Paratoi ar gyfer gwneud gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys y gwaith paratoi sydd ei angen i gynnal gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl ac yn cynnwys yr amgylchedd gwaith, offer a chael gwybodaeth am y ceffyl a'i hanes.
Mae'r gwaith paratoi yn caniatáu rhoi blaenoriaeth i les anifeiliaid, bioddiogelwch ac iechyd a diogelwch a'i gyfathrebu i bobl eraill yng nghyd-destun iechyd cyffredinol y ceffyl, clefydau cyfochrog a'r amgylchedd.
Mae'r safon hon ar gyfer technegwyr deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun
P2 sefydlu’r angen am wasanaethau gyda pherchennog/asiant y ceffyl
P3 sefydlu cyswllt gyda pherchennog/asiant y ceffyl a/neu’r llawfeddyg milfeddygol wrth gyrraedd
P4 egluro a chadarnhau’r gwaith fydd yn cael ei wneud, amcangyfrif y gost a’r dull o dalu
P5 adnabod a mynd i’r afael â’r peryglon iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r ardal waith a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar eich cyfer chi eich hun, pobl eraill a’r ceffyl
P6 cyfathrebu’r peryglon a’r camau i’w lleihau ar gyfer pobl eraill yn yr ardal waith
P7 lleoli’r ceffyl i gael ei drin a sefydlu lle addas i wneud y gwaith
P8 adnabod a dehongli arwyddion o ymddygiad y ceffyl mewn perthynas ag archwilio dannedd ceffylau
P9 adnabod cyflyrau, gweithdrefnau/triniaeth ac ymddygiad sy’n dangos bod angen tawelyddu cemegol
P10 cyfathrebu’n broffesiynol gyda llawfeddyg milfeddygol i drefnu tawelyddu ar adeg a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr os oes angen
P11 dewis offer a chyfarpar priodol a sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n gywir
P12 sefydlu mesurau i sicrhau hylendid a bioddiogelwch a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal drwy’r amser
P13 defnyddio’r cyfarpar diogelwch personol priodol
P14 paratoi’r hylif diheintio priodol
P15 cysylltu offer trydanol yn ddiogel a sicrhau eu bod yn cael eu cadw i ffwrdd o ddŵr a’r ceffyl
P16 sicrhau bod yr holl offer yn cael eu lleoli o fewn cyrraedd hawdd ond lle na fyddant yn cael eu niweidio
P17 canfod hanes y ceffyl a’i les yn cynnwys:
P17.1 ei oed a’i gyflwr
P17.2 unrhyw broblemau yn bwyta neu pan gaiff ei farchogaeth
P17.3 pryd cafodd dannedd y ceffyl eu gwirio ddiwethaf a chan bwy
P17.4 adolygu’r siartiau deintyddol blaenorol os oedd rhai
P17.5 hanes trin a/neu dawelyddu ar gyfer triniaeth ddeintyddol yn y gorffennol
P17.6 dyheadau’r perchennog/asiant ar gyfer y ceffyl
P17.7 pwy yw’r llawfeddyg milfeddygol presennol a hanes milfeddygol perthnasol
P17.8 statws brechu presennol
P17.9 amgylchedd a hwsmonaeth y ceffyl
P18 cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a diogelwch anifeiliaid perthnasol bob amser
P19 cynnal eich safonau proffesiynol a’ch moesegau eich hun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl, yn cynnwys:
G1.1 Categori 1
G1.2 Categori 2
G1.3 Categori 3
G2 pwysigrwydd cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol a sut y gellir cyflawni hyn
G3 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol
G4 pwysigrwydd a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelwch personol
G5 yr amrywiaeth o offer sydd ar gael i gynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl a sut i ddewis yr offer mwyaf priodol ar gyfer y dasg
G6 arferion gwaith diogel ar gyfer defnyddio offer trydanol yn cynnwys:
G6.1 paratoi
G6.2 cysylltu â ffynhonnell bŵer
G6.3 safle
G7 sut i ddefnyddio a chynnal yr offer sy’n ofynnol i gynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl
G8 pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus perchennog/asiant y ceffyl cyn ymdrin a thrin
G9 y ffioedd ar gyfer y gwasanaethau a sut y caiff y rhain eu cyfrifo yn cynnwys costau a threthi a’r rhesymau dros bob math o ffi
G10 sut i asesu’r peryglon cyn cynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl
G11 sut i leihau’r peryglon i chi eich hun, y ceffyl a phobl eraill
G12 cyfreithiau sy’n llywodraethu’r defnydd o feddyginiaethau anifeiliaid
G13 ymddygiad anifeiliaid (teulu’r ceffyl) yn cynnwys arwyddion osgoi, poen, diffyg maeth, poen geneuol, clefydau geneuol lle bo’n berthnasol
G14 sut i ddewis a pharatoi amgylchedd gwaith addas a chynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl
G15 sut i ddewis a pharatoi diheintydd addas
G16 sut i gael hanes gan berchennog/asiant y ceffyl a pherthnasedd:
G16.1 ei oed a’i gyflwr
G16.2 unrhyw broblemau yn bwyta neu’n cael ei farchogaeth
G16.3 pryd y cafodd dannedd y ceffyl eu gwirio ddiwethaf a chan bwy
G16.4 adolygu siartiau deintyddol blaenorol os oedd rhai
G16.5 hanes trin a/neu dawelyddu ar gyfer triniaeth ddeintyddol yn y gorffennol
G16.6 dyheadau’r perchennog/asiant ar gyfer y ceffyl
G16.7 pwy yw’r llawfeddyg milfeddygol presennol a hanes milfeddygol perthnasol
G16.8 statws brechu presennol
G16.9 amgylchedd a hwsmonaeth y ceffyl
G17 yr arwyddion a’r symptomau sy’n creu amheuaeth o glefyd heintus ar iard
G18 eich cyfrifoldebau o ran dyletswydd gofal anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol iechyd a lles anifeiliaid
G19 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.
Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011
Gweithdrefnau Deintyddol Categori 1, 2 a 3 Teulu'r Ceffyl
Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant cydnabyddedig heb gymhwyster
au penodol.
Archwilio dannedd;
Tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel 'ffurfio sedd y ffrwyn';
Tynnu capiau cyntaf sy'n rhydd; a
Thynnu calcwlws gorddeintgigol.
Gweithdrefnau Categori 2 (Disodli categori 2 ar ddrafft 2004)
Gweithdrefnau ychwanegol sy'n addas i'w dirprwyo i EDT sydd wedi hyfforddi a gwneud arholiad wedi ei gymeradwyo gan DEFRA:
Archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau deintyddol;
Tynnu dannedd rhydd neu ddarnau o ddannedd gyda chysylltiadau periodontol dibwys;
Dynnu dannedd blaidd heb eu disodli sydd yn y golwg yn yr ên uchaf ac isaf o dan oruchwyliaeth filfeddygol uniongyrchol a pharhaus;
Crafu lliniarol dannedd sydd wedi torri a rhai gerllaw; a'r
Defnydd o offer deintyddol peirianyddol pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio i leihau gordyfiant a thynnu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylid tawelyddu ceffylau oni bai ei bod yn cael ei ystyried yn ddiogel i gynnal unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelyddu, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.
Gweithdrefnau Categori 3
Bydd pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy'n deillio o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn dod o dan gategori 3, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi eu cyfyngu i lawfeddygon milfeddygol cymwys sydd heb gael eu cynnig ar gyfer eu dadreoleiddio. NID yw felly'n gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni'r rhain.