Trafod a rheoli cŵn

URN: LANCTB2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â thrafod a rheoli cŵn yn ddiogel ac mae'n addas ar gyfer pob person sydd yn gweithio'n broffesiynol gyda chŵn.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod eu harferion trafod yn adlewyrchu gwybodaeth bresennol, bod y technegau trafod perthnasol a ddefnyddir yn unol â chwmpas a chylch gorchwyl eu rôl yn ogystal ag o fewn y polisïau â’r gweithdrefnau perthnasol. Byddant yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, achrediad, cymhwyster ac arbenigedd trafod, ac yn meddu ar wybodaeth ddatblygedig a phrofiad o fewn maes penodol eu gwaith, gyda chymorth astudiaethau addas sydd yn benodol i deulu'r ci, sydd yn seiliedig ar brofiad ac yn drugarog.

Gall trafod a rheoli cŵn, yn y rhan fwyaf o achosion, ddod yn broses ddeinamig. Bydd y safon hon yn sicrhau y bydd gan ddefnyddwyr y sgiliau angenrheidiol i fod yn hyblyg ac yn ddeinamig yn eu hymagwedd, gan roi sylw dyledus i bob agwedd ar reoli a thrafod cŵn yn ddiogel.

Mae bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol ar gyfer darparu dyletswydd gofal yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid yn hanfodol bwysig.

Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â'r gwaith hwn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  2. cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â chŵn, bob amser
  3. asesu yn barhaus a darparu ar gyfer anghenion iechyd a lles y ci
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithle, polisïau sefydliadol â’r ddeddfwriaeth berthnasol
  5. cytuno a chadarnhau diben trafod y ci a chanlyniad dymunol y trafod gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd
  6. asesu addasrwydd y ci i gael ei drafod, yn seiliedig ar wybodaeth o ystod o ffynonellau perthnasol

  7. asesu cyflwr corfforol a chyflwr emosiynol y ci, gan ystyried cyfnod bywyd y ci (h.y. ci bach, ifanc, oedolyn, hŷn), cyn ac wrth drafod, gan adnabod arwyddion straen, gorbryder, ofnau, ffobiâu, atgasedd, ymosodedd, poen, gwrthdaro ac osgoi, ac ymateb yn briodol

  8. dewis y dulliau â’r adnoddau gofynnol ar gyfer trafod a rheoli, ar gyfer y ci penodol a chanlyniad dymunol y trafod
  9. mynd at y ci mewn ffordd sydd yn ystyried y brîd ac asesiad o batrymau ymddygiad presennol a hysbys y ci
  10. trafod a rheoli'r ci mewn ffordd sydd yn lleihau trallod neu anaf
  11. gosod a defnyddio cyfarpar yn ddiogel, yn unol â'r amgylchiadau, maint y ci, diben defnyddio'r cyfarpar ac osgoi cynnal neu ddatblygu problemau ymddygiad ychwanegol fel gorbryder, ofn, trallod neu ymosodedd
  12. sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu defnyddio'n ddiogel a'u bod yn diogelu iechyd a lles y ci
  13. defnyddio dulliau trafod a rheoli yn ddiogel ac yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol sydd yn berthnasol i'r dechneg drafod neu'r lleoliad

  14. trafod y ci mewn ffordd sydd yn lleihau risg i iechyd a diogelwch y ci, chi eich hun, anifeiliaid eraill neu'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo

  15. monitro ymddygiad ac ymateb y ci i gael ei drafod, gan adnabod unrhyw newidiadau arwyddocaol a chymryd camau priodol e.e. addasu'r dull o drafod

  16. monitro effaith y trafod ar iechyd a lles y ci ac adnabod a yw'r trafod, neu ran benodol o'r trafod, yn debygol o fod yn niweidiol yn y tymor byr neu'r hirdymor

  17. gwybod pan nad yw trafod y ci yn briodol a nodi dulliau amgen o gyflawni'r canlyniad dymunol, e.e. gyda chi sydd yn ofni cŵn eraill, neu gi sydd yn adweithio i sefyllfaoedd penodol
  18. cydnabod eich cyfyngiadau eich hun a phryd i gael cymorth, ac atgyfeirio'r anifail i berson proffesiynol priodol pan fo angen
  19. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  20. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
  21. gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cysylltiedig

  2. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, a deddfwriaeth sydd yn benodol i gŵn, polisïau a chodau ymarfer lleol, a chyfyngiadau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol yn ymwneud â diagnosis a thriniaeth o glefyd neu anaf

  3. sut gall anghenion lles y cŵn yr ydych yn ymgysylltu â nhw gael eu hasesu a'u trin cyn ac wrth drafod

  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch â’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn

  5. y diben yr ymdrinnir â'r ci ar ei gyfer a'r canlyniad a ddymunir

  6. sut i gael a dehongli gwybodaeth am y ci ac unrhyw ffactorau a allai effeithio ar y dechneg o drafod, yn cynnwys natur a phatrymau ymddygiad arferol

  7. ymddygiad a nodweddion sydd yn benodol i frîd a'u heffaith bosibl ar drafod, ac ymddygiad a allai ddod i'r amlwg o ganlyniad i drafod o'r fath
  8. yr egwyddorion â’r technegau a ddefnyddir i drafod cŵn, â’r sgiliau sydd yn berthnasol i'r nodau â’r trafod dymunol i gael ei gyflawni

  9. y dulliau gwahanol a ddefnyddir i drafod a rheoli cŵn a beth i'w ystyried wrth ddewis y dull mwyaf addas o drafod ar gyfer ci penodol neu ganlyniad dymunol e.g. tystiolaeth wyddonol gyfredol, profiad blaenorol, arferion trugarog, deddfwriaeth, yr anghenion, galluoedd, galluogrwydd, diddordebau, ymosodedd, nodweddion, anghenion emosiynol a chorfforol y ci

  10. sut i ddatblygu cynllun trafod wedi ei strwythuro i gyflawni'r amcanion gofynnol
  11. pam y mae'n bwysig monitro ymateb ci i drafod ac arsylwi unrhyw arwyddion o ymatebion negyddol, pryd dylid adrodd am y rhain, pam a chanlyniadau posibl peidio ag adrodd
  12. pwysigrwydd cydnabod ac asesu ymddygiad a chyflwr cŵn cyn ac yn ystod gweithgareddau trafod ac adolygu a diwygio'r dechneg o drafod lle bo angen
  13. anatomeg a ffisioleg gweithredol ci a sut i asesu effeithiau tymor byr a hirdymor posibl y trafod ar iechyd a lles y ci, yn ffisiolegol ac yn seicolegol

  14. y defnydd cywir â’r camddefnydd posibl o gyfarpar rheoli/trin sydd ar gael ac effeithiau corfforol a seicolegol y rhain ar y ci a'i iechyd a'i les

  15. ystyriaethau cyfreithiol, lles a moesegol y math o drafod a ddefnyddir, goblygiadau peidio â thrafod mewn ffordd briodol, a chanlyniadau caniatáu ci i fod allan o reolaeth
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer ac unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill sydd yn berthnasol i'r dechneg o drafod neu'r lleoliad, a phwysigrwydd cynnal asesiadau risg cyn ac yn ystod y broses drafod
  17. sut i weithredu mesurau iechyd a diogelwch i sicrhau bod arferion trafod diogel wedi eu sefydlu ac yn cael eu dilyn wrth drafod, yn cynnwys y mesurau sydd yn ofynnol i atal anaf i bersonau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â thrafod y ci
  18. y dulliau addas o drafod cŵn yn ddiogel, yn cynnwys pan fydd un neu fwy yn dangos arwyddion o ymosodedd
  19. sut i sicrhau bod lles y ci yn cael ei gynnal drwy'r amser ac nad yw eich ymddygiad yn achosi adweithiau niweidiol, ofn neu drallod

  20. y ffactorau a allai effeithio ar lwyddiant trafod a sut gellir addasu dulliau i wella'r canlyniadau

  21. sut i adnabod terfynau technegau trafod a rheoli effeithiol a phryd maent yn briodol i'w defnyddio
  22. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, â’r ffordd orau o wneud hyn
  23. pwysigrwydd cael cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol mwy profiadol, ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a rôl cyrff a chymdeithasau proffesiynol
  24. y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â thrafod a rheoli cŵn a thrafod a storio data yn ddiogel, pwysigrwydd cyfrinachedd a gofynion deddfwriaeth diogelu data presennol
  25. pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol

Cwmpas/ystod

Gwybodaeth am y ci i gael ei ystyried wrth asesu addasrwydd ar gyfer yr hyfforddiant arfaethedig:

  1. hanes bywyd
  2. cyflwr a galluogrwydd corfforol
  3. oed a chyfnod datblygiad
  4. iechyd a hanes meddygol
  5. deiet
  6. statws atgenhedlu

  7. cyfnod hormonaidd

  8. lefel hyfforddiant presennol
  9. natur/priodweddau/nodweddion
  10. brîd a rhieni
  11. symbylwyr ysgogiadol ac effeithiau
  12. amgylchedd – byw, gweithio, hyfforddiant neu ddysgu
  13. deddfwriaeth

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  • adlewyrchu ar eich perfformiad eich hun mewn perthynas ag arferion trafod
  • adlewyrchu ar brofiadau o drafod yn y gorffennol
  • aros yn ddigyffro a hyderus, gan ymateb yn rhesymegol ac yn bendant mewn sefyllfaoedd anodd
  • ymateb i heriau yn rhesymegol, gan ystyried emosiynau'r ci
  • rheoli amwysedd a thrin ansicrwydd a rhwystredigaeth wrth drafod y ci

  • rheoli pwysau gwrthgyferbyniol a thensiwn wrth drafod y ci

  • ymwrthod â phwysau i wneud penderfyniadau cyflym pan mae angen ystyriaeth lawn
  • cadw ffocws a rheolaeth ym mhob sefyllfa wrth drafod

Sgiliau


Geirfa

Cŵn – pob ci sydd wedi ei ddofi yn cynnwys cŵn gwaith

Gallai ffynonellau gwybodaeth gynnwys:

  • y cleient
  • trydydd parti (e.e. llawfeddyg milfeddygol)
  • arsylwi
  • cofnodion

Amcanion SMART:

  • Penodol (Specific) – A yw'r amcan wedi ei ddiffinio'n dda ac yn glir? A yw'n nodi yn union beth sydd i gael ei gyflawni?
  • Mesuradwy – Sut byddaf yn gwybod pan mae amcan wedi cael ei gyflawni? Sut olwg fydd ar lwyddiant?
  • Cyraeddadwy (Achievable) – A yw'r amcan yn gyraeddadwy o ystyried galluedd y ci?
  • Realistig – All y canlyniad gael ei gyflawni gyda'r adnoddau, gwybodaeth â’r amser sydd ar gael?
  • Targedu – A yw'r amcan yn targedu maes penodol ar gyfer gwella?

Atgyfeirio – yn cynnwys atgyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at gorff, unigolyn neu sefydliad proffesiynol

Anatomeg a ffisioleg gweithredol i gynnwys:

  • ysgerbydol
  • fertebrol
  • systemau nerfol ac endocrin

gweithwyr proffesiynol

  • uwch driniwr

  • ymddygiadwr cŵn

  • llawfeddyg milfeddygol

Deddf Llawfeddygon Milfeddygol (1966)

Mae'n rhaid i lawfeddyg milfeddygol gynnal pob math o therapi ategol sydd yn cynnwys gweithredoedd neu ymarfer llawfeddygaeth filfeddygol, yn amodol ar unrhyw eithriad yn y Ddeddf. Ar yr un pryd, mae'n ddyletswydd ar lawfeddygon milfeddygol


Dolenni I NOS Eraill

LANCTB1 – Arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn

LANCTB3 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn

LANCTB4 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr

LANCTB5 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCTB2

Galwedigaethau Perthnasol

Milfeddyg para-broffesiynol, Gofal anifeiliaid, Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid, Ysgrafellu cŵn, Hyfforddiant ac Ymddygiad Cŵn, Gosod microsglodion mewn anifeiliaid, Therapïau Anifeiliaid, Rheolwr Gofal Anifeiliaid

Cod SOC

6139

Geiriau Allweddol

ci; teulu’r ci; trafod; rheoli