Cynllunio crofft neu dyddyn

URN: LANCSH1
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio crofft neu dyddyn.

Caiff pob crofft ei reoleiddio gan y Comisiwn Crofftio. Mae gan y tenant a’r perchen-feddiannydd ddyletswydd i: 
Breswylio fel arfer ar eu crofft, neu o fewn 32 o gilometrau oddi wrtho 
Amaethu a chynnal y crofft (Mae hyn yn cyfeirio at y crofft yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynaeafu neu ar gyfer diben pwrpasol arall. Mae hyn yn cynnwys garddwriaeth, cadw anifeiliaid, yn cynnwys dofednod a gwenyn, tyfu cnydau a phlannu coed).
Peidio â chamddefnyddio neu esgeuluso’r crofft 

Mae tyddynod yn y DU fel arfer yn cael eu hystyried i fod ag arwynebedd tir o lai na 50 erw (20 hectar). Fel crofftau, y defnydd cyffredin o dyddynod yw cnydau cymysg, anifeiliaid a rheoli coetir.

Cyn sefydlu eich crofft neu dyddyn mae angen i chi fod yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni o’r fenter. A ydych eisiau ei redeg fel busnes er mwyn creu ffrwd incwm, neu i wella hunangynhaliaeth neu yn syml ar gyfer pleser? Bydd angen i chi ystyried a ydych eisiau ei wneud yn gartref i chi, sut bydd yn cydfynd â’ch ffordd o fyw chi a’ch teulu, pam yr ydych eisiau derbyn yr hyn allai fod yn newid sylweddol i’ch bywyd, ac a fyddwch yn ei fwynhau mewn gwirionedd. Efallai y byddwch yn gallu archwilio eich syniad ar gwrs hyfforddiant byr neu ddiwrnod “blasu”, neu trwy wirfoddoli ar fferm, er mwyn rhoi rhywfaint o brofiad ymarferol, sylfaenol i chi, i weld a yw’n ymarferol i chi.

Yr hyn y mae derbyn crofft neu dyddyn yn ei gynnwys:
Penderfynu ar y gweithgaredd fydd yn rhoi’r elw mwyaf i chi, p’un ai’n ariannol neu fwynhad personol
Penderfynu ar y cynnyrch a’r gwasanaethau y gallech ddymuno eu cynnig
Penderfynu ar y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith fydd yn dderbyniol i bawb sydd yn gysylltiedig.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried sefydlu crofft neu dyddyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. casglu gwybodaeth i’ch helpu i gynllunio’r math o grofft neu dyddyn yr ydych ei eisiau
  2. penderfynu a ydych yn ceisio creu busnes hyfyw yn ariannol, dod yn fwy hunangynhaliol neu i gael mwynhad yn unig
  3. gofyn i chi eich hun pa weithgareddau y byddech yn ystyried eu gwneud, a allai gynnwys cadw anifeiliaid, dofednod neu adar hela, tyfu llysiau, ffrwythau neu gnydau eraill neu reoli coetir 
  4. os ydych yn dymuno creu incwm, archwilio cyfleoedd ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau y gellid eu darparu, fel crefftau neu gynnyrch bwyd neu wasanaethau a allai gael eu darparu, fel crefftau neu gynnyrch bwyd, cynnig lletygarwch, cyfleuster manwerthu, hyfforddiant neu weithgareddau eraill, ymchwilio a oes marchnad ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaethau a sut byddwch yn canfod ac yn cyflenwi eich cwsmeriaid
  5. penderfynu a ydych eisiau ei wneud yn gartref i chi, a allwch ddefnyddio tir y mae gennych fynediad iddo’n barod neu a oes angen dod o hyd i rywle addas i fyw, penderfynu a fyddwch yn prynu neu’n rhentu neu a allech ymgysylltu mewn amaethyddiaeth gymunedol
  6. canfod a oes gan eich gweithgareddau dewisol unrhyw ofynion arbennig ar gyfer tir, pridd neu hinsawdd
  7. ymchwilio i’r angen am adeiladau neu strwythurau eraill i hwyluso eich gweithgareddau a gofynion rheoliadol gwneud newidiadau i’r crofft neu’r tyddyn
  8. pennu’r angen am fynediad i gyfleustodau cyhoeddus a gwasanaethau prif gyflenwad, yn cynnwys band eang, ysgolion, siopau, cyflenwyr, meddygon, gwasanaethau eraill neu ddarpariaethau cymdeithasol
  9. ymchwilio i’r cyfarpar sydd yn ofynnol i redeg y crofft neu’r tyddyn a’r gost
  10. pennu’r gofynion llafur i redeg y crofft neu’r tyddyn, a fydd angen i chi gyflogi rhywun a goblygiadau hyn
  11. ymchwilio i’r adnoddau sydd eu hangen, yn cynnwys arian, amser a sgiliau, i sefydlu a chynnal y syniadau sydd gennych, a sut gellir cael y rhain
  12. ymchwilio i ofynion cyfreithiol a goblygiadau busnes 
  13. cael gwybodaeth a chyngor ac ymchwilio i’r hyn sydd yn gysylltiedig â’ch opsiynau amrywiol trwy ymweld â mentrau tebyg, cysylltu â grwpiau cymorth, mynd i sioeau lleol a siarad â’r arddangoswyr amrywiol
  14. ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y wybodaeth y mae angen i chi ei hystyried wrth gynllunio crofft neu dyddyn
  2. yr ymrwymiad sydd ei angen i redeg crofft neu dyddyn, ac a ydych eisiau creu busnes sydd yn hyfyw yn ariannol, dod yn fwy hunangynhaliol, neu gael mwynhad yn unig
  3. y gweithgareddau y gellir eu gwneud ar grofft neu dyddyn a’r rheoliadau sydd yn llywodraethu hyn 
  4. yr opsiynau gwahanol ar gyfer rhedeg crofft neu dyddyn yn cynnwys defnyddio eich tir eich hun, prynu neu rentu, gyda a heb lety, neu amaethyddi-aeth gymunedol
  5. sut i werthuso cynnyrch a gwasanaethau gwahanol y gellir eu darparu i greu incwm a phenderfynu a yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn dymuno ei wneud 
  6. pwysigrwydd nodi neu sefydlu marchnad ar gyfer unrhyw gynnyrch neu wasanaethau, pa gystadleuaeth sydd yno a sut byddwch yn canfod ac yn cyflenwi eich cwsmeriaid
  7. yr hinsawdd a chyflwr y pridd sydd yn angenrheidiol ar gyfer eich gweithgareddau dewisol
  8. faint o dir sydd ei angen i ddarparu ar gyfer eich gweithgareddau dewisol, fel nifer yr anifeiliaid, ac unrhyw gynnydd o stoc bridio, a’r gallu i orffwys neu gylchdroi y tir a ddefnyddir
  9. y cyfraddau stocio a argymhellir ar gyfer anifeiliaid, ac unrhyw gyfyngiadau ar ddwysedd stocio, a’r cynnyrch disgwyliedig fesul erw/hectar ar gyfer un-rhyw gnydau a fwriadwyd
  10. ble i chwilio am grofftau neu dyddynod a chyfleoedd sydd ar gael
  11. yr angen am fynediad i gyfleustodau cyhoeddus a gwasanaethau prif gyflenwad, yn cynnwys band eang, ysgolion, siopau, cyflenwyr, meddygon a gwasanaethau neu ddarpariaethau cymdeithasol eraill
  12. y cyfarpar sydd ei angen i redeg y tyddyn a’r gost
  13. sut i gynllunio’r adnoddau sydd eu hangen i sefydlu a rhedeg y crofft neu’r tyddyn, yn cynnwys cyllid a sgiliau, a lle gellir cael y rhain
  14. y gofynion cyfreithiol a rhwymedigaethau busnes eraill i sefydlu a rhedeg crofft neu dyddyn
  15. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor defnyddiol i helpu i ffurfio eich penderfyniadau 
  16. ble i gael gwybodaeth am grantiau, cymorthdaliadau neu mathau eraill o gyllid neu gymorth a allai fod ar gael


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gofynion cyfreithiol a goblygiadau busnes yn cynnwys:
Cael cofrestriad deiliadaeth, gofynion amgylcheddol, rheoliadau gwastraff, trwyddedau gweithredwyr, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)
Rheoliadau Defra
Cynllun Cymorth Ardal Llai Ffafriol (LFASS), Cyfraith Crofftio ynghyd â Rheolau a Rheoliadau treflan/Pori Cyffredin 
Mae cadw anifeiliaid yn gofyn am gofrestru, olrheiniadwyedd, cofnodion meddyginiaethau, cofnodion symud a chludo
Rheoliadau iechyd a lles anifeiliaid (yn cynnwys cludo anifeiliaid)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch, Rheoliadau Tân, rheoliadau hylendid, rheoliadau iechyd y cyhoedd
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ymwelwyr â’ch eiddo
Safonau masnachu, gwerthu nwyddau 
Ffurflenni’r cwmni, cofnodion TAW ac ariannol eraill
Yswiriant
Gofynion ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad

Gellid cael gwybodaeth a chyngor gan e.e.
Sefydliadau a chymdeithasau brîd, cymdeithasau lleol, Cymdeithas Genedlaethol Manwerthu a Marchnadoedd y Ffermwyr (FARMA), sefydliadau marchnad anifeiliaid
Cymdeithasau masnachu garddwriaethol lleol
Ffederasiwn Crofftio’r Alban (SCF), Undeb Cenedlaethol Ffermwyr yr Al-ban (NFUS), Coedwigaeth a Thir yr Alban (FLS), Cymdeithas Ffermwyr Tenant yr Alban, Coleg Amaethyddol yr Alban (SAC), NatureScot, asiantau tir
Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Cymdeithas Ffermwyr Tenant, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, HCC-Hybu Cig Cymru, AHDB, DEFRA, EBLEX, Cyswllt Ffermio ac ati
Sioeau Amaethyddol, marchnadoedd Ffermwyr, marchnadoedd anifeiliaid lleol, cyflenwyr amaethyddol lleol, y wasg a gwefannau amaethyddol (i’w defnyddio gyda gofal gan sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn berthnasol yn y DU), gwefannau cymunedol
Grwpiau trafod ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol (gyda gofal)
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Lleol, Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwyn, RSPB ac ati 
Biodanwydd, ffermydd gwynt, Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac ati
Banciau, Porth Busnes, llinell gymorth Busnes ar wefan gov.uk, Comisiwn Crofftio, Defra, Arolygiaeth Wledig ac Arolygiaeth Daliadau yr Alban (SGRIPD), Ymddiriedolaeth y Tywysog, Menter yr Ucheldir a’r Ynysoedd (HIE)

Gallai ffynonellau cyllid gynnwys: banciau, asedau presennol, grantiau, nawdd, masnachfreintiau, partneriaethau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCSH1

Galwedigaethau Perthnasol

Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

busnes; crofft; tyddyn