Cynnal diogelwch ar safleoedd awyr agored

URN: LANCS99
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch ar safleoedd awyr agored.

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod bygythiadau i ddiogelwch a lleihau cyfleoedd am dor-diogelwch trwy gynnal gweithdrefnau diogelwch. Hefyd, mae’n cynnwys adnabod amheuon o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith a chymryd y camau gweithredu gofynnol i ddelio â nhw.

Mae’r safon hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio ym meysydd Dyframaeth, Cadwraeth, Rheoli Ystâd, Gwaith Ciper, Ffermio, Coedwigaeth, Garddwriaeth ac ati.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni eich gwaith yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau perthnasol eich sefydliad
  2. gwybod am fygythiadau posibl i ddiogelwch ar y safle awyr agored, gan gynnwys mewn ardaloedd unig a phellennig
  3. cynnal gweithdrefnau diogelwch ar gyfer y safle awyr agored sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol penodol i wlad, codau ymarfer a gofynion eich sefydliad
  4. cynnal a chadw pob hysbysiad a dyfais a ddefnyddir i reoli mynediad i’r safle awyr agored fel eu bod mewn cyflwr pwrpasol
  5. rhoi gwybodaeth a chyngor cywir i ymholiadau gan y cyhoedd ynghylch mynediad i’r safle awyr agored
  6. delio’n gwrtais ag ymwelwyr, gwesteion a’r cyhoedd yn unol â pholisïau eich sefydliad
  7. cyfathrebu’n gyson ynghylch diogelwch gyda rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill
  8. bod yn effro drwy’r amser yn ystod pob gweithgarwch gwaith am arwyddion sy’n awgrymu bygythiad i ddiogelwch neu dor-cyfraith
  9. monitro a dehongli arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiad i ddiogelwch neu dor-cyfraith a defnyddio’r dulliau perthnasol i gael tystiolaeth, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  10. asesu’r sefyllfa a gweithredu yn unol â natur y bygythiad i ddiogelwch neu'r tor-cyfraith heb beri risg i chi’ch hun neu eraill
  11. delio ag amheuaeth o ddigwyddiadau diogelwch mewn ffordd ddigynnwrf a chwrtais ond pendant, a galw am gymorth, lle bo angen
  12. rhoi gwybod i’r awdurdod priodol am dor-cyfraith, gan ddarparu manylion llawn am y digwyddiad
  13. diogelu uniondeb tystiolaeth lle y gallai fod ei hangen e.e. at ddibenion erlyn neu yswiriant
  14. cofnodi a rhoi gwybod am fanylion pob digwyddiad yn unol â deddfwriaeth a gofynion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn gysylltiedig â chi’ch hun, eich cydweithwyr a’r cyhoedd, gan gynnwys ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun
  2. y ddeddfwriaeth benodol i wlad, y codau ymarfer a gofynion perthnasol eich sefydliad yn gysylltiedig â delio â bygythiadau i ddiogelwch a thor-cyfraith, yn unol â chyfraith droseddol a sifil
  3. pwysigrwydd cynnal diogelwch seilwaith ac asedau ar y safle awyr agored, yn enwedig eitemau dymunol
  4. yr ardaloedd sydd yn y mwyaf o berygl o ddigwyddiadau diogelwch ar y safle awyr agored
  5. y mesurau y gellir eu cymryd i reoli mynediad a phwysigrwydd eu cynnal mewn cyflwr pwrpasol
  6. defnyddio hysbysiadau a dulliau monitro diogelwch i reoli mynediad i’r safleoedd awyr agored
  7. y gofyniad am deledu cylch cyfyng a goruchwyliaeth i gydymffurfio â holl safonau a gofynion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
  8. pwysigrwydd datblygu perthnasoedd gwaith da gyda rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill i fonitro a chynnal diogelwch
  9. sut i adnabod arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith
  10. pwysigrwydd cael tystiolaeth a’r ffyrdd gorau o wneud hyn
  11. sut i ddelio ag amheuon o fygythiadau i ddiogelwch neu dor-cyfraith, gan gynnwys y rhesymau dros fod yn ddigynnwrf a chwrtais ond yn bendant bob amser, a phryd i alw am gymorth
  12. sut i ddefnyddio tactegau gostegu i ddelio â gwrthdaro
  13. sut i ddelio ag ymddygiad ymosodol a sarhaus
  14. i bwy y dylid rhoi gwybod am dor-cyfraith a’r wybodaeth y bydd arnynt ei hangen
  15. pam mae’n bwysig diogelu uniondeb tystiolaeth, a phwysigrwydd tarddiad a phwys tystiolaeth mewn ymchwiliadau
  16. pam mae’n bwysig cofnodi a rhoi gwybod am fanylion pob digwyddiad yn gywir yn unol â deddfwriaeth a gofynion eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai tor-cyfraith gynnwys:
• dwyn
• difrod troseddol
• cynnau tân
• defnyddio offer darganfod metel yn anghyfreithlon
• defnydd anghyfreithlon o ddronau gan ladron er mwyn gweld beth sydd ar gael ar safle
• gadael sbwriel a thipio anghyfreithlon
• ymosod
• ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, bywyd gwyllt a phobl
• troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
• tresmasu/torri rheoliadau mynediad
• troseddau treftadaeth
• troseddau bywyd gwyllt e.e.
o tarfu
o erlid
o potsian
o rhyddhau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) neu rywogaethau planhigion neu anifeiliaid y tu allan i’w cynefin brodorol i’r gwyllt

Gallai dulliau monitro diogelwch gynnwys:
• patrolau
• dronau
• delweddu thermol
• offer gweld yn y nos
• teledu cylch cyfyng
• camerâu llwybr
• camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff
• camerâu ar gerbydau
• ANPR (Adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig)

Gallai bygythiadau gynnwys:
• i’r safle a’i gynnwys
• i’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig
• i fflora a ffawna
• i’ch iechyd neu’ch diogelwch personol eich hun
• i iechyd a diogelwch pobl eraill


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS99

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Ceidwad Parc, Gweithiwr Ystâd, Ciper, Rheolwr Parc, Ceidwad, Coedwigaeth, Ffermwr Pysgod

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

diogelwch; digwyddiad; fandaliaeth; dwyn