Cynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i’r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn. Mae pwyslais yr ymddygiadwr teulu'r ci yn un sydd yn hwyluso newid ymddygiad o ran y berthynas rhwng y ci â'r person o ran ymddygiad arferol cŵn a chynghori a rhoi cyfarwyddyd i'r perchennog/triniwr ar dechnegau addasu ymddygiad a chyfathrebu a seicoleg cŵn.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod yr arferion hyfforddiant y maent yn eu hargymell yn adlewyrchu gwybodaeth bresennol, technegau hyfforddiant perthnasol, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol. Byddant yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, achrediad, cymhwyster ac arbenigedd hyfforddiant, ac wedi datblygu gwybodaeth a phrofiad o adsefydlu cŵn â phroblemau ymddygiad, gyda chymorth astudiaethau addas sydd yn benodol i deulu'r ci. Dylai fod ganddynt brofiad helaeth o hyfforddi a thrin cŵn, yn cwmpasu bridiau a mathau amrywiol o fewn pob ystod oedran. Dylent hefyd fod â phrofiad o gyfathrebu â pherchnogion/trinwyr a'u hyfforddi.
Bydd angen i ymddygiadwyr teulu'r ci fod yn ymwybodol o'u cyfyngiadau eu hunain a chadarnhau eu bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol iechyd a lles anifeiliaid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymddygiadwyr teulu'r ci achrededig a chymwys a/neu sydd wedi cael hyfforddiant addas, sydd wedi cael y profiad ymarferol perthnasol yn ymdrin â rhywogaethau o gŵn, gyda chymorth gan hyfforddiant ac addysg mewn ymddygiad yn ymwneud â theulu'r ci a thechnegau ymarferol hyfforddi cŵn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac sydd yn benodol i gŵn, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â chŵn
asesu a darparu ar gyfer anghenion iechyd a lles y ci
- rheoli a rheoleiddio lleoliad perthnasol ar gyfer yr ymgynghoriad â'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant
- cynnal asesiad risg a chynnal diogelwch a lles y ci a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, a bod yn ymwybodol o unrhyw ffactorau y tu hwnt i'ch rheolaeth yn barhaus
- cael a dehongli'r wybodaeth berthnasol am y ci ac achosion posibl yr ymddygiad annymunol gan ddefnyddio ystod o ffynonellau
- asesu a gwerthuso'r berthynas rhwng y ci â'r perchennog/triniwr yn barhaus yn yr amgylchedd arferol, yn cynnwys deinameg cartref neu ddeinameg amgylcheddol, am ei addasrwydd i addasu ymddygiad (e.e. presenoldeb anifeiliaid eraill, pobl eraill)
- asesu cyflwr corfforol a chyflwr emosiynol y ci, gan ystyried cyfnodau bywyd y ci (h.y. ci bach, ifanc, oedolyn, hŷn), cyn ac yn ystod y broses ymgynghori, gan adnabod arwyddion straen, gorbryder, ofnau, ffobiâu, atgasedd, poen, gwrthdaro ac osgoi, ac ymateb yn briodol
- trafod a rhyngweithio gyda'r ci mewn ffordd addas sydd yn caniatáu asesu, profi natur, ac addasu ymddygiad yn ddiogel ac yn effeithiol, ac yn osgoi creu ymddygiad a allai achosi pryderon o ran lles
- cynllunio rhaglen wedi ei strwythuro o newid ymddygiad a hyfforddiant, gan gymhwyso egwyddorion damcaniaeth ddysgu i gŵn a phobl
- dewis y newid ymddygiad â'r dulliau hyfforddiant â'r adnoddau mwyaf perthnasol, ar gyfer y ci penodol, y perchennog/triniwr â'r canlyniad dymunol, gan ystyried tystiolaeth wyddonol gyfredol, profiad blaenorol, arferion trugarog a deddfwriaeth
- trafod a chytuno ar y rhaglen i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol gyda'r perchennog/triniwr a chael cydsyniad gwybodus cyn rhoi'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant ar waith, gan sicrhau bod y perchennog/triniwr yn deall pwysigrwydd eu rôl yn cyflawni a chynnal yr ymddygiad dymunol ar ôl ei gyrraedd
- rhoi'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant ar waith yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogewlwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer ac unrhyw bolisïau neu weithdrefnau eraill sydd yn berthnasol i'r rhaglen neu'r lleoliad
dangos i'r perchennog/triniwr sut i roi'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant ar waith, yn cynnwys y defnydd diogel o gyfarpar penodol lle y bo'n briodol, i sicrhau bod iechyd, lles a diogelwch y ci yn cael ei gynnal
nodi arddulliau dysgu penodol y ci ac addasu'r rhaglen yn unol â hynny, gan roi sylw dyledus i nodweddion penodol brîd a chymhellion ysgogiadol
- cynorthwyo'r perchennog/triniwr i gyflawni a chynnal y canlyniad dymunol
- adnabod, deall a gweithredu ar arwyddion o straen y perchennog/triniwr, yn cynnwys nodi cyfathrebu perthnasol nad yw'n llafar
- monitro'r effaith y mae'r newid ymddygiad â'r rhaglen hyfforddiant wedi ei chael ar iechyd a lles y ci a chydnabod unrhyw effeithiau niweidiol
- dangos i'r perchennog/triniwr sut i roi cymorth ac adborth i'r ci i ddatblygu perthynas effeithiol a monitro'r rhyngweithio rhwng y ci â'r perchennog/triniwr yn barhaus
monitro cynnydd y ci â'r perchennog/triniwr tuag at gyflawni'r newid ymddygiad â'r rhaglen hyfforddiant a'u haddasu fel y bo angen
cydnabod pan na ellir cyflawni canlyniad dymunol y rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant a chymryd camau priodol
- cydnabod eich cyfyngiadau eich hun ac atgyfeirio'r **ci at weithiwr proffesiynol priodol lle bo angen e.e. ymddygiadwr teulu'r ci amgen, llawfeddyg milfeddygol
- cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gydag eraill sydd yn gysylltiedig â'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant a chreu adroddiadau lle bo angen
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cynnal ymddygiad proffesiynol a moesegol a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cynnal cymhwysedd proffesiynol trwy gynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac sydd yn benodol i gŵn, polisïau lleol a chodau ymarfer, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thriniaeth clefyd neu anaf
sut gellir asesu a mynd i'r afael ag anghenion lles y cŵn yr ydych yn ymgysylltu â nhw cyn ac yn ystod addasu ymddygiad
- sut i gael a dehongli gwybodaeth am y ci ac asesu unrhyw ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad yn cynnwys achosion meddygol posibl dros yr ymddygiad annymunol a phwysigrwydd cael diagnosis milfeddygol
- beth i'w ystyried wrth asesu addasrwydd y ci i wneud rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol
- pwysigrwydd asesu gallu'r perchennog/triniwr i gyflawni a chynnal ymddygiad dymunol eu ci
- y damcaniaethau seicoffarmacolegol a dull rhyngweithio'r prif ddosbarthiadau cyffuriau a ddefnyddir mewn ymddygiad clinigol anifeiliaid a allai fod wedi cael eu gweinyddu i'r ci, e.e. gan lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
- rôl maeth a fferomonau ar ymddygiad ci
- sut mae cŵn yn dysgu â'r ffactorau corfforol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu, yn cynnwys ffordd o fyw y ci a'r perchennog/triniwr yn eu hamgylchedd naturiol
- yr egwyddorion, y technegau â'r dulliau a ddefnyddir mewn rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant a beth i'w ystyried wrth ddewis y dechneg â'r dull mwyaf priodol o hyfforddiant ar gyfer ci, ymddygiad neu ganlyniad dymunol penodol
- sut i gynllunio a gweithredu rhaglen wedi ei strwythuro o newid ymddygiad a hyfforddiant i gyflawni amcanion sydd yn Benodol, yn Fesuradwy, yn Gyraeddadwy, yn Realistig ac wedi eu Targedu (SMART)
- pwysigrwydd trafod y rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant gyda'r perchennog/triniwr a chael eu dealltwriaeth a'u cytundeb i gyflawni eu dyletswydd i gadw at y rhaglen
- y defnydd cywir â'r camddefnydd posibl o'r cyfarpar hyfforddiant sydd ar gael, yr effeithiau ffisiolegol a seicolegol ar y ci a'i iechyd a'i les a phwysigrwydd addysgu'r perchennog/triniwr am arfer da
ystyriaethau cyfreithiol, lles a moesegol y math o hyfforddiant a ddefnyddir, goblygiadau peidio â hyfforddi mewn ffordd briodol a chanlyniadau caniatáu i gi fod allan o reolaeth
y defnydd o atgyfnerthu cadarnhaol a negyddol ac effeithiau'r ymagweddau hyn ar ymddygiad, iechyd a lles ci
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles, codau ymarfer cysylltiedig ac unrhyw bolisïau neu weithdrefnau sydd yn berthnasol i'r rhaglen neu'r lleoliad
- y rhagosodiadau, achoswyr a dangosyddion y cylch gorbryder a straen mewn cŵn
- sut i sicrhau bod lles y ci yn cael ei gynnal drwy'r amser ac nad yw eich ymddygiad chi neu'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod yn y ci
sut i adnabod, gwerthuso a mynd i'r afael ag ymatebion ymddygiadol trwy gydol rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant
pwysigrwydd gwerthuso'r holl wybodaeth sydd ar gael yn barhaus cyn ac yn ystod addasu ymddygiad, neu pan fydd ci yn arddangos ymddygiad annisgwyl
- anatomeg a ffisioleg ci a sut gall hyfforddiant, cyfarpar a thrafod ci effeithio ar ymatebion ymddygiadol y ci
- sut i gynorthwyo'r perchennog/triniwr i gyflawni a chynnal y canlyniad dymunol â'r effaith y gall y rhyngweithio rhwng y perchennog/triniwr â'r ci ei gael ar gynnal yr ymddygiad annymunol
- y rhesymau pam nad yw'r ci neu'r perchennog/triniwr yn gwneud cynnydd i gyflawni'r canlyniad dymunol a phwysigrwydd monitro a gwerthuso cynnydd ac adolygu a diwygio'r rhaglen newid ymddygiad a hyfforddiant
- sut i gydnabod pan nad yw dulliau addasu ymddygiad yn briodol ar gyfer y ci, perchennog/triniwr neu ddiben neu rôl y ci
- cyfathrebu nad yw'n llafar a dangosyddion straen y triniwr â'r camau i'w cymryd
pryd i ymyrryd a phryd i beidio ymyrryd tra bod y perchennog neu'r triniwr yn ymarfer cyfarwyddyd
sut a phryd i ddefnyddio cŵn prawf wrth addasu ymddygiad a gwerth monitro a dehongli adwaith y ci prawf tra'n cynnal eu hiechyd, eu diogelwch a'u lles
pwysigrwydd cael cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol mwy profiadol, ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a phryd dylid atgyfeirio ci at lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
- pwysigrwydd a pherthnasedd cadw cofnodion ac adroddiadau cwir a phwysigrwydd cadw at ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a phwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth i’w hystyried wrth gynnal asesiad o’r ci:
- natur a difrifoldeb yr ymddygiad a nodir
- hanes bywyd
- cyflwr corfforol a galluogrwydd
- oed a chyfnod datblygiad
- iechyd a hanes meddygol, yn cynnwys meddyginiaeth gyfredol ac yn y gorffennol
- deiet
statws atgenhedlu
cyfnod hormonaidd
- lefel bresennol yr hyfforddiant ac unrhyw addasu ymddygiad a wnaed yn flaernorol
- natur/priodweddau/nodweddion
- brîd a rhieni
symbylwyr ysgogiadol ac effeithiau
amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddiant neu ddysgu
- deddfwriaeth
Galluogrwydd a photensial y triniwr:
- anghenion corfforol y triniwr
- anghenion dysgu y triniwr
- anghenion seicolegol y triniwr
- amgylchedd (yn cynnwys presenoldeb anifeiliaid neu bobl eraill)
- adnoddau
Adnoddau:
- personél
- cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant
- cymhorthion/cyfarpar trafod
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Gallai adroddiadau fod ar gyfer:
perchennog/triniwr
llawfeddyg milfeddygol
- awdurdod lleol neu gyfreithiol
- llysoedd
- cwmnïau yswiriant
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd a chael yr hyder i'w gweithredu.
- dangos dibynadwyedd a chadernid gyda sefyllfaoedd anodd
aros yn ddigyffro ac yn hyderus, ymateb yn rhesymegol ac yn bendant mewn sefyllfaoedd anodd
ymateb i heriau yn rhesymegol, gan ystyried emosiynau'r ci â'r perchennog/triniwr
- rheoli amwysedd ac ymdrin ag ansicrwydd a rhwystredigaeth wrth weithio gyda'r ci â'r triniwr
- rheoli pwysau a thensiwn sydd yn gwrthdaro yn ystod yr ymgynghoriad a hyfforddiant y perchennog/triniwr â'r ci
ymwrthod ag unrhyw bwysau i wneud penderfyniadau cyflym pan fydd angen ystyriaeth lawn
cadw ffocws a rheolaeth ym mhob sefyllfa yn ystod hyfforddiant
sefyll yn gadarn yn ymwneud â phenderfyniad os mai hynny yw'r peth iawn i'w wneud
arddangos sgiliau rhyngbersonol cadarn
- cael adborth cleientiaid a gweithredu yn unol â hynny
Sgiliau
Geirfa
Cŵn – pob ci sydd wedi ei ddofi yn cynnwys cŵn gwaith
Gallai ffynonellau gwybodaeth gynnwys:
- y cleient
- trydydd parti (e.e. llawfeddyg milfeddygol)
- arsylwi
- cofnodion
Amcanion SMART:
- Penodol (Specific) – A yw’r amcan wedi ei ddiffinio’n dda ac yn glir? A yw’n nodi yn union beth sydd i gael ei gyflawni?
- Mesuradwy – Sut byddaf yn gwybod pan mae amcan wedi cael ei gyflawni? Sut olwg fydd ar lwyddiant?
- Cyraeddadwy (Achievable) – A yw’r amcan yn gyraeddadwy o ystyried galluedd y ci?
- Realistig – All y canlyniad gael ei gyflawni gyda’r adnoddau, gwybodaeth â'r amser sydd ar gael?
- Targedu - A yw’r amcan yn targedu maes penodol ar gyfer gwella
Atgyfeirio – yn cynnwys atgyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at gorff, unigolyn neu sefydliad proffesiynol
Cŵn Profi:
Cynorthwyo mynd i’r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn eraill
pryfociwr – nodi’r trothwy achosi (dylid defnyddio hwn yn gyfyngedig)
- cŵn sydd yn sefydlog yn ymddygiadol ac wedi eu hyfforddi a’u dewis yn arbennig
Dolenni I NOS Eraill
LANCTB1 – Arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn
LANCTB2 – Trafod a rheoli cŵn