Cynnal Gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl Categori 1
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl a ddisgrifir fel Gweithdrefnau Categori 1 ac mae'n cynnwys trin ceffylau'n ddiogel, gofal cwsmeriaid, defnyddio offer priodol, hybu lles anifeiliaid a gweithio o fewn cyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol.
Yn unol â Deddf Llawfeddygon Milfeddygol 1966, mae'r holl weithdrefnau diagnostig a thriniaeth yng ngheg y ceffyl yn cael eu hystyried yn weithredoedd llawdriniaeth filfeddygol, ac eithrio tynnu gordyfiannau deintyddol ag offer llaw. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o weithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl wedi eu cyfyngu'n gyfreithiol i lawfeddygon milfeddygol.
Nid yw gweithdrefnau Categori 1 yn cael eu hystyried yn weithredoedd llawdriniaeth filfeddygol ac maent yn hygyrch i dechnegwyr deintyddol teulu'r ceffyl yn dilyn hyfforddiant. Mae gweithdrefnau Categori 1 yn ffurfio rhan o system raddio ar gyfer gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl ac maent wedi cael eu derbyn gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol (RCVS), Cymdeithas Filfeddygol Teulu'r Ceffyl Prydain (BEVA), Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA), Cymdeithas Ddeintyddol Filfeddygol Prydain (BVDA) a Chymdeithas Technegwyr Deintyddol Teulu'r Ceffyl Prydain (BAEDT).
Ceir manylion gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl Categori 1-3 yn yr eirfa.
Mae'r safon hon ar gyfer technegwyr deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun
P2 adnabod a mynd i’r afael â pheryglon iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r ardal waith a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar eich cyfer chi, pobl eraill a’r ceffyl
P3 cael hanes priodol yn ymwneud ag iechyd cyffredinol, clefydau deintyddol a’r geg a thriniaethau deintyddol blaenorol
P4 sicrhau bod yr offer yn cael ei baratoi a’i gydosod ar gyfer ei ddefnyddio, yn cynnwys cyfarpar diogelwch personol
P5 sicrhau bod y ceffyl yn cael ei drin yn briodol i ganiatáu’r archwiliad i gael ei wneud
P6 adnabod amodau, gweithdrefnau/triniaeth ac ymddygiad sy’n dangos bod angen tawelyddu cemegol
P7 cyfathrebu’n broffesiynol gyda llawfeddyg milfeddygol i drefnu tawelyddu ar adeg a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr os oes angen
P8 cynnal asesiad corfforol o’r ceffyl yn ymwneud â strwythurau allanol gerllaw’r deintiad
P9 cynnal archwiliad gweledol a llaw/digidol o geg y ceffyl a chofnodi eich canfyddiadau
P10 esbonio, cynghori a chytuno ar gynllun trin gyda pherchennog/asiant y ceffyl, yn cynnwys cydnabod hynny pan nad oes angen triniaeth
P11 cynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl Categori 1 fel y bo’n briodol ar gyfer y ceffyl a’r cynllun trin cytûn:
P11.1 archwilio’r dannedd
P11.2 tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig
P11.3 tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig
P11.4 proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel ‘ffurfio sedd y ffrwyn’
P11.5 tynnu capiau cyntaf sy’n rhydd
P11.6 tynnu calcwlws gorddeintgigol
P12 adnabod a chydnabod pa anafiadau y mae angen eu hatgyfeirio at lawfeddyg milfeddygol neu dechnegydd deintyddol teulu’r ceffyl achrededig arall a gwneud yr argymhellion priodol
P13 sicrhau bod lles y ceffyl yn cael ei gynnal drwy’r amser ac nad yw eich rhyngweithio chi gyda’r ceffyl yn cael effaith niweidiol ar ei ymddygiad
P14 sicrhau bod y dulliau o weithio’n hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
P15 cynnal eich safonau proffesiynol a’ch moesegau eich hun
P16 cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch drwy’r amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl, yn cynnwys:
G1.1 Categori 1
G1.2 Categori 2
G1.3 Categori 3
G2 y prif beryglon i iechyd a diogelwch yn eich ardal waith a sut i leihau’r perygl i chi eich hun, y ceffyl a phobl eraill
G3 sut i drin a rheoli’r ceffyl, yr ystod o ddulliau gwahanol o drin a rheoli a’u defnydd cywir
G4 ymddygiad teulu’r ceffyl yn cynnwys arwyddion o boen, trallod, braw ac osgoi
G5 sut i gydnabod bod angen tawelyddu’r ceffyl
G6 anatomeg a ffisioleg sy’n berthnasol i:
G6.1 geudod y geg
G6.2 y pen
G6.3 system anadlol
G6.4 system draul
G6.5 system nerfol
G7 yr offer a’r deunydd sy’n ofynnol i gynnal Gweithdrefnau Deintyddol Teulu’r Ceffyl Categori 1, yn cynnwys:
G7.1 defnydd cywir
G7.2 cynnal a chadw
G7.3 hylendid
G7.4 cyfarpar diogelwch personol
G8 sut i ddatblygu cynllun trin gyda pherchennog/asiant y ceffyl, yn cynnwys cydnabod hynny pan nad oes angen unrhyw driniaeth
G9 pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus
G10 y gweithdrefnau cywir ar gyfer archwilio ceg y ceffyl yn weledol ac a llaw/yn ddigidol
G11 sut i gynnal y Gweithdrefnau Deintyddol Teulu’r Ceffyl Categori 1 canlynol:
G11.1 archwilio’r dannedd
G11.2 tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig
G11.3 tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig
G11.4 proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel ‘ffurfio sedd y ffrwyn’
G11.5 tynnu capiau cyntaf sy’n rhydd
G11.6 tynnu calcwlws gorddeintgigol
G12 sut i adnabod y perygl o anafiadau iatrogenig i geg y ceffyl a sut i’w lleihau
G13 hylendid, bioddiogelwch a mesurau rheoli heintiau priodol
G14 sut i adnabod effaith eich ymddygiad eich hun ar y ceffyl a sut i leihau unrhyw effeithiau niweidiol ar ei ymddygiad
G15 egwyddorion a phrif bwyntiau deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol
G16 eich cyfrifoldebau proffesiynol fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl
G17 eich cyfrifoldebau ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol
G18 rôl a phwysigrwydd atgyfeirio at filfeddyg a chyfathrebu rhwng y llawfeddyg milfeddygol a’r technegydd deintyddol teulu’r ceffyl
G19 pwysigrwydd diweddaru eich gwybodaeth yn ymwneud â meddyginiaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a sut i’w chymhwyso
G20 rôl sefydliadau proffesiynol yn cefnogi eich rôl chi fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a’r gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
G21 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.
Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Gweithdrefnau Deintyddol Categori 1, 2 a 3 Teulu'r Ceffyl
Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant cydnabyddedig heb gymhwyster
au penodol.
Archwilio dannedd;
Tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel 'ffurfio sedd y ffrwyn';
Tynnu capiau cyntaf sy'n rhydd; a
Thynnu calcwlws gorddeintgigol.
Gweithdrefnau Categori 2 (Disodli categori 2 ar ddrafft 2004)
Gweithdrefnau ychwanegol sy'n addas i'w dirprwyo i EDT sydd wedi hyfforddi a gwneud arholiad wedi ei gymeradwyo gan DEFRA:
Archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau deintyddol;
Tynnu dannedd rhydd neu ddarnau o ddannedd gyda chysylltiadau periodontol dibwys;
Dynnu dannedd blaidd heb eu disodli sydd yn y golwg yn yr ên uchaf ac isaf o dan oruchwyliaeth filfeddygol uniongyrchol a pharhaus;
Crafu lliniarol dannedd sydd wedi torri a rhai gerllaw; a'r
Defnydd o offer deintyddol peirianyddol pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio i leihau gordyfiant a thynnu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylid tawelyddu ceffylau oni bai ei bod yn cael ei ystyried yn ddiogel i gynnal unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelyddu, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.
Gweithdrefnau Categori 3
Bydd pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy'n deillio o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn dod o dan gategori 3, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi eu cyfyngu i lawfeddygon milfeddygol cymwys sydd heb gael eu cynnig ar gyfer eu dadreoleiddio. NID yw felly'n gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni'r rhain.