Delio â sbwriel, gwastraff a digwyddiadau llygredd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i gadw safleoedd yn ddiogel ac yn daclus trwy ddelio â sbwriel, gwastraff a digwyddiadau llygredd. Mae hyn yn cynnwys sbwriel, gwastraff a llygredd sy’n cael eu gadael gan y cyhoedd ac sy’n cael eu creu gan eich gweithgareddau gwaith chi.
Mae’n rhaid i chi allu adnabod peryglon sy’n gysylltiedig ag amrywiol fathau o ddeunyddiau a rhaid i chi gymryd y camau priodol i gynnal eich diogelwch.
Mae hyn yn cynnwys adnabod gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff a defnyddio dulliau trin diogel i’w gwahanu’n gategorïau dynodedig, delio â chyfarpar miniog a deunyddiau peryglus eraill, a lleihau difrod amgylcheddol.
Hefyd, mae’n cynnwys rheoli digwyddiadau llygredd sy’n ymwneud ag olewau, tanwydd, cemegion neu silt a gall gynnwys gwaredu deunydd halogedig.
Gall delio â sbwriel, gwastraff a digwyddiadau llygredd gynnwys hysbysu a gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill.
Gallech fod yn gweithio yn ôl manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, gan gynnwys risgiau sylweddau peryglus, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
- cymryd y camau priodol i amddiffyn a chynnal diogelwch y cyhoedd rhag digwyddiad gwastraff neu lygredd, lle bo angen
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, y cyhoedd ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r digwyddiad gwastraff neu lygredd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol ar waith i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- cymryd y camau priodol i leihau’r difrod amgylcheddol y mae’r sbwriel, gwastraff a llygredd yn ei achosi, yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi ymagweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei wneud
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Delio â sbwriel a gwastraff
- archwilio’r sbwriel neu’r gwastraff i sefydlu’r cam gweithredu sy’n ofynnol
- rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol, lle bo gofyn, pan fydd y cyhoedd yn tipio’n anghyfreithlon neu’n gadael gwastraff peryglus, a cheisio cyngor a chymorth
- nodi a gwahanu gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion yr awdurdod lleol a gweithdrefnau sefydliadol
- defnyddio technegau trin diogel i leihau risgiau iechyd a diogelwch wrth drin gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff
- adnabod pryd gellir ailddefnyddio neu ailgylchu gwastraff
- delio â gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion yr awdurdod lleol a gweithdrefnau sefydliadol
Delio â digwyddiadau llygredd
- nodi natur, graddau ac effaith bosibl y digwyddiad llygredd
- cymryd y camau perthnasol i atal llygredd pellach o’r digwyddiad
- rhoi gwybod i rai eraill y gallai’r digwyddiad llygredd effeithio arnynt
- dewis y camau priodol i reoli’r digwyddiad llygredd, yn unol â’r risgiau a aseswyd a natur y digwyddiad
- ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis mesurau rheoli
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r peirannau a ddefnyddiwyd i reoli llygredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- delio â’r digwyddiad llygredd gan ddefnyddio deunyddiau, cyfarpar a pheiriannau addas, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi unrhyw newidiadau i raddfa neu natur y digwyddiad llygredd a rhoi gwybod am y rhain yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwaredu deunyddiau rheoli llygredd a ddefnyddiwyd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- gwaredu pridd halogedig neu ddeunydd halogedig arall o ardal y digwyddiad llygredd lle bo angen, a delio ag ef yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- sut i nodi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol a chael ati
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i’r safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- pwysigrwydd nodi’r peryglon a’r risgiau o sylweddau peryglus
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i ymgymryd â’r gweithgareddau gwaith sy’n ofynnol
- y camau y gellir eu cymryd i amddiffyn a chynnal diogelwch y cyhoedd rhag y digwyddiad gwastraff neu lygredd, fel arwyddion a rhwystrau, a phryd bydd angen y rhain
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, y cyhoedd ac unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r digwyddiad gwastraff neu lygredd, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- effaith bosibl sbwriel, gwastraff a llygredd ar yr amgylchedd a sut y gellir lleihau hyn
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y problemau a all ddigwydd wrth ddelio â sbwriel, gwastraff a digwyddiadau llygredd, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Delio â sbwriel a gwastraff
- y peryglon sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff
- y technegau trin diogel a’r dewis a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) wrth ddelio â gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff
- y mathau o sbwriel a gwastraff y gellid dod ar eu traws, beth mae angen rhoi gwybod amdano, i bwy a sut, y dystiolaeth y dylid ei chadw ac o ble i geisio cyngor a chymorth
- pam mae angen gwahanu gwastraff yn gywir a’r categorïau ailgylchu a gwaredu dynodedig sy’n cael eu cydnabod gan eich awdurdod lleol ac sydd ar gael yn eich lle gwaith
- y gofynion cyfreithiol yn gysylltiedig â mathau penodol o sbwriel a gwastraff
- y gofynion penodol ar gyfer trin gwahanol fathau o sbwriel a gwastraff, gan gynnwys offer miniog a deunyddiau peryglus eraill a gwastraff rheoledig
- gofynion yr awdurdod lleol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â thipio anghyfreithlon a gwastraff swmpus arall
Delio â digwyddiadau llygredd
- pwysigrwydd gweithredu i atal llygredd pellach o’r digwyddiad a beth all gael ei wneud
- pwy sydd angen cael gwybod am y digwyddiad llygredd a sut dylai hyn gael ei wneud
- yr effaith bosibl ar gyrsiau dŵr lle mae’r digwyddiad llygredd yn effeithio arnynt, a phwysigrwydd rhoi gwybod i dderbynyddion y dŵr i lawr y cwrs dŵr
- y deunyddiau, y cyfarpar a’r peiriannau y gellir eu defnyddio i helpu rheoli digwyddiadau llygredd
- pryd y gall fod angen contractwyr arbenigol i ddelio â digwyddiad llygredd
- sut caiff chwistrelli pwysedd uchel, cyfaint dŵr isel, eu defnyddio i reoli digwyddiadau llygredd a llygryddion
- y defnydd o ddeunyddiau amsugnol i reoli llygryddion a gludir ar arwynebau
- effaith tanwyddau, olewau, cemegion a silt fel llygryddion
- goblygiadau tirwedd, amodau’r ddaear, y math o lystyfiant, y tymor a’r tywydd ar ddigwyddiadau llygredd
- y dulliau cywir ar gyfer gwaredu deunyddiau rheoli llygredd
- pwysigrwydd gwirio pa mor dda mae’r camau rheoli llygredd wedi gweithio
- pryd i roi gwybod am ddigwyddiadau llygredd, sut i wneud hyn a’r cosbau y gellid eu cael am achosi llygredd
- pryd bydd angen gwaredu pridd halogedig neu ddeunydd halogedig arall o safle’r llygredd a’r gweithdrefnau i’w dilyn ar gyfer gwneud hyn
- pwysigrwydd cwblhau cofnodion am y digwyddiad a’r camau rheoli a gymerwyd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Mae camau rheoli llygredd yn cynnwys:
• adeiladu ffosydd rhwystr
• adeiladu trawstiau rhwystr
• defnyddio deunyddiau amsugnol
• defnyddio chwistrelli dŵr
• defnyddio blociau/gronynnau clystyryddion
Mae mathau o lygryddion yn cynnwys:
- olewau a thanwyddau
- cemegion
- silt
Mae mathau o wastraff yn cynnwys:
- hylifau – gan gynnwys olew a thanwydd
- solidau
- organig
- ailgylchadwy
- peryglus – fflamadwy, ffrwydrol, ocsideiddiol, cyrydol, gwenwynig, peryglon iechyd, cyfarpar miniog, peryglon amgylcheddol
- gwastraff rheoledig, gan gynnwys rhywogaethau estron goresgynnol (INNS)
- swmpus – gan gynnwys tipio anghyfreithlon