Cynnal archwiliadau deintyddol teulu’r ceffyl

URN: LANEDC4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys y gweithredoedd i'w gwneud i gynnal archwiliadau deintyddol teulu'r ceffyl yn unol â gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966).

Mae'n cynnwys asesu'r ceffyl a'i geg, datblygu cynllun trin a chyfathrebu â pherchennog/asiant y ceffyl. Mae'n rhaid i'r arferion gwaith fod yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol ac mae'n rhaid iddynt hybu lles anifeiliaid a safon uchel o hylendid drwy'r amser.

Mae'r safon hon ar gyfer technegwyr deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun

P2 sicrhau bod y perchennog/asiant yn cydsynio i archwilio’r anifail a chofnodi hyn

P3 cael a chofnodi hanes priodol yn ymwneud ag arwyddion iechyd cyffredinol, iechyd deintyddol a chlefydau’r geg, a thriniaethau deintyddol blaenorol

P3 adnabod a dehongli arwyddion ymddygiadol teulu’r ceffyl mewn perthynas ag archwiliad deintyddol teulu’r ceffyl

P5 sicrhau bod y ceffyl yn cael ei drin yn briodol i ganiatáu’r archwiliad i gael ei wneud

P6 adnabod amodau, gweithdrefnau/triniaeth ac ymddygiad sy’n dangos bod angen tawelyddu cemegol

P7 cyfathrebu’n broffesiynol gyda llawfeddyg milfeddygol i drefnu tawelyddu ar adeg a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr os oes angen

P8 sefydlu mesurau i gynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal drwy’r amser

P9 cynnal asesiad corfforol o’r ceffyl yn ymwneud â strwythurau allanol gerllaw’r deintiad

P10 archwilio’r dannedd blaen, y dannedd llygaid, y gofod rhwng y dannedd ac am unrhyw arwyddion o ddannedd blaidd

P11 gosod sbecwlwm priodol yn ddiogel

P12 tynnu bwyd sydd ar ôl trwy olchi

P13 cynnal archwiliad gweledol o geg y ceffyl gan ddefnyddio offer priodol

P14 archwilio ceg y ceffyl â llaw/yn ddigidol

P15 nodi annormaleddau gweledol yn y geg

P16 cofnodi’r canfyddiadau yn glir ac yn gywir, a ffurfio cynllun trin

P17 cynghori ar driniaethau priodol gyda chategorïau a gweithdrefnau wedi eu diffinio a chael cytundeb gan y perchennog/asiant ar gyfer y gwaith i gael ei wneud a’r costau sy’n gysylltiedig, yn cynnwys adegau pan na fydd angen triniaeth

P18 atgyfeirio at lawfeddyg milfeddygol os yw canfyddiadau eich archwiliad deintyddol yn gwneud hynny’n ofynnol mewn perthynas â chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl a’ch galluoedd chi eich hun

P19 atgyfeirio at dechnegydd deintyddol arall teulu’r ceffyl pan fydd canfyddiadau eich archwiliad deintyddol yn gwneud hynny’n ofynnol mewn perthynas â chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl a’ch galluoedd chi eich hun

P20 asesu’r peryglon cysylltiedig a’u cyfathrebu i bobl eraill

P21 sicrhau bod y dulliau o weithio’n hybu iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol

P22 cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol iechyd a lles anifeiliaid bob amser

P23 sicrhau bod lles y ceffyl yn cael ei gynnal drwy’r amser ac nad yw eich ymddygiad chi yn achosi adweithiau niweidiol

P24 cynnal eich safonau proffesiynol a’ch moesegau eich hun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl, yn cynnwys:

G1.1 Categori 1
G1.2 Categori 2
G1.3 Categori 3

G2 pwysigrwydd cael a chofnodi cydsyniad gwybodus cyn dechrau’r gwaith

G3 sut i adnabod a dehongli ymddygiad teulu’r ceffyl a’r amodau pan fydd angen tawelyddu er mwyn cynnal archwiliad

G4 anatomeg a ffisioleg teulu’r ceffyl sy’n berthnasol i:

G4.1 geudod y geg
G4.2 y pen
G4.3 system anadlol
G4.4 system draul
G4.5 system nerfol

G5 deddfwriaeth sy’n llywodraethu’r defnydd o feddyginiaethau anifeiliaid

G6 effaith tawelyddu ar y ceffyl a sut bydd hynny’n effeithio ar eich arferion gwaith a’r technegau a ddefnyddir

G7 ymddygiad teulu’r ceffyl yn cynnwys arwyddion osgoi, poen, diffyg maeth, poen yn y geg, clefydau’r geg lle y bo’n berthnasol

G8 ymwybyddiaeth o gyflyrau sy’n achosi arwyddion sy’n debyg i gyflyrau deintyddol

G9 pathogenau sy’n berthnasol i glefydau’r geg yn nheulu’r ceffyl

G10 arwyddion o glefydau trosglwyddadwy

G11 ymwybyddiaeth o berygl milheintiol wrth weithio gyda cheffylau

G12 diheintio, sterileiddio a rheoli lledaenu clefydau

G13 anatomeg datblygiadol dannedd ceffylau a heneiddio

G14 anhwylderau deintyddol datblygiadol

G15 y weithred o gnoi a thraul deintiad teulu’r ceffyl

G16 clefydau traul sy’n effeithio ar ddannedd teulu’r ceffyl

G17 patholeg dannedd teulu’r ceffyl yn cynnwys: toriadau deintyddol, pydredd, clefyd bywyn, clefyd periodontol

G18 gweithdrefnau cywir i gynnal archwiliadau’r geg yn ddiogel

G19 offer ar gyfer archwiliadau a thriniaethau’r geg

G20 sbecwla ceg priodol ar gyfer archwiliadau’r geg, yn cynnwys defnydd a gofal cywir

G21 triniaethau fel mater o drefn i gywiro anhwylderau patholeg deintyddol yn cael eu caniatáu o fewn cylch gorchwyl y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966)

G22 triniaethau y mae angen atgyfeirio i filfeddygon ar eu cyfer, ac arwyddion delweddu diagnostig milfeddygol

G23 triniaethau y mae angen eu hatgyfeirio i dechnegwyr deintyddol eraill teulu’r ceffyl oherwydd cyfyngiadau eich hyfforddiant a’ch profiad

G24 ymddygiad proffesiynol wrth gydweithredu â gweithwyr proffesiynol a phara-broffesiynol eraill

G25 pwysigrwydd trafod canfyddiadau a thriniaeth gyda’r perchennog/asiant a chael cydsyniad i barhau

G26 dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae’n bwysig

G27 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol

G28 pwysigrwydd a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelwch personol

G29 eich cyfrifoldebau ar gyfer dyletswydd gofal anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid

G30 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.

Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011

Gweithdrefnau Deintyddol Categori 1, 2 a 3 Teulu'r Ceffyl

Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant cydnabyddedig heb gymhwyster
au penodol.
Archwilio dannedd;
Tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel 'ffurfio sedd y ffrwyn';
Tynnu capiau cyntaf sy'n rhydd; a
Thynnu calcwlws gorddeintgigol.

Gweithdrefnau Categori 2 (Disodli categori 2 ar ddrafft 2004)
Gweithdrefnau ychwanegol sy'n addas i'w dirprwyo i EDT sydd wedi hyfforddi a gwneud arholiad wedi ei gymeradwyo gan DEFRA:
Archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau deintyddol;
Tynnu dannedd rhydd neu ddarnau o ddannedd gyda chysylltiadau periodontol dibwys;
Dynnu dannedd blaidd heb eu disodli sydd yn y golwg yn yr ên uchaf ac isaf o dan oruchwyliaeth filfeddygol uniongyrchol a pharhaus;
Crafu lliniarol dannedd sydd wedi torri a rhai gerllaw; a'r
Defnydd o offer deintyddol peirianyddol pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio i leihau gordyfiant a thynnu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylid tawelyddu ceffylau oni bai ei bod yn cael ei ystyried yn ddiogel i gynnal unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelyddu, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.

Gweithdrefnau Categori 3
Bydd pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy'n deillio o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn dod o dan gategori 3, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi eu cyfyngu i lawfeddygon milfeddygol cymwys sydd heb gael eu cynnig ar gyfer eu dadreoleiddio. NID yw felly'n gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni'r rhain.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEDC4

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

archwiliad deintyddol; teulu’r ceffyl; dannedd blaen; dannedd llygaid; dannedd blaidd