Cynllunio a rheoli hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal gweithdrefnau deintyddol teulu’r ceffyl

URN: LANEDC1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i chi gymryd pob cam angenrheidiol i weithio i'r safon orau o hylendid priodol bob amser, gan gymryd pob cam ymarferol i osgoi trawsheintio rhwng ceffylau a bodau dynol, a chwarae eich rhan ym mioddiogelwch y sefydliadau yr ydych yn ymweld â nhw.

Bydd angen eich bod wedi paratoi protocolau ar gyfer eich holl weithdrefnau hylendid ymarferol ar gyfer yr adeilad yr ydych yn ymweld ag ef a'ch adeilad eich hun, ac ar gyfer eich cerbyd, eich offer a chi eich hun. Byddwch yn gallu asesu'r peryglon sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â nhw trwy addasu eich arferion gwaith a chyfathrebu gydag eraill. Bydd gennych wybodaeth am glefydau heintus penodol ac yn dyfeisio mesurau i osgoi lledaenu clefydau ac osgoi peryglu bioddiogelwch yr adeiladau gwahanol y byddwch yn ymweld â nhw.

Fel rhywun sy'n gweithio gyda cheffylau, dylech fod yn eiriolydd arferion bioddiogelwch da yn sector teulu'r ceffyl.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n cynnal gweithdrefnau deintyddol teulu'r ceffyl. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon sicrhau bod yr ymarfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau diweddar, a'u bod yn gweithio o fewn cyfyngiadau eu hawdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'u profiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 dyfeisio protocol hylendid a chynnal system hylendid, yn cynnwys diheintio, ar gyfer:

P1.1 chi eich hun

P1.2 eich offer

P1.3 eich cerbyd

P1.4 eich prif adeilad

P2 sicrhau bod y system hylendid yn cael ei chymhwyso:

P2.1 yn ystod gweithdrefn

P2.2 rhwng ceffylau

P2.3 rhwng adeiladau

P2.4 ar ddiwedd y diwrnod gwaith

P3 sicrhau bod y system hylendid yn cynnwys:

P3.1 dulliau glân o weithio

P3.2 glanhau offer, dillad, blychau offer, cerbydau a lloriau

P3.3 diheintio’r holl eitemau hynny

P3.4 gwaredu eitemau tafladwy halogedig

P3.5 storio ac ymdrin ag eitemau halogedig nad ydynt yn rhai tafladwy yn ddiogel

P4 dewis a defnyddio diheintwyr a/neu sterileiddio priodol fel rhan o’ch system hylendid

P5 dewis, cael a defnyddio cyfarpar diogelwch personol sy’n hybu hylendid a bioddiogelwch yn gywir

P6 dewis a chael offer sy’n hwyluso glanweithdra a hylendid

P7 ystyried nodweddion ar offer a allai gyfyngu ar lanhau a diheintio

P8 adnabod arwyddion o iechyd da mewn ceffylau

P9 adnabod arwyddion a symptomau mewn ceffyl sy’n awgrymu y gallai fod ganddynt glefyd heintus

P10 addasu eich arferion gwaith a’ch rhagofalon i ymdrin â pheryglon hysbys neu yr amheuir yn ymwneud â chlefydau

P11 cydnabod hynny pan ddylid tynnu sylw llawfeddyg milfeddygol at unrhyw arwyddion neu symptomau y gallech fod wedi sylwi arnynt mewn ceffyl

P12 cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol ar gyfer hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd hysbysadwy

P13 cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol ar gyfer diheintio neu waredu eitemau halogedig penodol

P14 cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol ar gyfer gwaredu cemegau

P15 cyfathrebu peryglon ynghylch hylendid a bioddiogelwch i bobl eraill yn yr adeilad

P16 gweithio yn unol â’r Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) a chyfyngiadau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a’ch profiad eich hun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​G1 diffiniadau sterileiddio, diheintio a glanhau a phryd y dylid eu defnyddio

G2 y rhesymau dros lanhau a diheintio yn eich gwaith

G3 sut i ddyfeisio protocolau hylendid ar gyfer eich gwaith eich hun

G4 y rhesymau dros bwysigrwydd glendid a glanhau cyn diheintio

G5 mathau o gyfarpar diogelwch personol a allai gynorthwyo glanweithdra a diheintio a sut i gael offer o’r fath

G6 sut i ddefnyddio cyfarpar diogelwch personol yn gywir, yn cynnwys:

G6.1 sut i’w lanhau

G6.2 sut i’w storio’n ofalus pan mae wedi ei halogi

G6.3 os yw’n dafladwy, sut i’w waredu’n gywir

G7 y nodweddion a allai fod yn angenrheidiol wrth ddewis diheintydd

G8 nodweddion penodol diheintwyr priodol, yn cynnwys:

G8.1 y dull o’u defnyddio

G8.2 cyfradd wanhau

G9 cyflymder gweithredol diheintydd ar y tymheredd yr ydych yn fwyaf tebygol o’i ddefnyddio yn eich gwaith

G10 enwau generig cemegau diheintio cyffredinol sydd:

G10.1 yn addas ar gyfer gwaith deintyddol teulu’r ceffyl

G10.2 yn anaddas ar gyfer gwaith deintyddol teulu’r ceffyl

G11 y wybodaeth fydd yn ymddangos ar ddiheintydd wedi ei labelu’n gywir a sut i’w ddehongli mewn termau ymarferol ar gyfer eich gwaith

G12 effeithiau niweidiol neu beryglon posibl y diheintwyr yr ydych yn eu defnyddio a’r wybodaeth y dylech ei rhoi i bobl eraill yn ymwneud â pheryglon

G13 unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer ymdrin neu waredu diheintwyr yn ddiogel, a sut y gellir bodloni’r rhain

G14 unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer protocolau diheintio

G15 gofynion cyfreithiol ar gyfer gwaredu eitemau halogedig, a sut i’w bodloni

G16 nodweddion dylunio offer a allai rwystro glanhau a diheintio, a ffyrdd ymarferol naill ai o osgoi neu ymdrin â nodweddion o’r fath

G17 rhagofalon ychwanegol neu wahanol y gallai fod eu hangen yn eich protocol os byddwch yn dod ar draws clefyd heintus

G18 arwyddion neu symptomau sy’n creu amheuaeth o glefyd heintus mewn ceffyl, a’r clefydau mwy cyffredin a allai fod yn gysylltiedig a phwy ddylid eu hysbysu

G19 gofynion y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966) mewn perthynas â’ch rôl

G20 arwyddion neu symptomau y byddai’n ei wneud yn ofynnol i chi hysbysu llawfeddyg milfeddygol a pha glefydau y dylid hysbysu yn eu cylch

G21 ffyrdd y gellir trosglwyddo heintiau, yn gyffredinol ac mewn perthynas â chlefydau cyffredin penodol a sut y mae hyn yn effeithio ar y rhagofalon y dylid eu cymryd

G22 y diffiniad o’r term milheintiol a pheryglon milheintiol cyffredin wrth weithio gyda cheffylau

G23 y diffiniad o fioddiogelwch a’r angen amdano mewn adeilad yr ydych yn ymweld ag ef, a sut i’w gynnal tra’n gwneud eich gwaith

G24 cyfyngiadau technegau (fel ymgais i ddiheintio teiars cerbyd) a ddefnyddir yn gyffredin mewn bioddiogelwch, a’r defnydd o dechnegau a phrotocolau effeithiol

G25 sut y gallai mesurau bioddiogelwch amrywio yn ôl ardal ddaearyddol a sefyllfaoedd presennol clefydau

G26 ffynonellau gwybodaeth fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw glefydau heintus

G27 pwysigrwydd cyfathrebu pryderon ac arsylwadau i eraill, gan roi sylw dyledus i gyfrinachedd cleientiaid a gofynion cyfreithiol

G28 eich atebolrwydd cyfreithiol a phroffesiynol a phwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Ceffyl
At ddiben y safon hon mae'r term ceffyl yn cynnwys asyn, mul, bastard mul, merlyn a cheffylau eraill.

Deddfwriaeth lles anifeiliaid
Cymru a Lloegr – Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Yr Alban – Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 2006
Gogledd Iwerddon – Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEDC1

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hylendid; bioddiogelwch; trawsheintio; ceffylau; gweithdrefnau deintyddol