Cynllunio a rhoi rhaglenni hyfforddiant ar waith ar gyfer cŵn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a rhoi rhaglenni hyfforddiant ar waith ar gyfer cŵn. Mae'r pwyslais ar gyfer y safon hon ar hyfforddi cŵn yn hytrach na hyfforddi'r perchennog/triniwr.
Byddai hyn yn cynnwys hyfforddi cŵn sydd yn anifeiliaid anwes/cydymaith, yn ogystal â chŵn gwaith (e.e. cŵn tywys, cŵn defaid, cŵn chwilio ac achub, cŵn ar gyfer pobl anabl/cymorth), am gyfnod sefydlog i ffwrdd o'r amgylchedd naturiol â'r triniwr ac os nad yw'r hyfforddwr yn berchen ar y ci.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon gadarnhau bod arferion hyfforddiant yn adlewyrchu gwybodaeth bresennol, technegau hyfforddi perthnasol, polisïau a gweithdrefnau. Byddant yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, achrediad, cymhwyster ac arbenigedd yr hyfforddiant, ac yn meddu ar wybodaeth a phrofiad datblygedig o hyfforddi cŵn, gyda chymorth astudiaethau perthnasol sydd yn benodol i deulu'r ci, sydd yn drugarog ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol iechyd a lles anifeiliaid yn hynod o bwysig.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer hyfforddwyr cŵn profiadol sydd wedi cael hyfforddiant addas sydd yn gyfrifol am gynllunio a rhoi rhaglenni hyfforddiant ar waith ar gyfer cŵn.
Mae hyfforddi ci a pherchennog/triniwr wedi ei gynnwys yn LANCTB4 Cynllunio a rhoi rhaglenni hyfforddiant ar waith ar gyfer cŵn a thrinwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â chŵn
- asesu a darparu ar gyfer anghenion iechyd a lles y ci
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisi sefydliadol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- cadarnhau a chytuno ar y diben y mae'r ci yn cael ei hyfforddi ar ei gyfer a chanlyniadau dymunol yr hyfforddiant gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- asesu addasrwydd y ci perthnasol i wneud yr hyfforddiant, yn seiliedig ar wybodaeth o ystod o ffynonellau perthnasol
- asesu cyflwr corfforol ac emosiynol y ci, gan ystyried cyfnod bywyd y ci (h.y. ci bach, ifanc, oedolyn, hŷn), cyn ac yn ystod yr hyfforddiant, gan gydnabod arwyddion straen, gorbryder, ofnau, ffobiâu, atgasedd, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi, ac ymateb yn unol â hynny
- asesu anghenion hyfforddiant y ci a chynllunio rhaglen wedi ei strwythuro o hyfforddiant, gan gymhwyso egwyddorion damcaniaeth ddysgu a chadarnhau bod gweithgareddau yn cael eu cynllunio'n drwyadl ar gyfer yr hyfforddwr â'r ci a bod adolygiad a datblygiad pellach yn cael ei gynnwys yn y cynllun
- dewis y dulliau â'r adnoddau hyfforddi gofynnol, ar gyfer y ci penodol â'r canlyniad hyfforddi dymunol, gan roi ystyriaeth ddyledus i dystiolaeth wyddonol gyfredol, profiad blaenorol, arferion trugarog â'r ddeddfwriaeth berthnasol
- dewis lleoliad addas i wneud yr hyfforddiant
- cynnal asesiad risg cyn ac yn ystod yr hyfforddiant, gan gynnal iechyd a lles cŵn, unrhyw anifeiliaid eraill a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- trafod a rhyngweithio gyda'r ci mewn ffordd sydd yn galluogi hyfforddiant i gael ei wneud yn ddiogel ac osgoi creu ymddygiad a allai achosi pryderon o ran lles
- cadarnhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn ddiogel i gyflawni nodau hyfforddiant a diogelu lles y ci
- cefnogi datblygiad y ci a'u hysgogi i gyflawni'r rhaglen hyfforddiant ddymunol
- cydnabod bod gan gŵn arddulliau dysgu gwahanol ac addasu'r hyfforddiant yn unol â hynny gan roi sylw dyledus i nodweddion a symbylwyr ysgogiadol sy'n benodol i frîd
- monitro cynnydd y ci tuag at gyflawni'r rhaglen hyfforddiant
- nodi rhesymau pam nad yw'r ci yn perfformio'n dda, ac addasu'r dulliau hyfforddi neu'r canlyniad dymunol lle bo angen
- monitro effaith yr hyfforddiant ar iechyd a lles y ci a chydnabod a yw'r rhaglen hyfforddiant neu'r dasg benodol yn debygol o fod yn niweidiol yn y tymor byr neu'r hirdymor
- cydnabod pan nad yw'r ci yn gallu cyflawni'r canlyniad hyfforddi a chymryd y camau gofynnol
- cydnabod eich cyfyngiadau eich hun a chael cyngor proffesiynol lle bo angen e.e. uwch hyfforddwr, ymddygiadwr teulu'r ci, neu lawfeddyg milfeddygol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, cymhwysedd a'ch profiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid perthnasol, â'r ddeddfwriaeth sydd yn benodol i gŵn, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anaf
- y ffordd y gall anghenion lles y cŵn yr ydych yn ymgysylltu â nhw gael eu hasesu a'u trin cyn ac yn ystod hyfforddiant
- diben hyfforddi'r ci a chanlyniad dymunol yr hyfforddiant
- sut i gael a dehongli gwybodaeth am y ci ac unrhyw ffactorau a allai effeithio ar ddyluniad rhaglen hyfforddiant
- beth i'w ystyried wrth asesu addasrwydd y ci i wneud yr hyfforddiant yn cynnwys ei anghenion, doniau, galluogrwydd, diddordebau a'i hyder
- pwysigrwydd arsylwi ac asesu cyflwr y ci cyn ac yn ystod gweithgareddau hyfforddi a chymryd camau gofynnol fel y bo angen
- anatomeg a ffisioleg gweithredol ci a sut i asesu effeithiau tymor byr a hirdymor posibl yr hyfforddiant ar iechyd a lles y ci, yn ffisiolegol ac yn seicolegol
- sut mae cŵn yn dysgu'r ffactorau corfforol, seicolegol ac amgylcheddol sydd yn effeithio ar ddysgu, yn cynnwys ffordd o fyw y ci yn eu hamgylchedd arferol
- yr egwyddorion â'r technegau a ddefnyddir wrth hyfforddi cŵn, â'r sgiliau sydd yn berthnasol i nodau dymunol neu'r hyfforddiant i gael ei gyflawni
- sut i gynllunio a gweithredu rhaglen wedi ei strwythuro o hyfforddiant i gyflawni amcanion
- y dulliau gwahanol a ddefnyddir i hyfforddi cŵn a beth i'w ystyried wrth ddewis y dull mwyaf perthnasol o hyfforddiant ar gyfer ci penodol neu ganlyniad hyfforddi dymunol e.e. tystiolaeth wyddonol bresennol, profiad blaenorol, arferion trugarog, neu ddeddfwriaeth berthnasol
- y defnydd cywir â'r camddefnydd posibl o gyfarpar hyfforddiant sydd ar gael â'r effaith ffisiolegol a seicolegol ar y ci a'i iechyd a'i les
- canlyniadau cyfreithiol, lles a moesegol perthnasol y math o hyfforddiant a ddefnyddir, goblygiadau peidio â hyfforddi mewn ffordd addas, a chanlyniadau caniatáu ci i fod allan o reolaeth
- y defnydd o atgyfnerthu cadarnhaol a negyddol ac effeithiau'r ymagweddau hyn ar ymddygiad, iechyd a lles cŵn
- sut i roi mesurau iechyd a diogelwch ar waith i sicrhau bod system hyfforddiant ddiogel ar waith ac yn cael ei dilyn yn ystod hyfforddiant, yn cynnwys mesurau sydd yn ofynnol i atal anaf i'r rheiny nad ydynt yn gysylltiedig â'r sesiwn hyfforddiant
- sut i adnabod, gwerthuso a mynd i'r afael ag ymddygiad trwy gydol yr hyfforddiant yn cynnwys straen, gorbryder, ffobiâu, atgasedd, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi
- sut i wirio bod lles y ci yn cael ei gynnal drwy'r amser ac nad yw eich ymddygiad yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod
- elfennau sylfaenol gofal a rheolaeth cŵn yn yr amgylchedd hyfforddi
- y ffactorau a allai effeithio ar gynnydd a llwyddiant hyfforddiant a phwysigrwydd monitro a gwerthuso ei gynnydd, yr effaith y mae'n ei gael ar y ci, a phryd i ddiwygio'r rhaglen hyfforddiant
- sut i adnabod terfynau cymhwyso hyfforddiant i gyflawni llwyddiant a phryd nad yw'r hyfforddiant yn addas ar gyfer y ci
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r rhaglen hyfforddiant, neu wedi eu heffeithio ganddi
- pwysigrwydd cael cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol mwy profiadol, ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a phryd dylid atgyfeirio ci at lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
- pwysigrwydd a pherthnasedd cadw cofnodion hyfforddiant, trin a storio data yn ddiogel, pwysigrwydd cyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data cyfredol
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
asesu'r wybodaeth ganlynol am y ci wrth ystyried yr addasrwydd ar gyfer yr hyfforddiant arfaethedig:
hanes bywyd
cyflwr a galluogrwydd corfforol
- oed a chyfnod datblygiad
- iechyd a hanes meddygol
- deiet
- statws atgenhedlol
- cyfnod hormonaidd
- lefel hyfforddiant presennol
- natur/priodweddau/nodweddion
- brîd a rhieni
- symblywyr ysgogiadol ac effeithiau
- amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddiant neu ddysgu
- deddfwriaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- adlewyrchu ar eich perfformiad eich hun yn y sesiwn hyfforddiant
- adlewyrchu ar brofiadau hyfforddiant yn y gorffennol
- aros yn ddigyffro ac yn hyderus, ymateb yn rhesymegol ac yn bendant mewn sefyllfaoedd anodd
- ymateb i heriau yn rhesymol, gan ystyried emosiynau'r ci
- rheoli amwysedd ac ymdrin ag ansicrwydd a rhwystredigaeth wrth weithio gyda'r ci
- rheoli pwysau gwrthgyferbyniol a thensiwn wrth hyfforddi'r ci
- ymwrthod ag unrhyw bwysau i wneud penderfyniadau cyflym pan mae angen ystyriaeth lawn
- cadw ffocws a rheolaeth dros bob sefyllfa wrth hyfforddi
Sgiliau
Geirfa
Cŵn – pob ci sydd wedi ei ddofi yn cynnwys cŵn gwaith
Gallai ffynonellau gwybodaeth gynnwys:
- y cleient
- trydydd parti (e.e. llawfeddyg milfeddygol)
- arsylwi
- cofnodion
Amcanion SMART:
- Penodol (Specific) – A yw'r amcan wedi ei ddiffinio'n dda ac yn glir? A yw'n nodi yn union beth sydd i gael ei gyflawni?
- Mesuradwy – Sut byddaf yn gwybod pan mae amcan wedi cael ei gyflawni? Sut olwg fydd ar lwyddiant?
- Cyraeddadwy (Achievable) – A yw'r amcan yn gyraeddadwy o ystyried galluedd y ci?
- Realistig – All y canlyniad gael ei gyflawni gyda'r adnoddau, gwybodaeth â'r amser sydd ar gael?
- Targedu – A yw'r amcan yn targedu maes penodol ar gyfer gwella?
Asesiad risg deinamig – y broses barhaus o nodi peryglon, asesu risg, gweithredu i ddileu neu leihau risg, monitro ac adolygu
Atgyfeirio – yn cynnwys atgyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at gorff, unigolyn neu sefydliad proffesiynol
Anatomeg a ffisioleg gweithredol i gynnwys:
ysgerbydol
fertebrol
systemau nerfol ac endocrin
Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966)
Mae'n rhaid i lawfeddyg milfeddygol gynnal pob math o therapi ategol sydd yn cynnwys gweithredoedd neu ymarfer llawfeddygaeth filfeddygol, yn amodol ar unrhyw eithriad yn y Ddeddf. Ar yr un pryd, mae'n ddyletswydd ar lawfeddygon milfeddygol
Dolenni I NOS Eraill
LANCTB1 – Arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn
LANCTB2 – Trafod a rheoli cŵn
LANCTB4 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr
LANCTB5 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn