Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr. Mae'r pwyslais ar hyfforddi'r triniwr i hyfforddi'r ci yn hytrach na hyfforddi'r ci yn uniongyrchol ac mae angen profiad gyda hyfforddiant cŵn a hyfforddi'r triniwr.
Mae'r safon yn cynnwys dylunio a datblygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer trinwyr a chŵn trwy osod amcanion a thargedau. Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso'r ffordd y caiff y rhaglen hyfforddiant ei gweithredu a monitro cynnydd y triniwr â'r ci.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod arferion hyfforddi yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf, technegau hyfforddi perthnasol polisïau a gweithdrefnau. Byddant yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, achrediad, cymhwyster ac arbenigedd hyfforddiant, ac yn meddu ar wybodaeth ddatblygedig a phrofiad o hyfforddi cŵn, gyda chymorth astudiaethau sydd yn benodol i deulu'r ci, sydd yn drugarog ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Dylent hefyd fod â phrofiad o gyfathrebu â thrinwyr a'u hyfforddi.
Gall yr hyfforddwr hyfforddiant cŵn fod yn gweithio mewn amgylchedd grŵp ac yn hynny o beth bydd angen sgiliau yn cynnwys rheoli grwpiau o drinwyr ynghyd â chŵn. Byddant yn hyfforddwyr cŵn profiadol a bydd ganddynt ddealltwriaeth manwl o sgiliau hyfforddi pobl, dysgu damcaniaethau ac ystod eang o sgiliau cyfathrebu.
Mae bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch yn hanfodol bwysig.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer hyfforddwyr profiadol, wedi eu hyfforddi'n briodol sydd yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi hyfforddiant ar waith yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig ac unrhyw bolisïau a gweithdrefnau sydd yn berthnasol i'r hyfforddiant neu'r lleoliad
- cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, polisïau a chodau ymarfer lleol yn ymwneud â chŵn bob amser
- cytuno a chadarnhau diben a chanlyniadau bwriadol yr hyfforddiant gyda phob parti perthnasol a rheoli'r disgwyliadau ar gyfer y ci â'r triniwr
- asesu addasrwydd y ci perthnasol i wneud yr hyfforddiant, yn seiliedig ar wybodaeth o ystod o ffynonellau perthnasol
- asesu'r triniwr a'u gallu i wneud a chynnal yr hyfforddiant, gan ystyried cyflwr corfforol a chyflwr emosiynol y ci
- asesu cyflwr corfforol a chyflwr emosiynol y ci, gan ystyried cyfnod bywyd y ci (h.y. ci bach, ifanc, oedolyn, hŷn), cyn ac yn ystod hyfforddiant, gan adnabod arwyddion straen, gorbryder, ofnau ffobiâu, atgasedd, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi, ac ymateb yn briodol
- asesu anghenion hyfforddiant y ci â'r triniwr a chynllunio rhaglen hyfforddiant wedi ei strwythuro sydd yn Benodol, yn Fesuradwy, yn Gyraeddadwy, yn Realistig ac wedi ei Thargedu (SMART)
- dewis y dulliau â'r adnoddau hyfforddi gofynnol, ar gyfer y ci yr ydych yn gweithio gydag ef, y triniwr â'r canlyniad hyfforddi dymunol, gan ystyried tystiolaeth wyddonol gyfredol, profiad blaenorol, arferion trugarog a deddfwriaeth berthnasol
- trafod y rhaglen hyfforddi gyda'r triniwr a chael eu dealltwriaeth a'u cytundeb i gyflawni eu dyletswydd i gadw at raglen hyfforddiant wedi ei strwythuro
- dewis lleoliad addas i wneud yr hyfforddiant, a chynnal asesiad risg i gynnal diogelwch a lles y ci a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- trafod a rhyngweithio gyda'r ci mewn ffordd sydd yn caniatáu i hyfforddiant gael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn osgoi creu ymddygiad a allai achosi pryderon o ran lles
- cadarnhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio yn ddiogel ac yn effeithiol i gyflawni nodau hyfforddiant a diogelu lles y ci
- cydnabod arddull dysgu penodol y ci ac addasu hyfforddiant yn unol â hynny, gan ystyried nodweddion sydd yn benodol i frîd a symbylwyr ysgogiadol
rhoi arweiniad ac adborth i drinwyr ar eu perfformiad trwy gydol yr hyfforddiant
adnabod, deall a gweithredu ar arwyddion straen y triniwr, yn cynnwys perthnasedd cyfathrebu nad yw'n llafar
- arddangos technegau hyfforddi gyda chŵn sydd yn berchen i chi neu eraill
- rheoli cyflwyno a chyfathrebu gydag unigolyn neu unigolion o fewn grwpiau o feintiau amrywiol a lle bo angen, gweithio gydag unigolion y tu allan i'r grŵp i gadarnhau bod perfformiad yn cael ei gynnal yn y grŵp
- monitro effaith yr hyfforddiant ar iechyd a lles y ci a chydnabod os yw'r rhaglen hyfforddiant neu dasg benodol yn debygol o fod yn niweidiol yn y tymor byr neu'r hirdymor
- monitro cynnydd y ci â'r triniwr tuag at gyflawni rhaglen hyfforddiant, ac addasu dulliau hyfforddiant neu ganlyniadau dymunol lle bo angen
- dangos i'r triniwr sut i roi adborth addas i'r ci i ddatblygu perthynas effeithiol a monitro'r rhyngweithio rhwng y ci â'r triniwr yn barhaus
- gwybod pan nad yw'n bosibl i'r ci neu'r triniwr gyflawni canlyniad hyfforddi a chymryd camau priodol
- cydnabod eich cyfyngiadau eich hun ac atgyfeirio at weithiwr proffesiynol priodol lle bo angen e.e. uwch hyfforddwr, ymddygiadwr teulu'r ci neu lawfeddyg milfeddygol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- cynnal ymddygiad proffesiynol a moesegol a gweithio o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd, profiad â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cynnal cymhwysedd proffesiynol trwy gynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a gweithio o fewn gofynion y sefydliad proffesiynol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn benodol i gŵn, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y ffordd y gellir asesu a thrin anghenion lles cŵn yr ydych yn ymgysylltu â nhw cyn ac yn ystod hyfforddiant
- diben hyfforddi'r ci a chanlyniad dymunol yr hyfforddiant
- sut i gael a dehongli gwybodaeth am y ci â'r triniwr ac unrhyw ffactorau a allai effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddi
- pwysigrwydd asesu addasrwydd y ci â'r triniwr i wneud yr hyfforddiant yn cynnwys
- pwysigrwydd arsylwi ac asesu ymddygiad a chyflwr cŵn cyn ac yn ystod gweithgareddau hyfforddiant a chymryd camau priodol fel sydd angen
- anatomeg a ffisioleg gweithredol cŵn a sut i asesu effeithiau tymor byr a hirdymor posibl yr hyfforddiant ar iechyd a lles y ci, yn ffisiolegol ac yn seicolegol
- sut mae cŵn yn dysgu â'r ffactorau ffisegol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu, yn cynnwys ffordd o fyw gyda'r triniwr yn eu hamgylchedd arferol
- sut mae pobl yn dysgu â'r ffactorau ffisegol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu
- yr egwyddorion, y technegau â'r dulliau a ddefnyddir wrth hyfforddi cŵn a thrinwyr, a beth i'w ystyried wrth ddewis y dechneg â'r dull perthnasol o hyfforddiant ar gyfer ci penodol neu ganlyniad hyfforddi dymunol
- y defnydd cywir â'r camddefnydd posibl o'r cyfarpar hyfforddi sydd ar gael, yr effaith ffisiolegol a seicolegol ar y ci a'i iechyd a'i les a phwysigrwydd addysgu'r triniwr mewn arfer da
- goblygiadau peidio hyfforddi mewn ffordd addas, a chanlyniadau caniatáu i gi fod allan o reolaeth
- y defnydd o atgyfnerthu cadarnhaol a negyddol ac effeithiau'r ymagweddau hyn ar ymddygiad, iechyd a lles cŵn
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a diogelwch, codau ymarfer cysylltiedig ac unrhyw bolisïau neu weithdrefnau sydd yn berthnasol i'r hyfforddiant neu'r lleoliad
- sut i roi mesurau iechyd a diogelwch ar waith i sicrhau bod system hyfforddiant ddiogel wedi ei sefydlu ac yn cael ei dilyn yn ystod hyfforddiant, yn cynnwys y mesurau sydd yn ofynnol i atal anaf i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r sesiwn hyfforddiant, neu wedi eu heffeithio ganddi
- sut i adnabod, gwerthuso a mynd i'r afael ag ymddygiad y ci trwy gydol yr hyfforddiant yn cynnwys straen, gorbryder, ofnau, ffobiâu, atgasedd, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi
- sut i reoli a gofalu am grŵp o drinwyr gyda chŵn o fewn amgylchedd hyfforddi
- sut i sicrhau bod lles y ci yn cael ei gynnal drwy'r amser ac nad yw eich ymddygiad neu ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod i'r ci
- y cyfathrebu nad yw'n llafar a dangosyddion straen i'r triniwr â'r camau i'w cymryd
- y ffactorau a allai effeithio ar gynnydd a llwyddiant yr hyfforddiant a phwysigrwydd monitro a gwerthuso ei gynnydd ac adolygu ac ailymweld â'r rhaglen hyfforddiant lle bo angen
- sut i wybod pan fydd canlyniadau hyfforddiant yn dangos nad yw'r triniwr a/neu'r ci yn addas ar gyfer y gweithgaredd y maent yn cael eu hyfforddi ar ei gyfer neu nad ydynt yn addas i weithio gyda'i gilydd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'r rhaglen hyfforddiant
- pwysigrwydd cael cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol mwy profiadol, ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a phryd dylid atgyfeirio ci at lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
- pwysigrwydd a pherthnasedd cadw cofnodion hyfforddiant yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data perthnasol a pholisi sefydliadol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
- pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i gynnal cymhwysedd proffesiynol a rôl cyrff proffesiynol a chymdeithasau
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth am y ci i gael ei hystyried wrth ddylunio rhaglen
- hyfforddiant:
- hanes bywyd
- cyflwr a galluogrwydd corfforol
oed a chyfnod datblygiad
iechyd a hanes meddygol
- deiet
- statws atgenhedlu
- cyfnod hormonaidd
- lefel hyfforddiant presennol
- natur/priodweddau/nodweddion
- brîd a rhieni
- symblywyr ysgogiadol ac effeithiau
- amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddiant neu ddysgu
- deddfwriaeth
Galluogrwydd a photensial y triniwr:
- anghenion corfforol y triniwr
- anghenion dysgu y triniwr
- anghenion seicolegol y triniwr
- amgylchedd (yn cynnwys presenoldeb anifeiliaid neu bobl eraill)
- adnoddau
Adnoddau:
- personél
- cymhorthion/cyfarpar hyfforddiant
- cymhorthion/cyfarpar trafod
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- adlewyrchu ar eich perfformiad eich hun yn y sesiwn hyfforddiant
- adlewyrchu ar brofiadau o hyfforddiant yn y gorffennol
- bod yn hawdd mynd atoch a gwneud amser ar gyfer y ci â'r trinwyr hyd yn oed pan fyddwch o dan bwysau
- bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd a chael yr hyder i'w gweithredu
- dangos dibynadwyedd a chadernid gyda sefyllfaoedd anodd
- aros yn ddigyffro ac yn hyderus, ymateb yn rhesymegol ac yn bendant mewn sefyllfaoedd anodd
- meddwl yn glir, rheoli gwrthdaro ac ymdrin â gelyniaeth a phryfociad mewn ffordd dawel ac ymataliol
- ymateb i heriau yn rhesymegol, gan osgoi emosiwn amhriodol
- cynnal moeseg proffesiynol wrth wynebu pwysau gan eraill
- rheoli amwysedd ac ymdrin ag ansicrwydd a rhwystredigaeth wrth weithio gyda'r ci â'r triniwr
- sefyll yn gadarn yn ymwneud â phenderfyniad os mai hynny yw'r peth iawn i'w wneud
- canfod ffyrdd newydd o ddatrys problemau
ymwrthod ag unrhyw bwysau i wneud penderfyniadau cyflym pan fydd angen ystyrliaeth lawn
cadw ffocws a rheolaeth ym mhob sefyllfa yn ystod hyfforddiant
- cael adborth y cleient a gweithredu yn unol â hynny
Sgiliau
Geirfa
Cŵn – pob ci sydd wedi ei ddofi yn cynnwys cŵn gwaith
Triniwr – y person sydd yn hyfforddi'r ci yn ystod y sesiwn a gall fod yn berchennog y ci neu beidio
Gallai ffynonellau gwybodaeth gynnwys:
- y cleient
trydydd parti (e.e. llawfeddyg milfeddygol)
arsylwi
cofnodion
Amcanion SMART:
Penodol (Specific) – A yw'r amcan wedi ei ddiffinio'n dda ac yn glir? A yw'n nodi yn union beth sydd i gael ei gyflawni?
Mesuradwy – Sut byddaf yn gwybod pan mae amcan wedi cael ei gyflawni? Sut olwg fydd ar lwyddiant?
Cyraeddadwy (Achievable) – A yw'r amcan yn gyraeddadwy o ystyried galluedd y ci?
Realistig – All y canlyniad gael ei gyflawni gyda'r adnoddau, gwybodaeth â'r amser sydd ar gael?
Targedu - A yw'r amcan yn targedu maes penodol ar gyfer gwella
Asesiad risg deinamig – y broses barhaus o nodi peryglon, asesu risg, gweithredu i ddileu neu leihau risg, monitro ac adolygu
Atgyfeirio – yn cynnwys atgyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at gorff, unigolyn neu sefydliad proffesiynol
Anatomeg a ffisioleg gweithredol i gynnwys:
- ysgerbydol
- fertebrol
- systemau nerfol ac endocrin
Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966)
Mae'n rhaid i lawfeddyg milfeddygol gynnal pob math o therapi ategol sydd yn cynnwys gweithredoedd neu ymarfer llawfeddygaeth filfeddygol, yn amodol ar unrhyw eithriad yn y Ddeddf. Ar yr un pryd, mae'n ddyletswydd ar lawfeddygon milfeddygol
Dolenni I NOS Eraill
LANCTB1 – Arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn
LANCTB2 – Trafod a rheoli cŵn
LANCTB3 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn
LANCTB5 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygaid annymunol mewn cŵn