Gwerthuso a chaffael tyddyn
URN: LANCSH2
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae tyddynnod yn y DU fel arfer yn cael eu hystyried fel cael darn o dir sydd yn llai na 50 erw (20 hectar). Y defnydd cyffredin o dyddynnod yw ar gyfer cnydau cymysg, anifeiliaid a rheoli coetir.
Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar weithgaredd dewisol eich tyddyn, bydd angen i chi ddod o hyd i eiddo priodol. Mae cnydau ac anifeiliaid penodol angen neu’n ffynnu mewn lleoliadau penodol, ac ar briddoedd penodol, felly mae’n bwysig bod y lleoliad a’r gweithgaredd yn cyd-fynd, er mwyn i’r fenter fod yn llwyddiannus.
Yr hyn y mae dewis tyddyn yn ei olygu:
• Sefydlu maint ac ansawdd y tir sydd ei angen
• Ystyried y lleoliad daearyddol, hinsawdd, uchder, hygyrchedd ac agosrwydd at farchnadoedd posibl
• Ystyriaeth o’r adeiladau sydd eu hangen gan y fenter gyfan – yn cynnwys y llety byw a gweithio (os oes angen hyn)
• Ystyriaeth o gyfyngiadau ariannol, yn dibynnu ar y graddau bydd y fenter yn cefnogi prynu a chynnal a chadw’r eiddo.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau caffael tyddyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- penderfynu ar eich gofynion ar gyfer sefydlu tyddyn
- gwerthuso tir presennol neu ymchwilio i eiddo a chyfleoedd addas
archwilio eiddo posibl am unrhyw broblemau o ran eu lleoliad, fel llifogydd, mynediad, argaeledd cyfleustodau ac amwynderau, cyflwr a chost unrhyw atgyweiriadau neu welliannau
ymchwilio a fydd angen unrhyw newidiadau i eiddo presennol i ddarparu ar gyfer eich gweithgareddau, a’r gost, gofynion cyfreithiol a’r caniatâd sydd ei angen
- pennu’r galw yn y farchnad am unrhyw gynnyrch neu wasanaethau, lleoliad siopau/marchnadoedd, a sut byddwch yn cyflenwi eich cwsmeriaid
- canfod amrywiadau mewn poblogaeth dymhorol a allai effeithio ar eich busnes
- gwirio a oes unrhyw gyfyngiadau i ddefnyddio’r tir neu’r eiddo
- pennu’r gofynion llafur i redeg tyddyn, a fydd angen i chi gyflogi rhywun a goblygiadau hyn
- cyfrifo cost dechrau a gweithredu’r fenter
- archwilio cyfleoedd ar gyfer grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth
- cael cyngor arbenigol pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i ganfod am argaeledd tyddynnod sydd ar werth neu ar brydles
- addasrwydd a chyflwr y mynediad, i ac o amgylch yr eiddo
- yr angen am ffiniau/gwrychoedd/ffensys arbennig a goblygiadau cost a chynnal y rhain
- cyflwr adeiladau a goblygiadau cost cynnal a chadw ac atgyweirio
- cost, goblygiadau cyfreithiol a’r caniatâd sydd ei angen am unrhyw newidiadau i’r tyddyn presennol, a’r gofynion ar gyfer caniatâd cynllunio awdurdod lleol
- argaeledd cyfleustodau cyhoeddus a phrif gyflenwadau, yn cynnwys band eang, goblygiadau hyn a’r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy
- argaeledd cyflenwad dŵr ac o ble mae’n dod – dinesig, preifat neu wedi ei rannu, a’r ffordd y mae dŵr yn cael ei gyflenwi i’r man lle’r ydych ei angen, a allai fod mewn caeau neu ysguborau
- argaeledd ysgolion, siopau, meddygon, gwasanaethau eraill neu ddarpariaeth gymdeithasol yn yr ardal
- argaeledd cyflenwyr busnes (porthiant, hadau, gwrtaith, milfeddygon, atgyweiriadau) yn yr ardal
- pwysigrwydd nodi neu sefydlu marchnad ar gyfer unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a pha gystadleuaeth sydd yna
- y bydd unrhyw broses cynhyrchu bwyd, llety o fath twristaidd neu fenter addysgol angen bodloni safonau Awdurdod Lleol
- y ffordd y gallai eich cynnyrch gael ei gludo at eich cwsmeriaid a’r gost o ddosbarthu
- goblygiadau unrhyw lwybrau troed/Hawliau Tramwy, Fforddfreintiau, Hawliau Mwynau, hawliau chwaraeon, rhwymau amaethyddol neu unrhyw gyfamodau dros y tir
- unrhyw gyfyngiadau eraill ar y defnydd o’r tir neu’r eiddo e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), statws adeilad rhestredig, gorchmynion diogelu coed neu Ardal(oedd) Sensitif yn Amgylcheddol (ESAS)
- y ffordd y mae tir pori cyffredin yn gweithio a pha gostau y byddech yn gyfrifol amdanynt os yw hyn ar gael
- y llafur angenrheidiol i redeg y tyddyn a goblygiadau cyflogi staff
- y rhwymedigaethau cyfreithiol a busnes eraill
- sut i gyfrifo cost dechrau a gweithredu’r fenter a’r hyn y mae angen ei gynnwys yn y cyfrifiadau
- ble i gael gwybodaeth am grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth a allai fod ar gael
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a pha fath o gyngor sydd ar gael
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhwymedigaethau busnes yn cynnwys:
• Cofrestru deiliadaeth, gofynion amgylcheddol, rheoliadau gwastraff, trwyddedau gweithredwyr
• Rheoliadau Defra
• Mae cadw anifeiliaid yn gofyn am gofrestru, olrheiniadwyedd, cofnodion meddyginiaethau, cofnodion symud a chludo
• Rheoliadau iechyd a lles anifeiliaid (yn cynnwys cludo anifeiliaid)
• Rheoliadau Iechyd a Diogelwch, Rheoliadau Tân, rheoliadau hylendid, rheoliadau iechyd y cyhoedd
• Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ymwelwyr i’ch eiddo
• Safonau masnach, gwerthu nwyddau
• Ffurflenni’r cwmni, TAW a chofnodion ariannol eraill
• Yswiriant
• Gofynion ar gyfer hyfforddi ac ardystio
• Bydd angen i unrhyw broses cynhyrchu bwyd, llety o fath twristaidd neu fenter addysgol fodloni safonau awdurdod lleol
Gallai gwybodaeth a chyngor gael eu caffael o e.e.
• Sefydliadau brîd, cymdeithasau lleol, Cymdeithas Genedlaethol Man-werthu a Marchnadoedd y Ffermwyr (FARMA), sefydliadau marchnad anifeiliaid
• Cymdeithasau masnach garddwriaeth lleol
• Undeb Cenedlaethol Ffermwyr yr Alban (NFUS), Coedwigaeth a Thir yr Alban (FLS), Cymdeithas Ffermwyr sy’n Denantiaid, Coleg Amaethyddol yr Alban (SAC), NatureScot, asiantau tir
• Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Cymdeithas Ffermwyr sy’n Denantiaid, Cymdeithas Tir a Busnes Gwledig, HCC-Hybu Cig Cymru, AHDB, DEFRA, EBLEX, Cyswllt Ffermio ac ati
• Sioeau Amaethyddol, Marchnadoedd ffermwyr, marchnadoedd anifeiliaid lleol, cyflenwyr amaethyddol lleol, y wasg a gwefannau amaethyddol (defnyddiwch gyda gofal a gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth a roddir yn berthnasol i’r DU), gwefannau cymunedol
• Grwpiau trafod ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol (gyda gofal)
• Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Lleol, Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwyn, RSPB ac ati
• Biodanwydd, ffermydd gwynt, Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac ati
• Banciau, Porth Busnes, llinell gymorth Busnes ar wefan gov.uk, Defra, Arolygiaeth Wledig a Chyfarwyddiaeth Taliadau Llywodraeth yr Alban (SGRIPD), Ymddiriedolaeth y Tywysog, Menter yr Ucheldir a’r Ynysoedd (HIE)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCSH2
Galwedigaethau Perthnasol
Tyddynnwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
busnes; tyddyn