Gwerthuso a chaffael crofft
URN: LANCSH3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Caiff pob crofft ei reoleiddio gan y Comisiwn Crofftio. Mae gan y tenant a’r perchen-feddiannydd ddyletswydd i:
• Breswylio fel arfer ar eu crofft, neu o fewn 32 o gilometrau oddi wrtho
• Amaethu a chynnal y crofft (Mae hyn yn cyfeirio at y crofft yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynaeafu neu ar gyfer diben pwrpasol arall. Mae hyn yn cynnwys garddwriaeth, cadw anifeiliaid, yn cynnwys dofednod a gwenyn, tyfu cnydau a phlannu coed).
• Peidio â chamddefnyddio neu esgeuluso’r crofft
Unwaith y byddwch wedi penderfynu cymryd y denantiaeth, neu brynu crofft fel perchen-feddiannydd, bydd angen i chi wybod y ffordd orau i’w ddefnyddio, o fewn y ddeddfwriaeth sydd yn llywodraethu’r defnydd o’r tir hwnnw a gweithgareddau a ganiateir.
Mae rhai gweithgareddau ac anifeiliaid angen neu yn ffynnu mewn lleoliadau penodol, ac ar briddoedd penodol, felly mae’n bwysig paru’r lleoliad â’r gweithgaredd er mwyn i’r fenter fod yn llwyddiannus.
Yr hyn y mae derbyn crofft yn ei olygu:
• Ystyriaeth o leoliad daearyddol, hinsawdd, uchder, agwedd, hygyrchedd, agosatrwydd at farchnadoedd neu cwsmeriaid posibl
• Ystyriaethau o’r adeiladau sydd yn ofynnol gan y fenter gyfan ar eich crofft – llety gweithio a byw (lle mae hyn yn ofynnol)
• Sefydlu maint ac ansawdd tir sydd ar gael, yn cynnwys unrhyw ddosraniad a chyfranddaliadau Pori Cyffredin
• Ystyriaeth o gyfyngiadau ariannol, cymhwysedd ar gyfer Grantiau Crofftio a mecanweithiau eraill i gefnogi eich menter.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau caffael crofft.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sydd yn llywodraethu tir crofft a rheoliadau Pori Cyffredin lleol
- penderfynu ar eich gofynion ar gyfer sefydlu crofft
- ymchwilio i argaeledd crofftau addas i’w prynu neu eu cael ar brydles
- ymchwilio i grofftau posibl ar gyfer unrhyw faterion gyda’u lleoliad, fel llifogydd, mynediad, argaeledd cyfleustodau ac amwynderau, cyflwr, cost unrhyw atgyweiriadau neu welliannau a’r gofynion cyfreithiol
- ymchwilio a fydd angen unrhyw newidiadau i’r crofft presennol i ddarparu ar gyfer eich gweithgareddau, y gost, gofynion cyfreithiol a chaniatâd os oes angen
- pennu’r galw yn y farchnad am unrhyw gynnyrch neu wasanaethau yr ydych yn dymuno eu cynnig, a phenderfynu sut byddwch yn cyflenwi eich cwsmeriaid
- canfod yr amrywiadau yn y boblogaeth dymhorol a allai effeithio ar eich busnes
- gwirio’r gofynion cyfreithiol ar gyfer rhedeg crofft ac a oes unrhyw gyfyngiadau pellach ar y defnydd o dir neu eiddo
- pennu’r gofynion llafur i redeg y crofft, a fydd angen i chi gyflogi rhywun a goblygiadau hyn
- gweithio allan faint fydd cost dechrau a gweithredu’r fenter
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i ganfod argaeledd crofftau sydd ar werth neu ar brydles
- addasrwydd a chyflwr y mynediad, i ac o amgylch y crofft
- yr angen am unrhyw ffiniau/gwrychoedd/ffensys arbennig a meintiau unrhyw gaeau
- yr angen i sefydlu a chynnal ffiniau neu adeiladau a chost a goblygiadau cyfreithiol hyn
- cyflwr yr eiddo a chost a goblygiadau cyfreithiol unrhyw waith sydd ei angen
- cost, goblygiadau cyfreithiol a’r caniatâd sydd ei angen am unrhyw newidiadau i’r crofft presennol, yn cynnwys gofynion y Comisiwn Crofftio, Cynllunio Awdurdod Lleol, cydsyniad Asiantaeth Diogelwch Amgylcheddol yr Alban (SEPA) neu asesiadau effaith amgylcheddol gan NatureScot, a allai fod yn angenrheidiol
- argaeledd cyfleustodau cyhoeddus a gwasanaethau prif gyflenwad, yn cynnwys band eang, goblygiadau hyn a’r cyfleoedd ar gyfer creu ynni adnewyddadwy
- argaeledd cyflenwad dŵr ac o ble mae’n dod – trefol, preifat neu wedi ei rannu, a’r ffordd y caiff dŵr ei gyflenwi i’r man yr ydych ei angen, allai fod mewn caeau neu sguboriau
- argaeledd ysgolion, siopau, meddygon, gwasanaethau neu ddarpariaeth arall yn yr ardal
- argaeledd cyflenwyr busnes (porthiant, hadau, gwrtaith, milfeddygon, atgyweiriadau) yn yr ardal
- pwysigrwydd nodi neu sefydlu marchnad ar gyfer unrhyw gynnyrch neu wasanaethau, a chanfod pa gystadleuaeth sydd yno
- y bydd angen i unrhyw broses cynhyrchu bwyd, llety math twristiaid neu fenter addysgol fodloni safonau Awdurdodau Lleol
- y ffordd y gallai eich cynnyrch gael ei gludo at ein cwsmeriaid a chost dosbarthu
- goblygiadau unrhyw lwybrau troed/Hawliau Tramwy cyhoeddus, Fforddfreintiau, Hawliau Mwynau, hawliau chwaraeon neu gyfamodau eraill dros y tir
- unrhyw gyfyngiadau eraill ar y defnydd o’r tir neu’r eiddo e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), statws Adeiladau Rhestredig, gorchmynion diogelu coed neu Ardal(oedd) Amgylcheddol Sensitif (ESA)
- y ffordd y mae rheoliadau pori cyffredin a rheolau nifer yr anifeiliaid y gellir eu bwydo ar fesur penodol o dir yn gweithio a’r ffordd y gallent effeithio ar yr anifeiliaid yr ydych yn dymuno eu cadw
- y gofyniad, er mwyn cael grantiau anifeiliaid, y bydd angen i chi brynu “hawl” ar gyfer maint y stoc yr ydych yn bwriadu ei gadw
- y llafur sydd ei angen i redeg y crofft a goblygiadau cyflogi staff
- y rhwymedigaethau cyfreithiol a busnes arall
- sut i gyfrifo’r gost o ddechrau a gweithredu’r fenter a’r hyn y mae angen ei gynnwys yn y cyfrifiad
- ble i gael gwybodaeth am grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth allai fod ar gael
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a pha fath o gyngor sydd ar gael
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhwymedigaethau busnes yn cynnwys:
• Cofrestriad deiliadaeth, gofynion amgylcheddol, rheoliadau gwastraff, trwyddedau gweithredwyr, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)
• Rheoliadau Defra
• Cynllun Cymorth Ardal Llai Ffafriol (LFASS), Cyfraith Crofftio ynghyd â Rheolau a Rheoliadau treflan/Pori Cyffredin
• Mae cadw anifeiliaid yn gofyn am gofrestru, olrheiniadwyedd, cofnodion meddyginiaethau, cofnodion symud a chludo
• Rheoliadau iechyd a lles anifeiliaid (yn cynnwys cludo anifeiliaid)
• Rheoliadau Iechyd a Diogelwch, Rheoliadau Tân, rheoliadau hylendid, rheoliadau iechyd y cyhoedd
• Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ymwelwyr â’ch eiddo
• Safonau masnachu, gwerthu nwyddau
• Ffurflenni’r cwmni, cofnodion TAW ac ariannol eraill
• Yswiriant
• Gofynion ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad
Gellid cael gwybodaeth a chyngor gan
• Sefydliadau a chymdeithasau brîd, cymdeithasau lleol, Cymdeithas Genedlaethol Manwerthu a Marchnadoedd y Ffermwyr (FARMA), sefydli-adau marchnad anifeiliaid
• Cymdeithasau masnachu garddwriaethol lleol
• Ffederasiwn Crofftio’r Alban (SCF), Undeb Cenedlaethol Ffermwyr yr Al-ban (NFUS), Coedwigaeth a Thir yr Alban (FLS), Cymdeithas Ffermwyr Tenant yr Alban, Coleg Amaethyddol yr Alban (SAC), NatureScot, asiantau tir
• Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Cymdeithas Ffermwyr Tenant, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, HCC-Hybu Cig Cymru, AHDB, DEFRA, EBLEX, Cyswllt Ffermio ac ati
• Sioeau Amaethyddol, marchnadoedd Ffermwyr, marchnadoedd anifeiliaid lleol, cyflenwyr amaethyddol lleol, y wasg a gwefannau amaethyddol (i’w defnyddio gyda gofal gan sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn berthnasol yn y DU), gwefannau cymunedol
• Grwpiau trafod ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol (gyda gofal)
• Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Lleol, Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwyn, RSPB ac ati
• Biodanwydd, ffermydd gwynt, Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac ati
• Banciau, Porth Busnes, llinell gymorth Busnes ar wefan gov.uk, Comisiwn Crofftio, Defra, Arolygiaeth Wledig ac Arolygiaeth Daliadau yr Alban (SGRIPD), Ymddiriedolaeth y Tywysog, Menter yr Ucheldir a’r Ynysoedd (HIE)
• Cyfreithwyr yn arbenigo mewn cyfraith grofftio
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCSH3
Galwedigaethau Perthnasol
Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
crofft; crofftwr