Trin a rheoli’r ceffyl er mwyn cynnal gweithdrefnau deintyddol

URN: LANEDC2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys trin a rheoli ceffylau yn waraidd er mwyn gallu cynnal gweithdrefnau Deintyddol Teulu'r Ceffyl, ac mae'n lleihau'r peryglon i'r ceffyl, y triniwr, i chi a phobl eraill.

Byddwch yn gallu asesu'r peryglon cysylltiedig, nodi dulliau gwaraidd priodol o drin a rheoli'r ceffyl a'i ofynion, a defnyddio'r dulliau hyn yn effeithiol ac yn ddiogel. Byddwch yn gallu ystyried y ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad y ceffyl.

Bydd angen i chi gyfathrebu gydag eraill i gytuno ar y gofynion ar gyfer trin a rheoli er mwyn sicrhau:

bod diogelwch y personél, yn cynnwys chi eich hun, yn cael ei gynnal
bod lles yr anifail yn cael ei gynnal
bod yr offer priodol yn cael ei ddewis a'i ddefnyddio'n gywir

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd angen trin a rheoli ceffyl er mwyn cynnal gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun

P2 dewis amgylchedd gwaith diogel i chi eich hun, y ceffyl a phobl eraill

P3 adnabod a mynd i’r afael â’r peryglon mewn perthynas â’r ardal waith a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar eich cyfer chi eich hun, pobl eraill a’r ceffyl

P4 trafod a chytuno ar y gofynion trin gyda phobl eraill er mwyn i’r gweithdrefnau deintyddol gael eu gwneud yn ddiogel ac yn effeithlon

P5 sicrhau cydsyniad gan y perchennog/asiant i drin a chynnal gweithdrefnau deintyddol ar yr anifail

P6 defnyddio’r cyfarpar diogelwch personol priodol

P7 dewis dull o drin a rheoli gwaraidd sy’n briodol ar gyfer y ceffyl a’i ofynion er mwyn lleihau’r perygl i’r anifail, y triniwr, chi eich hun a phobl eraill

P8 cyfathrebu’n broffesiynol gyda llawfeddyg milfeddygol i drefnu tawelyddu os oes angen

P9 paratoi offer trin

P10 wynebu’r ceffyl mewn ffordd sy’n hybu lles anifeiliaid, yn lleihau gorbryder i’r anifail ac yn cynnal iechyd a diogelwch

P11 trin a rheoli’r ceffyl gan ddefnyddio’r dull a’r offer a ddewiswyd

P12 addasu’r ffordd o drin a rheoli’r ceffyl mewn ymateb i’w adweithiau a’i ymddygiad

P13 mabwysiadu sefyllfa sy’n ddiogel i’r ceffyl a chi eich hun ac sy’n galluogi gweithdrefnau deintyddol i gael eu cynnal

P14 sicrhau bod lles yr anifail yn cael ei gynnal drwy’r amser

P15 sicrhau nad yw eich dull o drin y ceffyl yn cael effaith niweidiol ar ei ymddygiad

P16 asesu’r peryglon cysylltiedig a sicrhau bod y dulliau o weithio’n hybu iechyd a diogelwch ac yn gyson â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol

P17 cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol iechyd a diogelwch bob amser

P18 cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch drwy’r amser

P19 cynnal eich safonau proffesiynol a’ch moesegau eich hun fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl a chategorïau gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl, i gwmpasu:

G1.1 Categori 1
G1.2 Categori 2
G1.3 Categori 3

G2 y dulliau gwahanol o drin a rheoli’r peryglon i chi eich hun, pobl eraill a’r ceffyl

G3 pam y gall fod angen trin a rheoli’r ceffyl a sut y gallai hyn effeithio ar y dull a ddewisir

G4 yr ystod o offer gwahanol a ddefnyddir ar gyfer trin a rheoli a sut i asesu addasrwydd eu defnydd

G5 sut i gynllunio trin a rheoli’r ceffyl

G6 sut i asesu’r peryglon sy’n gynhenid i drin a rheoli’r ceffyl

G7 y cyflyrau lle mae angen tawelyddu a rôl y llawfeddyg milfeddygol

G8 ffactorau a allai achosi trallod neu fraw i’r ceffyl

G9 sut i adnabod ac asesu arwyddion trallod a braw yn y ceffyl

G10 sut i adnabod sefyllfaoedd neu gyflyrau pan nad yw’n addas i berson wynebu, trin neu reoli’r ceffyl heb gymorth a chanlyniadau posibl gwneud hynny

G11 sut i adnabod amgylchedd gwaith addas

G12 sut i adnabod safleoedd gweithio addas fydd yn lleihau’r perygl o anaf neu salwch personol

G13 sut i wynebu, codi, dal a gweithio gyda phen y ceffyl

G14 terfynau gweithio diogel o amgylch y geg

G15 rhagofalon i atal anafiadau i’r ceffyl

G16 sut i leihau perygl i chi eich hun, y ceffyl a phobl eraill

G17 pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus y perchennog/asiant ar gyfer trin ac unrhyw weithdrefnau deintyddol

G18 pwysigrwydd cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch a sut y gellir cyflawni hyn

G19 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a dioglewch a chodau ymarfer perthnasol

G20 pwysigrwydd a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelwch personol

G21 eich cyfrifoldebau ar gyfer dyletswydd gofal anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol iechyd a lles anifeiliaid

G22 eich cyfrifoldebau proffesiynol fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl

G23 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol wrth weithio fel technegydd deintyddol teulu’r ceffyl a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.

Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011

Ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad teulu'r ceffyl:
oed
brîd
rhyw
statws iechyd
tymer
amgylchedd
profiadau
dylanwadau allanol

Gweithdrefnau Deintyddol Categori 1, 2 a 3 Teulu'r Ceffyl

Gweithdrefnau Categori 1
Y gweithdrefnau hynny y gall unigolyn eu perfformio ar ôl cael hyfforddiant cydnabyddedig heb gymwyster
au penodol.
Archwilio dannedd;
Tynnu pwyntiau enamel miniog gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Tynnu gordyfiannau deintyddol bach (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf) gan ddefnyddio rhathellau llaw yn unig;
Proffilio gylfinog dannedd y boch cyntaf (gostyngiad o 4mm ar y mwyaf), a ddiffiniwyd yn flaenorol fel'ffurfio sedd y ffrwyn';
Tynnu capiau cyntaf sy'n rhydd; a
Thynnu calcwlws gorddeintgigol.

Gweithdrefnau Categori 2 (Disodli categori 2 ar ddrafft 2004)
Gweithdrefnau ychwanegol sy'n addas i'w dirprwyo i EDT sydd wedi hyfforddi a gwneud arholiad wedi ei gymeradwyo gan DEFRA:
Archwilio, gwerthuso a chofnodi annormaleddau deintyddol;
Tynnu dannedd rhydd neu ddarnau o ddannedd gyda chysylltiadau periodontol dibwys;
Dynnu dannedd blaidd heb eu disodli sydd yn y golwg yn yr ên uchaf ac isaf o dan oruchwyliaeth filfeddygol uniongyrchol a pharhaus;
Crafu lliniarol dannedd sydd wedi torri a rhai gerllaw; a'r
Defnydd o offer deintyddol peirianyddol pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio i leihau gordyfiant a thynnu pwyntiau enamel miniog yn unig. Dylid tawelyddu ceffylau oni bai ei bod yn cael ei ystyried yn ddiogel i gynnal unrhyw weithdrefn arfaethedig heb dawelyddu, gyda chydsyniad gwybodus llawn y perchennog.

Gweithdrefnau Categori 3
Bydd pob gweithdrefn arall ac unrhyw weithdrefnau newydd, sy'n deillio o ganlyniad i ddatblygiad gwyddonol a thechnegol, yn dod o dan gategori 3, sef y gweithdrefnau hynny sydd wedi eu cyfyngu i lawfeddygon milfeddygol cymwys sydd heb gael eu cynnig ar gyfer eu dadreoleiddio. NID yw felly'n gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon gyflawni'r rhain.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEDC2

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

ceffyl; trin; rheoli; atal