Arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arsylwi, asesu ac ymateb i ymddygiad cŵn.
Mae'r safon yn cynnwys deall ymddygiad arferol y math o gi yr ydych yn gweithio gydag ef ac arsylwi ei ymddygiad presennol. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r ffordd y gallai ffactorau, yn cynnwys eich rhyngweithio chi â'r ci, effeithio ar ei ymddygiad a gwybod sut i ymateb i ymddygiad sydd yn cael ei arsylwi.
Dylid gwneud yr holl weithgareddau yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon fod wedi cael hyfforddiant addas a chadarnhau eu bod yn gweithio o fewn terfynau eu hawdurdod, achrediad, cymhwyster, arbenigedd a'u profiad gyda chymorth astudiaethau addas sydd yn benodol i gŵn, sydd yn drugarog ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio'n broffesiynol gyda chŵn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig yn ymwneud â chŵn
cynnal diogelwch a lles cŵn a phawb sydd yn gysylltiedig â'r gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
arsylwi ymddygiad y ci yr ydych yn gweithio gydag ef, gan ystyried yr ystod o ffactorau a allai effeithio ar ei ymddygiad
- trafod a rhyngweithio gyda'r anifail mewn ffordd sydd yn osgoi creu ymddygiad a allai achosi pryderon lles ac sydd yn galluogi arsylwi ac asesiad i gael ei wneud
- cynnal lles anifeiliaid ac addasu eich hymddygiad eich hun, ac ymddygiad y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo, os oes angen, i osgoi creu ymddygiad annymunol
- adnabod ac ymateb i ymddygiad sydd yn cael ei arsylwi gyda'r ci yr ydych yn gweithio gydag ef
- nodi a chofnodi newidiadau yng nghyflwr corfforol neu ymddygiad y ci a allai nodi problemau iechyd neu les neu broblemau eraill a gwneud argymhellion lle bo angen
- cydnabod eich cyfyngiadau eich hun ac atgyfeirio at weithiwr proffesiynol priodol lle bo angen e.e ymddygiadwr cŵn neu lawfeddyg milfeddygol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaeth sy'n benodol i gŵn, polisïau lleol a chodau ymarfer cysylltiedig, a therfynau cyfreithiol y Ddeddf Llawfeddygon Milfeddygol bresennol, **yn ymwneud â diagnosis a thrin clefydau neu anafiadau
- y ffordd y gall anghenion lles y cŵn yr ydych yn ymgysylltu â nhw gael eu hasesu a'u trin
- sut i arsylwi, asesu ac ymateb yn systematig i ymddygiad y cŵn yr ydych yn gweithio gyda nhw a phwysigrwydd gwneud hyn
- anatomeg a ffisioleg gweithredol cŵn â’r berthynas rhwng y rhain ac ymddygiad
- pwysigrwydd cynnal dealltwriaeth o ymchwil gyfredol i hanes esblygol a newidiadau sydd yn gysylltiedig â rôl a diben cŵn mewn cymdeithas
- patrymau naturiol ac arferol cŵn, yn cynnwys ymddygiad cymdeithasol, hierarchaeth uchafiaeth â’r ffordd y mae cŵn yn cyfathrebu gyda bodau dynol, cŵn eraill a rhywogaethau eraill
- y mathau gwahanol o ymosodedd y mae cŵn yn eu harddangos a sut i adnabod y rhain ac ymateb iddynt
- cyfnodau ymddygiadol, emosiynol a chorfforol cŵn a phwysigrwydd cyfnodau dysgu tyngedfennol
- effaith profiadau blaenorol ar ymddygiad ci ac achos ac effaith ymddygiad cudd sydd wedi ei ddysgu, h.y. effaith natur yn erbyn magwraeth
- ymddygiad a nodweddion sydd yn benodol i frîd a'u heffaith bosibl ar ymddygiad sydd yn gallu dod i'r amlwg
effeithiau statws atgenhedlu a sbardunau rhywiol ar ymddygiad ci
pwysigrwydd gofal, rheolaeth a hwsmonaeth cŵn yn eu hamgylchedd naturiol â’r effaith y gall y rhain eu cael ar ymddygiad
- sut i adnabod cyflyrau ymddygiadol ac emosiynol mewn cŵn, yn cynnwys straen, gorbryder, ofnau, ffobiâu, atgasedd, rhywstredigaeth, ymosodedd, poen, gwrthdaro, osgoi, uchafiaeth, tawelu, chwarae ac ymlacio
- pwysigrwydd a deinameg haid mewn cartref a sut i symud bodau dynol i safle uwch lle bo angen, mewn ffordd gadarnhaol a heb greu ofn a/neu drallod yn y ci
sut mae eich gweithredoedd, neu weithredoedd y rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, yn effeithio ar ymddygiad ci
sut gall ymddygiad gael ei ddylanwadu gan amgylchedd neu hwsmonaeth uniongyrchol y ci â’r ffordd orau o roi cyfrif am ffactorau o'r fath
- arwyddion cynnar newid mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig â salwch, yn ogystal â dangosyddion anaf neu boen, anesmwythdra, clefyd neu drallod
- pwysigrwydd cael cyngor ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol mwy profiadol, ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a phryd dylid atgyfeirio ci at lawfeddyg milfeddygol neu weithiwr proffesiynol arall
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas ag asesu ymddygiad cŵn ac ymdrin â data a'i storio yn ddiogel, pwysigrwydd cyfrinachedd a gofynion deddfwriaeth gyfredol diogelu data
- pwysigrwydd diogelwch yswiriant priodol, yn cynnwys indemnedd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffactorau a allai effeithio ar ymddygiad y ci:
- esblygiad a hanes dofi
- ymddygiad sydd yn nodweddiadol i frîd
- rhieni
- natur
- cyfnod datblygiad (ci bach, ifanc, oedolyn, hŷn)
statws atgenhedlu
statws hormonaidd
- anghenion ysgogiadol (yn cynnwys chwant bwyd, syched, osgoi bygythiad, â’r angen am gyswllt cymdeithasol)
- patrymau cyfathrebu
- cyflyrau emosiynol a meddyliol
- galluoedd canfyddiadol
- trefniadaeth gymdeithasol ac ymddygiad cymdeithasol
- profiadau blaenorol ac ymatebion a ddysgwyd o'r rhain
- ofn, rhwystredigaeth, ymosodedd, straen, poen
- salwch, anaf, anesmwythdra, clefyd a thrallod
- amgylchedd a sbardunau allanol a brofwyd
- rhyngweithio dynol
- rhyngweithio gyda chŵn eraill
- patrymau rheoli a hwsmonaeth
- hierarchaeth uchafiaeth
Cŵn – pob ci sydd wedi ei ddofi, yn cynnwys cŵn gwaith
Atgyfeirio – yn cynnwys atgyfeirio ffurfiol neu anffurfiol at gorff, unigolyn neu sefydliad proffesiynol
Anatomeg a ffisioleg gweithredol i gynnwys:
- Ysgerbydol
- Fertebrol
- Systemau nerfol ac endocrin
Dolenni I NOS Eraill
LANCTB2 – Trafod a rheoli cŵn
LANCTB3 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn
LANCTB4 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer cŵn a thrinwyr
LANCTB5 – Cynllunio a gweithredu rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol mewn cŵn