Cynnal gweithgareddau deintyddol teulu’r ceffyl yn dilyn gweithdrefn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal y gweithgareddau sy'n ofynnol yn dilyn gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl. Mae'n cynnwys rhoi cyngor i'r perchennog/asiant, cwblhau cofnodion a chynnal hylendid a bioddiogelwch.
Mae'r safon hon ar gyfer technegwyr deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad
P2 esbonio’r driniaeth yr ydych wedi ei chyflawni yng ngheg y ceffyl i’r perchennog/asiant
P3 hysbysu’r perchennog/asiant ynghylch unrhyw broblemau neu broblemau posibl gyda deintiad y ceffyl
P4 amlinellu meysydd lle dylid cael cyngor milfeddygol
P5 os yw’r ceffyl yn debygol o fod angen ei olrhain ar unwaith, cysylltu â llawfeddyg milfeddygol arferol y ceffyl
P6 cynghori’r perchennog/asiant ar y camau gweithredu gorau cyn yr ymweliad nesaf, yn cynnwys:
P6.1 cyngor ynghylch pryd y gellir marchogaeth neu ymarfer y ceffyl nesaf
P6.2 cyngor ar gefnogaeth trwy ddatblygiad iechyd/clefyd y geg
P6.3 trefnu apwyntiadau
P6.4 arsylwadau
P6.5 atgyfeiriadau
P7 cofnodi canfyddiadau’r archwiliad a’r driniaeth a roddwyd
P8 sicrhau bod gennych gofnod o’r perchennog a’r ceffyl a’r ceidwad (os yw’n berthnasol), yn cynnwys eu manylion cyswllt
P9 gadael cofnod o’ch manylion cyswllt er mwyn i’r perchennog neu’r ceidwad allu cysylltu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau
P10 egluro faint o daliad sydd ei angen, sut y caiff hyn ei gyfrifo a chytuno sut bydd y taliad yn cael ei wneud
P11 sicrhau bod y cwsmer yn cael derbynneb unwaith y mae’r taliad yn cael ei wneud
P12 cyfathrebu’n broffesiynol gydag eraill sy’n gysylltiedig â gofal y ceffyl yn cynnwys llawfeddyg milfeddygol arferol yr anifail neu dechnegydd deintyddol teulu’r ceffyl a darparu nodiadau lle bo angen
P13 glanhau a symud yr holl offer oddi yno
P14 ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth
P15 sicrhau bod dulliau gwaith yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn gyson â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
G16 cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol iechyd a diogelwch bob amser
P17 cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch drwy’r amser
P18 cynnal eich safonau a’ch moesegau proffesiynol eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl, yn cynnwys:
G1.1 Categori 1
G1.2 Categori 2
G1.3 Categori 3
G2 ôl-effeithiau tawelyddu’r ceffyl
G3 â phwy y dylid ymgynghori/hysbysu ynghylch eich gweithgareddau a’ch canfyddiadau
G4 y cyngor a’r wybodaeth y bydd angen i chi eu rhoi i berchennog/asiant y ceffyl, yn cynnwys:
G4.1 cyngor ynghylch pryd y gellir marchogaeth neu ymarfer y ceffyl nesaf
G4.2 cyngor ar gefnogaeth trwy ddatblygiad iechyd/clefyd y geg
G4.3 trefnu apwyntiadau
G.4.4 arsylwadau
G4.5 atgyfeiriadau
G5 pwysigrwydd cyfrinachedd y cleient
G6 pwysigrwydd cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch a sut y gellir cyflawni hyn
G7 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
G8 eich cyfrifoldebau ar gyfer dyletswydd gofal anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth bresennol lles anifeiliaid
G9 eich cyfrifoldebau proffesiynol fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl
G10 pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau eich archwiliad a’r driniaeth a roddwyd
P11 rôl a phwysigrwydd atgyfeirio milfeddygol a chyfathrebu rhwng y llawfeddyg milfeddygol a’r technegydd deintyddol teulu’r ceffyl
G12 y ffioedd ar gyfer y gwasanaethau a sut y caiff y rhain eu cyfrifo yn cynnwys costau a threthi a’r rheswm dros bob math o ffi
G13 sut i brosesu taliadau, ac unrhyw ffurflenni perthnasol y mae angen eu llenwi
G14 egwyddorion a deddfwriaeth yn ymwneud â diogelu data
G15 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.
Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Gweithdrefnau Deintyddol Categori 1, 2 a 3 Teulu'r Ceffyl
Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant cydnabyddedig heb gymhwyster
au penodol.
Archwilio dannedd;
Tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel 'ffurfio sedd y ffrwyn';
Tynnu capiau cyntaf sy'n rhydd; a
Thynnu calcwlws gorddeintgigol.
Gweithdrefnau Categori 2 (Disodli categori 2 ar ddrafft 2004)
Gweithdrefnau ychwanegol sy'n addas i'w dirprwyo i EDT sydd wedi hyfforddi a gwneud arholiad wedi ei gymeradwyo gan DEFRA:
Archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau deintyddol;
Tynnu dannedd rhydd neu ddarnau o ddannedd gyda chysylltiadau periodontol dibwys;
Dynnu dannedd blaidd heb eu disodli sydd yn y golwg yn yr ên uchaf ac isaf o dan oruchwyliaeth filfeddygol uniongyrchol a pharhaus;
Crafu lliniarol dannedd sydd wedi torri a rhai gerllaw; a'r
Defnydd o offer deintyddol peirianyddol pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio i leihau gordyfiant a thynnu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylid tawelyddu ceffylau oni bai ei bod yn cael ei ystyried yn ddiogel i gynnal unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelyddu, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.
Gweithdrefnau Categori 3
Bydd pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy'n deillio o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn dod o dan gategori 3, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi eu cyfyngu i lawfeddygon milfeddygol cymwys sydd heb gael eu cynnig ar gyfer eu dadreoleiddio. NID yw felly'n gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni'r rhain.