Arsylwi ar danau llystyfiant

URN: LANCS96
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Bwriedir y safon hon i arbenigwyr sy’n gwneud ymchwil i danau llystyfiant a gellir ei chymhwyso i ddigwyddiadau tân gwyllt a gweithrediadau tân penodedig.

Bydd arsylwr tanau llystyfiant yn cyflawni swyddogaeth arsylwr sy’n cynnwys monitro ffactorau fel tanwydd, ymddygiad tân ac effaith cyn, yn ystod ac ar ôl tanau llystyfiant.

I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• Darparu gwybodaeth allweddol yn effeithiol i ddefnyddwyr ac i randdeiliaid eraill am danau llystyfiant cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad neu weithrediad

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. derbyn briff ar y dasg yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad, gan gynnwys peryglon a gwybodaeth ddiogelwch
  2. paratoi’r adnoddau cywir sy’n ofynnol i ymgymryd â’r arsylwi
  3. nodi cynhyrchion a methodolegau priodol i’w defnyddio
  4. cynllunio asesu data i sicrhau’r dull mwyaf effeithiol o fewn protocolau diogelwch
  5. cadarnhau’r lleoliadau arsylwi gyda staff a gweithdrefnau priodol
  6. gwirio bod peryglon ar y safle ac ar y ffordd yno’n cael eu nodi, yn unol â gweithdrefnau ac asesiad risg y sefydliad
  7. diffinio a gweithredu mesurau rheoli effeithiol er mwyn darparu systemau gweithio diogel wrth ymgymryd â’r arsylwi
  8. arsylwi’r tân a chasglu data yn unol â gofyniad y defnyddiwr a’r rhanddeiliaid
  9. cadarnhau bod y data’n cael ei gofnodi a’i ddogfennu yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
  10. cadarnhau bod y data a gasglwyd yn cael ei adolygu i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol i weithgareddau gweithredol parhaus
  11. diffinio bylchau er mwyn casglu data pellach
  12. cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei threfnu i fodloni anghenion y defnyddiwr a rhanddeiliaid
  13. trosglwyddo’r data a gasglwyd i’r defnyddiwr ac i randdeiliaid o fewn yr amserlenni gofynnol, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  14. cyfrannu at sesiwn ôl-friffio gan y defnyddiwr a rhanddeiliaid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  15. gwerthuso effeithiolrwydd y dasg ac adrodd pwyntiau allweddol yn ôl i ddefnyddwyr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i dderbyn tasg er mwyn casglu data o arsylwi’r tân llystyfiant yn effeithiol ac yn ddiogel
  2. yr adnoddau a’r cyfarpar sy’n ofynnol i ymgymryd â’r arsylwi
  3. sut i ddefnyddio’r cynhyrchion a’r methodolegau priodol er mwyn gallu cyflawni’r dasg yn effeithiol
  4. y prosesau cyfathrebu gan gynnwys dulliau ac offer
  5. y peryglon a’r mesurau rheoli posibl er mwyn darparu systemau gweithio diogel wrth ymgymryd â’r arsylwi
  6. y gofynion iechyd a diogelwch sefydliadol, gan gynnwys lliniaru risgiau
  7. y math o ddigwyddiad ac ymddygiad disgwyliedig
  8. elfennau pecynnau adnoddau deallusrwydd
  9. pecynnau adnoddau deallusrwydd asiantaethau a sefydliadau perthnasol eraill
  10. y mathau o fapiau a siartiau i gynorthwyo â’r arsylwi
  11. y technegau cynllunio cenhadaeth a phrosesau llywio
  12. sut gall amodau’r tywydd effeithio ar yr arsylwi
  13. y dogfennau, y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer casglu a chofnodi data
  14. y prosesau ar gyfer sesiynau briffio ac ôl-friffio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Pwynt Angori: Lleoliad manteisiol, sy’n rhwystr fel arfer rhag i’r tân ledaenu, y gellir dechrau adeiladu llinell reoli ohono.
 
Cyfyngu – Pan fydd llinell reoli wedi’i sefydlu o gwmpas perimedr y tân ac wedi atal twf pellach.
 
Llinell reoli – Term cynhwysol ar gyfer pob ffin naturiol neu ffin a adeiladwyd ac ymylon tân wedi’u trin a ddefnyddir i reoli tân.
 
Mesur rheoli – Camau lliniaru y gellir eu cymryd i leihau potensial amlygiad i berygl a nodwyd.
 
Rheoli – Gwella a sicrhau llinellau rheoli i’r graddau fel nad oes cyfle rhagweladwy y bydd y tân yn dianc.
 
Ymosodiad uniongyrchol – Tacteg ymosodol i ffrwyno tân sy’n cynnwys gwneud ymosodiad wrth y tân neu gerllaw.
 
Ymddygiad tân – Adwaith tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffi. Mae gwahanol fathau o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripiol, rhedegog, ffaglu, sbotio a choroni.

Strimyn atal tân – Bylchau mewn llystyfiant, a all fod yn nodweddion naturiol neu rai wedi’u gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd wedi’u pori’n sylweddol neu lwybrau a reidiau lle mae’r gwair wedi’i dorri.

Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol amgylchedd y tân, sy’n pennu pa mor hawdd y mae i gynnau, cyflymder lledaenu, pa mor anodd ydyw i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi ar ffurf mynegai.

System raddio perygl tân (Mynegai) – Dangosydd meintiol o berygl tân, wedi’i fynegi naill ai mewn modd cymharol neu fel mesur absoliwt. Mae mynegeion perygl tân yn cael eu defnyddio’n aml i lywio gweithgareddau rheoli tân.

Perygl tân – Unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr a all achosi tân gwyllt neu a all ddarparu cyflenwad parod o danwydd i waethygu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, bob un ohonynt yn peri bygythiad i fywyd, eiddo neu i’r amgylchedd.

Dwysedd tân – Y gyfradd y mae tân yn rhyddhau egni ar ffurf gwres arni mewn lleoliad penodol ac ar amser penodol, wedi’i mynegi ar ffurf cilowatiau y metr (kW/m) neu kilojoules y metr yr eiliad (kJ/m/s).

Risg tân – Y tebygolrwydd y bydd tân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol ar amser penodol. Mae risg tân gwyllt yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg tân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl.

Difrifoldeb tân – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan dân/llosgfa a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.

Math o dân – Mae tri chynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu’r math o dân:

  1. Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft, tanau awyrol, coron, isdyfiant, arwyneb a daear.
  2. Dosbarthu rhan o dân yn ôl ei safle ar hyn perimedr y tân. Er enghraifft, tanau brig, cynffon ac ystlys.
  3. Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl y nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripiol, gwrthwyro, rhedegog, ffaglu, sbotio, coroni, chwyrlïad tân, tân wedi’i yrru gan ddarfudiad ac ati

Tywydd tân – Amodau tywydd a all ddylanwadu ar gynnau, ymddygiad a ffrwyno tân.

Dwysedd ffos atal tân – Y gyfradd rhyddhau egni fesul hyd uned ffrynt y tân, a ddisgrifir mewn kW/m.

Tân ystlys – Tân sy’n lledaenu neu y disgwylir iddo ledaenu’n gyfochrog (ar ongl sgwâr, yn fras) i gyfeiriad y gwynt ar y pryd neu i lethr.

Ymosodiad ochrol – Dull o ffrwyno tân sy’n cynnwys ymosod ar dân gwyllt ar hyd yr ystlys neu’r ddwy ystlys ar yr un pryd neu yn olynol.

Ystlysau – Y rhannau o berimedr tân sy’n gyfochrog yn fras â phrif gyfeiriad y lledaeniad.

Tanwydd – Unrhyw ddeunydd a all gynorthwyo â hylosgi mewn amgylchedd tân gwyllt. Caiff tanwydd ei fesur mewn tunelli metrig fesul hectar fel arfer.

Toriad tanwydd – Bylchau mewn llystyfiant lle y mae sbwriel a deunyddiau organig wedi’u tynnu oddi yno i ddatgelu pridd mwynol. Gall y rhain gynnwys afonydd, ffyrdd neu linellau rheoli sydd wedi’u creu ag offer â llaw neu beiriannau.

Perygl tanwydd – Cymhlyg tanwydd wedi’i ddiffinio gan fath, trefniant, swm, cyflwr a lleoliad sy’n peri bygythiad cynnau a gwrthsefyll ei reoli.

Tanwyddau – Dosbarthiad tanwyddau yn ôl eu huchder o gymharu ag arwyneb y tir. Mae pum haen tanwydd yn gyffredinol: • Tanwyddau awyrol • Tanwyddau dyrchafedig • Tanwyddau ger yr arwyneb • Tanwyddau arwyneb • Tanwyddau daear

Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.

Brig – Cyfran o berimedr tân sy’n lledaenu gyflymaf, fel arfer i gyfeiriad y gwynt neu i fyny llethr.

Sawdl neu gynffon – Y rhan o dân gwyllt/tân fforest bellaf i’r cefn, nad yw’n alinio â’r gwynt a’r llethr fel arfer ac, o ganlyniad, bydd fel arfer yn dangos llai o weithgarwch tân na’r tân wrth y brig gan fod llai o gefnogaeth ganddo gan wynt neu lethr fel arfer.

Ymosodiad anuniongyrchol – Unrhyw ddulliau ffrwyno sy’n cael eu rhoi ar waith y tu hwnt i ymyl y tân.

JESIP – Rhaglen Rhyngweithredu ar y Cyd y Gwasanaethau Brys

Knockdown – Y gwaith ffrwyno cychwynnol sy’n anelu at leihau dwysedd tân ac arafu neu atal tân rhag lledaenu. Mae’n awgrymu bod perygl rhagweladwy’r tân gwyllt wedi’i ostwng yn sylweddol.

LACES – Protocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith pan fydd tanau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn acronym ar gyfer: L = Lookouts,  A = Awareness (neu Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area

Y dirwedd – Golwg ffisegol y tir gan gynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant brodorol a’r effaith ddynol a achoswyd gan amrywiadau yn y defnydd ar y tir.

Tebygolrwydd – Asesiad o’r tebygolrwydd y bydd perygl a nodwyd yn arwain at golled (fe’i mynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).

Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses o drosglwyddo gwres o un corff neu wrthrych i un arall. Mewn tanau gwyllt a thanau coedwig, caiff ynni gwres ei drosglwyddo o danwyddau sy’n llosgi i danwyddau sydd ddim yn llosgi trwy: Darfudiad, Pelydriad a Dargludiad.

Clirio a phatrolio – Gweithgarwch sy’n dechrau ar ôl rheoli’r tân ac mae’n cynnwys diffodd yr ardal sy’n llosgi hyd nes na fydd ailgynnau’n bosibl. Bydd patrolio perimedr y tân yn helpu i sicrhau na fydd y tân yn dianc y tu allan i’r llinellau rheoli. Gellir dweud bod tân “allan” ar ôl cwblhau’r cam hwn.

Arsylwr – Unigolyn mewn tŵr/pwynt arsylwi neu sy’n patrolio ardal ddynodedig sy’n cael y dasg o ddarganfod a rhoi gwybod am danau gwyllt.

Ymosodiad pinsio – Y dacteg o ymosod ar dân gwyllt trwy weithio ar hyd yr ystlysau naill ai ar yr un pryd neu yn olynol o bwynt angori a cheisio cysylltu’r ddwy linell wrth y brig.

Risg – Y tebygolrwydd y bydd niwed o berygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad.

Asesiad risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth ynghylch lefelau risg derbyniol a lefelau risg gwirioneddol i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Mae’r broses yn cynnwys adnabod risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.

Graddfa risg – Canlyniad lluosi tebygolrwydd yn ôl y difrifoldeb i gyrraedd gwerth ar gyfer risg. Caiff hyn ei fynegi wedyn naill ai ar ffurf gwerth rhifol neu, yn syml, isel, canolig neu uchel.

Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodwyd (a fynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).

Topograffi – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb y tir.

Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb reolaeth sy’n gofyn am benderfyniad neu weithredu o ran ffrwyno. Dosberthir tanau gwyllt yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau ffrwyno.

Cynllun rheoli tanau gwyllt – Cynllun penodol i safle a ddatblygwyd i fynd i’r afael â risg tân gwyllt ac amlinellu mesurau a fydd yn lleihau neu’n lliniaru risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol, bydd hwn yn cael ei gynhyrchu yn dilyn asesiad risg tanau gwyllt.

Parthau rheoli tanau gwyllt – Nod parthau rheoli tanau gwyllt yw amddiffyn iechyd a diogelwch ac asedau a seilwaith pwysig. Gallant ddarparu fframwaith defnyddiol i helpu rheolwyr i adnabod a blaenoriaethu mesurau atal tanau gwyllt ar draws safle, ar sail lefel y risg tanau gwyllt. Mae parthau rheoli tanau gwyllt yn cynnwys rhannu mesurau atal tân gwyllt yn barthau gofodol ar sail cymesuredd. Parth A yw’r Parth Asedau, lle y mae’n rhaid amddiffyn seilwaith rhag tân, Parth B yw’r parth byffro, lle y mae mwy o reolaeth ar danwydd i amddiffyn Parthu A a D. Mae Parth C yn ardal risg isel o danau gwyllt lle y gellir cyflawni gweithgareddau rheoli tir arferol. Mae Parth D yn barth gwahardd tân, lle na ddylid caniatáu gweithrediadau fel llosgi penodedig neu danau ffrwyno.

System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS) – System gydnabyddedig ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae wedi’i seilio ar ystyried gwynt, llethr ac wynebwedd ar y cyd â thanwydd.

Atal tanau gwyllt – Term cyfunol ar gyfer pob gweithgaredd rhagweithiol sy’n cael eu rhoi ar waith gyda’r nod o leihau pa mor aml mae tanau gwyllt yn digwydd, eu difrifoldeb a’u lledaeniad.

Mesurau atal tanau gwyllt – Gweithgareddau wedi’u hanelu at leihau pa mor aml mae tanau’n digwydd, gan gynnwys addysg gyhoeddus, gorfodi’r gyfraith, cysylltiad personol, a lleihau peryglon tanwydd (rheoli tanwyddau).

Cynllun atal tanau gwyllt – Cynllun neu raglen o weithgareddau sydd wedi’i llunio er mwyn atal tanau gwyllt.

Cynllun ymateb i danau gwyllt – Cynllun penodol i ardal a ddatblygwyd er mwyn amlinellu’r ymateb sy’n ofynnol i dân gwyllt. Dylai cynlluniau ymateb i danau gwyllt gynnwys gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i Wasanaethau Tân ac Achub, fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.

Asesiad risg tân gwyllt – Offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg tân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS96

Galwedigaethau Perthnasol

Arsylwr tanau llystyfiant

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

tân gwyllt; llosgi penodedig