Amddiffyn safleoedd tir

URN: LANCS99
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i amddiffyn safleoedd tir trwy gynnal diogeledd y safle i atal gweithgarwch anawdurdodedig ac anghyfreithlon.

Mae’n cynnwys nodi bygythiadau diogeledd a lleihau cyfleoedd am doriadau trwy gynnal gweithdrefnau diogeledd, ynghyd â gweithredu i atal troseddau ar safleoedd tir ac adnabod a delio ag unrhyw weithgareddau anawdurdodedig ac anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys rhoi camau ar waith i gynnal diogeledd safle, monitro safle ac adnabod tor-diogeledd a chymryd y camau gofynnol.

Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n gweithio mewn galwedigaethau tir gan gynnwys Dyframaeth, Cadwraeth, Rheoli Ystâd, Gwaith Ciper, Ffermio, Coedwigaeth, Garddwriaeth ac ati.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud eich gwaith yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesiadau risg, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol
  2. bod yn ymwybodol o fygythiadau posibl i ddiogeledd ar y safle tir, gan gynnwys mewn ardaloedd anghysbell ac unig
  3. gweithredu a chynnal y camau y cytunwyd arnynt i amddiffyn safleoedd rhag gweithgareddau anawdurdodedig ac anghyfreithlon sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol sy’n benodol i wlad, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol
  4. cynnal pob hysbysiad a dyfais a ddefnyddir i reoli diogeledd ar y safle tir mewn cyflwr da
  5. cyfleu gofynion diogeledd i aelodau’r cyhoedd yn briodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. delio’n gwrtais ag ymwelwyr, gwestion a’r cyhoedd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. cydweithredu â rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill i wella diogeledd safle ac atal troseddu
  8. bod yn effro yn ystod pob gweithgaredd gwaith am arwyddion o fygythiad i ddiogeledd neu dorri’r gyfraith
  9. nodi aelodau’r cyhoedd a all achosi bygythiadau a thorri’r gyfraith er mwyn cymryd camau priodol i leihau risgiau
  10. monitro a dehongli arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiad i ddiogeledd neu dor-cyfraith a defnyddio’r dulliau perthnasol i gael tystiolaeth, yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
  11. asesu’r sefyllfa a chymryd y camau gofynnol yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ac asesu natur y bygythiad i ddiogeledd neu’r tor-cyfraith, heb beri risg i chi’ch hun nac i eraill
  12. rhoi gwybod am dor-cyfraith i’r awdurdod priodol, gan ddarparu manylion llawn am y digwyddiad
  13. diogelu cyfanrwydd tystiolaeth lle y gallai fod ei hangen e.e. at ddibenion erlyn neu yswiriant
  14. cofnodi’r holl fanylion am ddigwyddiadau diogeledd neu dor-cyfraith, a rhoi gwybod amdanynt, yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn gysylltiedig â chi’ch hun, eich cydweithwyr a’r cyhoedd, gan gynnwys ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun
  2. y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n benodol i wlad, y codau ymarfer a gofynion eich sefydliad o ran delio â bygythiadau diogeledd a thorri cyfraith droseddol a sifil
  3. y ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â throseddau yn erbyn bywyd gwyllt a’r bygythiadau y gall y cyhoedd eu peri i safleoedd
  4. beth yw herwhela a sut mae hyn yn wahanol i fathau eraill o droseddau
  5. pwysigrwydd cynnal diogeledd seilwaith ac asedau ar y safle tir, yn enwedig eitemau dymunol
  6. yr ardaloedd ar y safle tir y mae risg fwyaf digwyddiadau diogeledd iddynt
  7. y camau y gellir eu cymryd i amddiffyn safleoedd rhag gweithgareddau anawdurdodedig ac anghyfreithlon, gan gynnwys defnyddio hysbysiadau, gatiau, rhwystrau, camerâu a dyfeisiau eraill, a phwysigrwydd cynnal y rhain mewn cyflwr da
  8. y gofyniad am deledu cylch cyfyng a chuddwylio i gydymffurfio â holl safonau a gofynion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
  9. pam mae cyfleu gofynion diogeledd yn effeithiol yn bwysig i amddiffyn safleoedd a sut i wneud hyn
  10. pwysigrwydd cydweithredu â rheolwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill i amddiffyn safleoedd ac atal troseddu
  11. sut i adnabod arwyddion sy’n awgrymu amheuaeth o fygythiadau diogeledd a beth sy’n dor-cyfraith
  12. pwysigrwydd cael tystiolaeth a sut gellir gwneud hyn
  13. sut i ddelio ag amheuon o fygythiadau i ddiogeledd neu dor-cyfraith a phwerau cyfreithiol pobl awdurdodedig i ddelio â herwhela a mathau eraill o droseddau gwledig
  14. sut i ddelio ag aelodau’r cyhoedd sy’n achosi bygythiad i ddiogelwch safle heb beri risg i chi’ch hun ac i eraill, gan gynnwys pwysigrwydd cwrteisi a phendantrwydd
  15. pwerau cyfreithiol pobl awdurdodedig i ddelio â herwhela a mathau eraill o droseddau gwledig
  16. sut i ddelio ag ymddygiad ymosodol a sarhaus a defnyddio tactegau tawelu i ddelio â gwrthdaro
  17. i bwy y dylid rhoi gwybod am dor-cyfraith a’r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt
  18. pam mae’n bwysig diogelu cyfanrwydd tystiolaeth, a phwysigrwydd tarddiad a phwys tystiolaeth mewn ymchwiliadau
  19. sut i gasglu, cofnodi a rhoi gwybod am dystiolaeth o weithgarwch anawdurdodedig ac anghyfreithlon, a phwysigrwydd cywirdeb yn y materion hyn i gefnogi erlyniadau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai tor-cyfraith gynnwys:
• dwyn
• difrod troseddol
• difrodi
• cynnau tân
• defnydd anghyfreithlon ar ddatgelydd metel
• defnydd anghyfreithlon ar ddronau gan ladron i weld beth sydd ar gael ar safle
• taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon
• bygythiadau
• ymosodiad
• ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, bywyd gwyllt a phobl
• ymddygiad gwrthgymdeithasol
• troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
• tresmasu/torri rheoliadau mynediad
• troseddau treftadaeth
• troseddau bywyd gwyllt e.e.
o tarfu
o erlid
o herwhela
o rhyddhau rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) i’r gwyllt neu ryddhau rhywogaethau planhigion neu anifeiliaid y tu hwnt i’w cynefin cynhenid

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Gallai dulliau monitro diogelwch gynnwys:
• patrolau
• dronau
• delweddu thermol
• gweld yn y nos
• teledu cylch cyfyng
• camerâu llwybr
• camerâu’r corff
• camerâu cerbydau
• ANPR (Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig)

Gallai bygythiadau fod i:
• y safle a’i gynnwys
• y dreftadaeth naturiol ac adeiledig
• fflora a ffawna
• eich iechyd, diogelwch neu ddiogeledd personol chi
• iechyd, diogelwch a diogeledd pobl eraill


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS99

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Ceidwad Parc, Gweithiwr Ystâd, Ciper, Rheolwr Parc, Ceidwad, Coedwigaeth, Ffermwr Pysgod

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

diogeledd; digwyddiad; fandaliaeth; dwyn