Cynnal diogelwch ar safleoedd awyr agored LEGACY
URN: LANCS99L
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo:
2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch ar safleoedd awyr agored.
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod bygythiadau i ddiogelwch a lleihau cyfleoedd am dor-diogelwch trwy gynnal gweithdrefnau diogelwch. Hefyd, mae’n cynnwys adnabod amheuon o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith a chymryd y camau gweithredu gofynnol i ddelio â nhw.
Mae’r safon hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio ym meysydd Dyframaeth, Cadwraeth, Rheoli Ystâd, Gwaith Ciper, Ffermio, Coedwigaeth, Garddwriaeth ac ati.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni eich gwaith yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau perthnasol eich sefydliad
- gwybod am fygythiadau posibl i ddiogelwch ar y safle awyr agored, gan gynnwys mewn ardaloedd unig a phellennig
- cynnal gweithdrefnau diogelwch ar gyfer y safle awyr agored sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol penodol i wlad, codau ymarfer a gofynion eich sefydliad
- cynnal a chadw pob hysbysiad a dyfais a ddefnyddir i reoli mynediad i’r safle awyr agored fel eu bod mewn cyflwr pwrpasol
- rhoi gwybodaeth a chyngor cywir i ymholiadau gan y cyhoedd ynghylch mynediad i’r safle awyr agored
- delio’n gwrtais ag ymwelwyr, gwesteion a’r cyhoedd yn unol â pholisïau eich sefydliad
- cyfathrebu’n gyson ynghylch diogelwch gyda rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill
- bod yn effro drwy’r amser yn ystod pob gweithgarwch gwaith am arwyddion sy’n awgrymu bygythiad i ddiogelwch neu dor-cyfraith
- monitro a dehongli arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiad i ddiogelwch neu dor-cyfraith a defnyddio’r dulliau perthnasol i gael tystiolaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- asesu’r sefyllfa a gweithredu yn unol â natur y bygythiad i ddiogelwch neu'r tor-cyfraith heb beri risg i chi’ch hun neu eraill
- delio ag amheuaeth o ddigwyddiadau diogelwch mewn ffordd ddigynnwrf a chwrtais ond pendant, a galw am gymorth, lle bo angen
- rhoi gwybod i’r awdurdod priodol am dor-cyfraith, gan ddarparu manylion llawn am y digwyddiad
- diogelu uniondeb tystiolaeth lle y gallai fod ei hangen e.e. at ddibenion erlyn neu yswiriant
- cofnodi a rhoi gwybod am fanylion pob digwyddiad yn unol â deddfwriaeth a gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn gysylltiedig â chi’ch hun, eich cydweithwyr a’r cyhoedd, gan gynnwys ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun
- y ddeddfwriaeth benodol i wlad, y codau ymarfer a gofynion perthnasol eich sefydliad yn gysylltiedig â delio â bygythiadau i ddiogelwch a thor-cyfraith, yn unol â chyfraith droseddol a sifil
- pwysigrwydd cynnal diogelwch seilwaith ac asedau ar y safle awyr agored, yn enwedig eitemau dymunol
- yr ardaloedd sydd yn y mwyaf o berygl o ddigwyddiadau diogelwch ar y safle awyr agored
- y mesurau y gellir eu cymryd i reoli mynediad a phwysigrwydd eu cynnal mewn cyflwr pwrpasol
- defnyddio hysbysiadau a dulliau monitro diogelwch i reoli mynediad i’r safleoedd awyr agored
- y gofyniad am deledu cylch cyfyng a goruchwyliaeth i gydymffurfio â holl safonau a gofynion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- pwysigrwydd datblygu perthnasoedd gwaith da gyda rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill i fonitro a chynnal diogelwch
- sut i adnabod arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith
- pwysigrwydd cael tystiolaeth a’r ffyrdd gorau o wneud hyn
- sut i ddelio ag amheuon o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith, gan gynnwys y rhesymau dros fod yn ddigynnwrf a chwrtais ond yn bendant bob amser, a phryd i alw am gymorth
- sut i ddefnyddio tactegau gostegu i ddelio â gwrthdaro
- sut i ddelio ag ymddygiad ymosodol a sarhaus
- i bwy y dylid rhoi gwybod am dor-cyfraith a’r wybodaeth y bydd arnynt ei hangen
- pam mae’n bwysig diogelu uniondeb tystiolaeth, a phwysigrwydd tarddiad a phwys tystiolaeth mewn ymchwiliadau
- pam mae’n bwysig cofnodi a rhoi gwybod am fanylion pob digwyddiad yn gywir yn unol â deddfwriaeth a gofynion eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai tor-cyfraith gynnwys:
- dwyn
- difrod troseddol
- cynnau tân
- defnyddio offer darganfod metel yn anghyfreithlon
- defnydd anghyfreithlon o ddronau gan ladron er mwyn gweld beth sydd ar gael ar safle
- gadael sbwriel a thipio anghyfreithlon
- ymosod
- ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, bywyd gwyllt a phobl
- troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
- tresmasu/torri rheoliadau mynediad
- troseddau treftadaeth
- troseddau bywyd gwyllt e.e.
- tarfu
- erlid
- potsian
- rhyddhau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) neu rywogaethau planhigion neu anifeiliaid y tu allan i’w cynefin brodorol i’r gwyllt
Gallai dulliau monitro diogelwch gynnwys:
- patrolau
- dronau
- delweddu thermol
- offer gweld yn y nos
- teledu cylch cyfyng
- camerâu llwybr
- camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff
- camerâu ar gerbydau
- ANPR (Adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig)
Gallai bygythiadau gynnwys:
- i’r safle a’i gynnwys
- i’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig
- i fflora a ffawna
- i’ch iechyd neu’ch diogelwch personol eich hun
- i iechyd a diogelwch pobl eraill
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2028
Dilysrwydd
Etifeddiaeth
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS99
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Ceidwad Parc, Gweithiwr Ystâd, Ciper, Rheolwr Parc, Ceidwad, Coedwigaeth, Ffermwr Pysgod
Cod SOC
3550
Geiriau Allweddol
diogelwch; digwyddiad; fandaliaeth; dwyn