Delio â sbwriel a digwyddiadau tipio anghyfreithlon

URN: LANCS98
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â delio â sbwriel a digwyddiadau tipio anghyfreithlon, a allai gynnwys cyfarpar miniog (nodwyddau, chwistrelli ac ati), gwastraff peryglus, anifeiliaid marw, eitemau swmpus a gwastraff arall.

Mae’n rhaid i chi allu adnabod peryglon sy’n gysylltiedig ag amrywiol fathau o wastraff a chymryd y camau priodol i gynnal eich diogelwch.

Mae hyn yn cynnwys adnabod gwahanol fathau o wastraff a defnyddio dulliau trin diogel i’w rannu’n gategorïau dynodedig, delio â chyfarpar miniog a deunyddiau peryglus eraill, a lleihau difrod amgylcheddol. Gall hyn gynnwys hysbysu a gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill.

Mae’r safon hon yn addas i unrhyw un sy’n delio â gwastraff a adawyd ar dir maen nhw’n gofalu amdano.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad gwastraff
  2. defnyddio technegau trin diogel a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas i leihau’r risgiau iechyd a diogelwch wrth drin gwahanol fathau o wastraff
  3. archwilio’r digwyddiad gwastraff i sefydlu pa gamau gweithredu sy’n ofynnol
  4. rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol am y digwyddiad, lle bo angen, a cheisio cyngor a chymorth
  5. cymryd y camau priodol i amddiffyn a chynnal diogelwch y cyhoedd rhag y digwyddiad gwastraff, lle bo’r angen
  6. cyfathrebu’n gyson â chydweithwyr ac eraill sy’n ymwneud â’r digwyddiad gwastraff, neu y mae’r digwyddiad gwastraff yn effeithio arnyn nhw
  7. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel i ddelio â’r digwyddiad gwastraff
  8. adnabod a gwahanu gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion yr awdurdod lleol
  9. delio â sbwriel a gwastraff peryglus ac anniogel trwy gymryd y camau gofynnol, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion yr awdurdod lleol
  10. delio â thipio anghyfreithlon a gwastraff swmpus arall yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion yr awdurdod lleol
  11. delio â gwastraff a allai achosi llygredd gan ddefnyddio dulliau addas, yn dibynnu ar y math o wastraff
  12. lleihau’r difrod amgylcheddol y mae’r digwyddiad gwastraff yn ei achosi, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad
  13. cwblhau cofnodion am y digwyddiad gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risgiau
  2. y peryglon sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o wastraff
  3. y technegau trin diogel a’r dewis a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) wrth ddelio â sbwriel a digwyddiadau tipio anghyfreithlon
  4. y mathau o wastraff y gallech ddod ar eu traws, beth y mae angen cyflwyno adroddiadau amdano, ac o ble i geisio cyngor a chymorth
  5. y camau y gellir eu cymryd i amddiffyn a chynnal diogelwch y cyhoedd rhag y digwyddiad gwastraff, fel arwyddion a rhwystrau, a phryd bydd angen y rhain
  6. pwysigrwydd cyfathrebu’n gyson â chydweithwyr ac eraill sy’n ymwneud â’r digwyddiad gwastraff, neu y mae’r digwyddiad gwastraff yn effeithio arnyn nhw, a’r ffordd orau o wneud hyn
  7. sut i ddewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel i ddelio â’r digwyddiad gwastraff
  8. pam mae angen gwahanu gwastraff yn gywir a’r mathau gwahanol o wastraff y mae eich awdurdod lleol yn eu cydnabod
  9. y gofynion cyfreithiol sy’n perthyn i fathau penodol o sbwriel a gwastraff
  10. y gweithdrefnau ar gyfer gwaredu gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff
  11. y gofynion penodol ar gyfer trin sbwriel a gwastraff fel cyfarpar miniog a deunyddiau peryglus eraill
  12. y gofynion penodol ar gyfer delio â thipio anghyfreithlon a gwastraff swmpus arall
  13. y gweithdrefnau ar gyfer delio â gwastraff a allai achosi llygredd
  14. effaith bosibl gwastraff a llygredd ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
  15. y gofynion cyfreithiol a gofynion eich sefydliad ar gyfer cwblhau cofnodion am sbwriel a gwastraff arall

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mathau o wastraff:

  1. hylif
  2. solet
  3. organig
  4. ailgylchadwy
  5. peryglus – fflamadwy, ffrwydrol, ocsideiddiol, cyrydol, gwenwynig, perygl i iechyd, cyfarpar miniog, perygl amgylcheddol
  6. gwastraff rheoledig, gan gynnwys Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)
  7. swmpus

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS98

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Gweithiwr Ystâd, Rheolwr Parc, Ceidwad

Cod SOC

3550

Geiriau Allweddol

gwastraff; sbwriel; tipio anghyfreithlon; sbwriel