Cyflawni Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 2
Trosolwg
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithdrefnau a ddisgrifir fel Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 2 ac maent yn cynnwys trin ceffylau yn ddiogel, gofal cwsmeriaid, defnyddio cyfarpar priodol, hybu lles anifeiliaid a’r broses o weithio o fewn cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol.
O dan y Ddeddf Milfeddygon (1966), ystyrir bod pob gweithdrefn ddiagnostig a thriniaeth yng ngheg y ceffyl yn weithdrefnau milfeddygol, ac eithrio gwaredu gordyfiannau deintiol â llaw, sef gydag offer llaw. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o weithdrefnau deintyddol ceffylau wedi’u cyfyngu o dan y gyfraith i filfeddygon.
Er ystyrir bod Gweithdrefnau Categori 2 yn weithredoedd milfeddygol, gellir eu dirprwyo i dechnegydd ddeintyddol ceffylau (EDT) sydd wedi hyfforddi a phasio arholiad a gydnabyddir gan y diwydiant (arholiad BEVA/BVDA neu arholiad Categori 2 WWAED).
Mae’r Gweithdrefnau Categori 2 yn llunio rhan o system raddio gweithdrefnau deintyddol ceffylau ac maent wedi’u derbyn gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), Cymdeithas Milfeddygaeth Ceffylau Prydain (BEVA), Cymdeithas Milfeddygaeth Prydain (BVA), Cymdeithas Milfeddygaeth Ddeintyddol Prydain (BVDA) a Chymdeithas Technegwyr Deintyddol Ceffylau Prydain (BAEDT). Dangosir manylion gweithdrefnau deintyddol ceffylau Categorïau 1-3 yn yr eirfa.
Mae’r safon hon ar gyfer technegwyr deintyddol cymwysedig ceffylau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol, a’u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’u profiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Milfeddygon (1966) ac o fewn cyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad
P2 nodi a mynd i’r afael â risgiau i iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â’r ardal weithio a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni ar eich cyfer chi, y ceffyl ac eraill
P3 cael hanes y ceffyl o ran ei iechyd cyffredinol, clefyd deintiol a chlefyd y geg, a thriniaethau deintyddol blaenorol
P4 cadarnhau bod cyfarpar wedi’i baratoi a’i roi yn ei le, yn barod i’w ddefnyddio, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE)
P5 sicrhau bod y ceffyl yn cael ei drin yn briodol fel y gellir cyflawni’r gweithdrefnau deintyddol
P6 adnabod yr ymddygiadau, yr amodau a’r gweithdrefnau/triniaethau gofynnol sy’n arwydd bod angen tawelydd cemegol
P7 cyfathrebu’n broffesiynol gyda milfeddyg i drefnu bod tawelydd yn cael ei roi, ar adeg ac mewn lleoliad cyfleus, os bydd angen
P8 cynnal asesiad corfforol o’r ceffyl, gan ganolbwyntio ar strwythurau allanol wrth ymyl y deintiad
P9 cynnal archwiliad gweledol ac archwiliad â llaw/â’r bysedd o geg y ceffyl, a chofnodi eich canfyddiadau
P10 esbonio, cynghori a chytuno ar gynllun triniaeth gyda pherchennog/asiant y ceffyl, gan gynnwys cydnabod pan na fydd angen triniaeth
P11 ymgymryd â Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 2 fel y bo’n briodol i’r ceffyl a’r cynllun triniaeth cytunedig, gan sicrhau bod ceffylau wedi cael tawelydd oni ystyrir ei bod hi’n ddiogel ymgymryd ag unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelydd, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog/asiant:
P11.1 archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau ddeintiol
P11.2 gwaredu dannedd rhydd neu dameidiau deintiol gyda bach iawn o atodiadau periodontol
P11.3 gwaredu dannedd blaidd sydd wedi torri trwodd ond heb eu dadleoli yn y safn uchaf neu isaf, o dan oruchwyliaeth uniongyrchol a pharhaus milfeddyg
P11.4 rhathellu dannedd sydd wedi torri a dannedd cyfagos yn lliniarol
P11.5 defnyddio offer deintyddol â motor pan ddefnyddir y rhain i leihau gordyfiant a gwaredu pwyntiau enamel miniog yn unig.
P12 gweithio yn unol â’r ystyriaethau arbennig ar gyfer gwaredu dannedd blaidd sydd wedi torri trwodd ond heb eu dadleoli sy’n Weithdrefn Ddeintyddol Ceffylau Categori 2, fel a ganlyn:
P12.1 dylai milfeddyg roi tawelydd cemegol ac analgesia fel y bo’n briodol, cyn gwaredu’r dannedd blaidd
P12.2 mae’r milfeddyg yn bresennol ar gyfer darparu tawelydd, analgesia ac ôl ofal
P12.3 mae trefniadau wrth gefn ar gyfer cymhlethdodau’n cael eu trefnu cyn dechrau’r weithdrefn
P13 defnyddio cyfarpar â motor yn gywir i osgoi anafiadau iatrogenig i geg ceffyl
P14 nodi ac adnabod pa ddoluriau y mae angen eu cyfeirio at filfeddyg a gwneud yr argymhellion priodol i’r perchennog/asiant
P15 cynnal perthynas waith broffesiynol gyda milfeddyg y ceffyl
P16 cadarnhau bod lles y ceffyl yn cael ei gynnal bob amser ac nad yw eich rhyngweithio â’r ceffyl yn effeithio’n andwyol ar ei ymddygiad
P17 cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol ar iechyd a lles anifeiliaid bob amser
P18 cadarnhau bod dulliau gweithio yn hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn gyson â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
P19 cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch drwy gydol y broses
P20 cynnal eich safonau proffesiynol a’ch moeseg eich hun fel technegydd deintyddol ceffylau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 gofynion y Ddeddf Milfeddygon (1996) yn gysylltiedig â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol ceffylau, yn cynnwys:
K1.1 Categori 1
K1.2 Categori 2
K1.3 Categori 3
K2 y prif risgiau i iechyd a diogelwch yn yr ardal weithio a sut i leihau risgiau i chi’ch hun, i’r ceffyl ac i eraill
K3 sut i drin a rheoli’r ceffyl, yr amrywiaeth o wahanol ddulliau trin a rheoli, a’r defnydd cywir ohonynt
K4 ymddygiad ceffylau, gan gynnwys arwyddion poen, trallod, braw ac osgoi
K5 sut i adnabod pan fydd angen rhoi tawelydd i geffyl, a phan mae’n ddiogel ymgymryd ag unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelydd, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog/asiant
K6 yr anatomi a’r ffisioleg sy’n berthnasol i:
K6.1 geudod y geg
K6.2 y pen
K6.3 y llwybr resbiradol
K6.4 y system draul
K6.5 y system nerfol
K7 y cyfarpar, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE), a’r deunyddiau sy’n ofynnol i gyflawni Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 2, gan gynnwys eu defnydd a’u hylendid cywir, a’u cynnal a chadw’n gywir
K8 y ffactorau sy’n effeithio ar ddewis offerynnau a chyfarpar ar gyfer y gwahanol weithdrefnau Categori 2, a’r defnydd cywir ohonynt
K9 risgiau defnyddio cyfarpar â motor, gan gynnwys risgiau iechyd a diogelwch i bobl a’r anafiadau iatrogenig i’r ceffyl
K10 pwysigrwydd trafod canfyddiadau a thriniaeth gyda’r perchennog/asiant a chael eu cydsyniad i barhau
K11 sut i gyflawni’r Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 2 canlynol:
K11.1 archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau ddeintiol
K11.2 gwaredu dannedd rhydd neu dameidiau deintiol gyda bach iawn o atodiadau periodontol
K11.3 gwaredu dannedd blaidd sydd wedi torri trwodd ond heb eu dadleoli yn y safn uchaf neu isaf, o dan oruchwyliaeth uniongyrchol a pharhaus milfeddyg
K11.4 rhathellu dannedd sydd wedi torri a dannedd cyfagos yn lliniarol
K11.5 defnyddio offer deintyddol â motor pan ddefnyddir y rhain i leihau gordyfiant a gwaredu pwyntiau enamel miniog yn unig.
K12 pwysigrwydd cynllunio wrth gefn ar gyfer cymhlethdodau a beth mae hyn yn ei gynnwys
K13 rôl a phwysigrwydd atgyfeirio i filfeddyg a chyfathrebu â’r milfeddyg
K14 sut i adnabod effaith eich ymddygiad ar y ceffyl a sut i leihau unrhyw effeithiau andwyol ar ei ymddygiad
K15 eich cyfrifoldebau am iechyd a lles anifeiliaid o dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol
K16 eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
K17 pwysigrwydd defnyddio cyfarpar diogelu personol a’r defnydd cywir ohono
K18 dulliau cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam mae’r rhain yn bwysig
K19 eich cyfrifoldebau proffesiynol fel technegydd deintyddol ceffylau
K20 pwysigrwydd cadw’ch gwybodaeth am feddygaeth seiliedig ar dystiolaeth yn gyfredol a sut i’w defnyddio
K21 rôl sefydliadau proffesiynol i gefnogi eich rôl fel technegydd deintyddol ceffylau a’r gofynion am ddatblygiad proffesiynol parhaus
K22 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol ceffylau a phwysigrwydd yswiriant priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth lles anifeiliaid:
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Gweithdrefnau Deintyddol Ceffylau Categori 1, 2 a 3:
Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu cyflawni ar ôl hyfforddiant cydnabyddedig, heb ennill cymwysterau yn benodol:
archwilio’r dannedd;
gwaredu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau â llaw yn unig;
gwaredu gordyfiannau deintiol bach (leihau 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau â llaw yn unig;
proffilio blaen y cilddannedd cyntaf (leihau 4mm ar y mwyaf), sef “siapio sedd genfa” yn flaenorol;
gwaredu dannedd cyntaf rhydd; a
gwaredu calcwlws uwchorfannol
Gweithdrefnau Categori 2
Gweithdrefnau ychwanegol sy’n addas i’w dirprwyo i Dechnegydd Deintyddol Ceffylau (EDT) sydd wedi hyfforddi a phasio arholiad a gymeradwywyd gan DEFRA:
archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau ddeintiol;
gwaredu dannedd rhydd neu dameidiau deintiol gyda bach iawn o atodiadau periodontol;
gwaredu dannedd blaidd sydd wedi torri trwodd ond heb eu dadleoli yn y safn uchaf neu isaf, o dan oruchwyliaeth uniongyrchol a pharhaus milfeddyg;
rhathellu dannedd sydd wedi torri a dannedd cyfagos yn lliniarol; a
defnyddio offer deintyddol â motor pan ddefnyddir y rhain i leihau gordyfiant a gwaredu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylai ceffylau gael tawelydd oni ystyrir ei bod hi’n ddiogel ymgymryd ag unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelydd, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.
Gweithdrefnau Categori 3
Byddai pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy’n codi o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn disgyn i gategori 3 yn uniongyrchol, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi’u cyfyngu i filfeddygon cymwys ac na fwriedir eu dadreoleiddio. Felly, NID yw’n gyfreithlon i’r rhain gael eu cyflawni gan bobl nad ydynt yn filfeddygon.
Ceffyl
At ddiben y safon hon, mae’r gair “ceffyl” yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn/merlen ac equidae eraill.