosi trallod neu fraw mewn ceffyl
- sut i adnabod ac asesu arwyddion trallod a braw mewn ceffyl
- sut i adnabod sefyllfaoedd neu amodau lle nad yw’n addas i berson fynd at geffyl, trin neu reoli ceffyl heb gymorth a chanlyniadau posibl gwneud hynny
- sut i adnabod amgylchedd gwaith addas ar gyfer trin a rheoli’r ceffyl
- sut i adnabod safleoedd gwaith addas fydd yn lleihau’r risg i iechyd a diogelwch ac yn atal anaf i’r ceffyl
- sut i fynd at geffyl, codi, dal a gweithio gyda charnau’r ceffyl
- y terfynau gwaith diogel o ran y carn a’r aelod
- y rhagofalon i’w cymryd i atal anaf i’r ceffyl
- sut i wybod pryd byddai’r ceffyl yn elwa ar hyfforddiant interim
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfathrebu: mae angen i chi gyfathrebu i ddilysu:
* diogelwch unrhyw un sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu
* heffeithio ganddo
* lles y ceffyl yr ydych yn gweithio arno
* bod yr offer perthnasol wedi ei ddewis a'i ddefnyddio
** **
**Ceffyl:** ceffyl neu aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.Ymddygiad ceffylau:* * y ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad ceffylau yw:
Oed
Brîd
Amgylchedd
Profiadau
Dylanwadau allanol
Trin a Rheoli: gall yr ystod o ddulliau trin a rheoli gyda cheffylau gynnwys:
- Sut i fynd at y ceffyl, codi, dal a gweithio gyda charnau ceffylau
- Y terfynau gwaith diogel o ran y carn a'r aelod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEHC2
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid Anwes, Gofal Anifeiliaid a Gwyddor Filfeddygol, Pedolwr, Tociwr Traed
Cod SOC
5211
Geiriau Allweddol
ceffylau, lles, ceffylaidd, rheoli, ymddygiad, carn, cyfathrebu, trin, PPE