Datblygu cynllun rheoli tanau gwyllt
Trosolwg
Bwriedir y safon hon i bobl sy’n gweithio ym maes coedwigaeth, cadwraeth, ffermio neu reoli anifeiliaid hela a bywyd gwyllt, ac sy’n gyfrifol am reoli digwyddiadau tân gwyllt neu weithrediadau tân penodedig. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau rydych chi’n ymgymryd â nhw i ddatblygu cynllun rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys cwmpasu, cynnal arolwg, dadansoddi, cyfosod, gweithredu, monitro ac adolygu.
I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• casglu a threfnu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol
• ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol
• cyfleu ac enghreifftio gwybodaeth allweddol
• dadansoddi a chyfosod tystiolaeth yn offerynnau allweddol i lywio’r gwaith o gynllunio gwydnwch ac addasu systemau rheoli
• gweithredu nodweddion gwydnwch ac arferion rheoli
• monitro ac adolygu Cynllun Rheoli Tân Gwyllt.
Dylai’r bobl sy’n ffrwyno tanau llystyfiant fod wedi cael eu hyfforddi a dylent ddal y tystysgrifau cyfredol, lle bo gofyn, yn unol â deddfwriaeth penodol i wlad.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydweithio â rhanddeiliaid allweddol i gasglu gwybodaeth i lywio datblygiad y cynllun rheoli tanau gwyllt
- cynnal asesiad risg tân gwyllt i bennu ac adnabod peryglon cysylltiedig â thanau llystyfiant
- mapio peryglon tanwydd llystyfiant a diffinio pwyntiau critigol
- pennu pwy a beth allai gael ei niweidio a sut caiff hyn ei ddiffinio o ran bywyd, eiddo a’r amgylchedd
- cwblhau cyfrifiad asesiad risg gan ddefnyddio’r matrics risg tân gwyllt i bennu graddfa risg ar gyfer tebygolrwydd peryglon tanau gwyllt a’u difrifoldeb
- defnyddio asesiad risg tanau gwyllt ysgrifenedig a/neu ofodol i gyfleu risg i randdeiliaid a gwella dadansoddi
- diffinio ardaloedd uchel ac isel eu blaenoriaeth i’w hamddiffyn ac, o bosibl, eu colli, yn ystod digwyddiadau
- pennu beth sy’n fesurau rheoli a sut i gymhwyso mesurau rheoli presennol a rhai pellach
- nodi ardaloedd i’w rheoli a’u rhannu’n barthau yn effeithiol, gan ddefnyddio parthau rheoli tân gwyllt, yn gymesur â’r safle ac i’r dirwedd
- trefnu gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol
- dadansoddi gwybodaeth am dir a nodweddion ar y safle ac yn y dirwedd gyfagos i bennu sut mae’n dylanwadu ar ymddygiad tân gwyllt
- dadansoddi gwybodaeth am fathau o lystyfiant a dyfnder mawn ar y safle, a lefel y risg tân gwyllt
- diffinio cyfyngiadau, cyfleoedd a bygythiadau
- ymgymryd â’r broses gyfosod gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o’r camau cwmpasu, cynnal arolwg a dadansoddi i ddarparu cynllun safle a thirwedd gwydn
- datblygu cynllun rheoli tân gwyllt sy’n blaenoriaethu’r risg i fywyd, eiddo a’r amgylchedd yn gywir
- cadarnhau bod y cynllun yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am losgi penodedig, mesurau atal tân gwyllt a’r ymateb i dân gwyllt
- pennu sut i roi mesurau atal tân llystyfiant ar waith ar y safle
- cyfleu’r mesurau atal a lliniaru tân gwyllt i’r holl randdeiliaid statudol ac anstatudol
- diffinio sut i gofnodi digwyddiadau tân gwyllt, gweithrediadau llosgi penodedig a gweithrediadau eraill, ynghyd â’u heffeithiolrwydd, a gwybodaeth berthnasol arall
- mesur sut caiff y cynllun rheoli tân gwyllt ei gyflwyno o gymharu â’r ffactorau llwyddiant critigol a ddiffinnir yn yr amcanion rheoli tanau gwyllt
- monitro ac adolygu cynlluniau rheoli tanau gwyllt gydag amserlen briodol ac yn dilyn digwyddiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben cynllun rheoli tanau gwyllt, beth sydd wedi’i gynnwys a phryd a sut y caiff ei ddefnyddio
- y wybodaeth y mae ei hangen i lywio datblygiad cynllun rheoli tanau gwyllt
- beth yw nod, amcanion a ffactorau llwyddiant critigol y cynllun rheoli tanau llystyfiant
- y broses a’r cylch cynllunio o ran: cwmpasu, cynnal arolwg, dadansoddi, cyfosod, gweithredu, monitro ac adolygu
- proses yr arolwg, pwy ddylai gymryd rhan mewn casglu’r wybodaeth a sut i ymgysylltu â nhw er mwyn cael adborth effeithiol
- pedwar offeryn pecyn cynllun rheoli tanau gwyllt: asesiad risg tân gwyllt, parthau rheoli tân gwyllt, mesurau atal tân gwyllt a chynllun ymateb i dân gwyllt
- blaenoriaethau allweddol ar gyfer cynllunio rheoli tanau gwyllt, sef risg i fywyd, eiddo a’r amgylchedd
- sut i ddiffinio fformat priodol ar gyfer cynllun rheoli tanau gwyllt, naill ai ar ei ben ei hun neu wedi’i integreiddio i gynlluniau rheoli ehangach y sefydliad
- sut i ddiffinio’r gwahaniaeth rhwng lliniaru ac addasu yng nghyd-destun cynllun rheoli tanau gwyllt o ran y newid yn yr hinsawdd a rheoli risg
- sut i ddiffinio peryglon yn gywir ac ymgymryd ag asesiad risg tân gwyllt, gan gynnwys:
peryglon a ffactorau risg tanau gwyllt
pwy a beth all gael eu niweidio a sut y caiff hyn ei ddiffinio o ran bywyd, eiddo a’r amgylchedd
y tebygolrwydd o danau gwyllt a difrifoldeb y perygl
mesurau rheoli a sut i gymhwyso mesurau rheoli presennol a rhai pellach
y raddfa risg a sut i gwblhau cyfrifiad gan ddefnyddio matrics risg tân gwyllt
sut i ddefnyddio asesiad risg tân gwyllt gofodol i gyfleu risg i randdeiliaid a gwella’r dadansoddi - sut i adnabod, dadansoddi a mapio peryglon tanwyddau llystyfiant a’u llwyth, y tir a nodweddion eraill ar y safle ac yn y dirwedd, asesu sut byddent yn dylanwadu ar ymddygiad tân a diffinio’r pwyntiau critigol
- sut i ddiffinio ardaloedd uchel ac isel eu blaenoriaeth i’w hamddiffyn ac, o bosibl, eu colli, yn ystod digwyddiadau
- sut i nodi meysydd i’w rheoli gan ddefnyddio’r parthau rheoli tân gwyllt, yn gymesur â’r safle ac i’r dirwedd
- effaith y gwahanol fathau o lystyfiant a dyfnder y mawn ar y safle ar lefel y risg tân gwyllt
- sut i ddiffinio’r Cyfyngiadau, y Cyfleoedd a’r Bygythiadau (COT) a sut i’w cyfleu i randdeiliaid a gwella’r dystiolaeth ar gyfer synthesis
- sut i ymgymryd â phroses gyfosod gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o’r camau cwmpasu, cynnal arolwg a dadansoddi i ddarparu safle a thirwedd wydn
- egwyddorion cynllunio da ar gyfer adeiladu gwydnwch rhag tân gwyllt yn y dyluniad
- sut i reoli tanwyddau llystyfiant gan ddefnyddio systemau rheoli a phennu sut y gall arferion rheoli gael eu defnyddio i wella gwydnwch
- sut i gynllunio, gosod safle a chreu strimynnau atal tân a strimynnau atal tanwydd
- sut i wella dyluniad arwyddion ar y safle i gynyddu gwydnwch rhag tanau gwyllt
- sut i gynllunio ar gyfer gweithrediadau tân penodedig
- sut i gynllunio ar gyfer pobl, mynediad a hamdden
- sut i gynllunio ar gyfer darparu mynediad i ffynonellau dŵr naturiol a rhai wedi’u gwneud
- sut i gynllunio ar gyfer caniatáu mynediad i’r ymateb i ddigwyddiad a gwella llwyddiant ymladd y tân
- sut i ddatblygu cynllun ymateb i dân gwyllt, gan gynnwys y wybodaeth, y nodweddion, yr eiconau a’r symbolau y dylid eu defnyddio
- sut i weithredu mesurau atal tân yn llwyddiannus ar safle i liniaru risg tân gwyllt
- sut i gyfleu’r mesurau atal a lliniaru tân gwyllt i’r holl randdeiliaid statudol ac anstatudol
- sut i gofnodi digwyddiadau tân gwyllt, gweithrediadau tân penodedig a gweithrediadau atal eraill yn gywir, ynghyd â’u heffeithiolrwydd, a gwybodaeth berthnasol arall
- sut i fesur cyflawniad a pherfformiad gwydnwch rhag tân gwyllt yn erbyn y ffactorau llwyddiant critigol a ddiffinnir yn yr amcanion rheoli tân gwyllt
- sut i wirio, casglu data, cofnodi a gwerthuso gweithredu’r cynllun rheoli tanau gwyllt o fewn amserlen briodol ac yn dilyn digwyddiad
- sut i fonitro’r gweithredu a’r digwyddiadau tân gwyllt ar y safle
- sut i adolygu cynllun rheoli tanau gwyllt a’r newidiadau angenrheidiol posibl
- sut i ddiweddaru’r cynllun rheoli tanau gwyllt i ddysgu o ddigwyddiadau neu weithrediadau tân gwyllt yn y gorffennol a diffinio’u heffeithiolrwydd
- sut y bydd angen adlewyrchu newid yn y defnydd ar y tir ar safle a graddfa’r dirwedd mewn cynlluniau rheoli tanau gwyllt sydd wedi’u hadolygu.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pwynt Angori: Lleoliad manteisiol, sy’n rhwystr fel arfer rhag i’r tân ledaenu, y gellir dechrau adeiladu llinell reoli ohono.
Cyfyngu – Pan fydd llinell reoli wedi’i sefydlu o gwmpas perimedr y tân ac wedi atal twf pellach.
Llinell reoli – Term cynhwysol ar gyfer pob ffin naturiol neu ffin a adeiladwyd ac ymylon tân wedi’u trin a ddefnyddir i reoli tân.
Mesur rheoli – Camau lliniaru y gellir eu cymryd i leihau potensial amlygiad i berygl a nodwyd.
Rheoli – Gwella a sicrhau llinellau rheoli i’r graddau fel nad oes cyfle rhagweladwy y bydd y tân yn dianc.
Ymosodiad uniongyrchol – Tacteg ymosodol i ffrwyno tân sy’n cynnwys gwneud ymosodiad wrth y tân neu gerllaw.
Ymddygiad tân – Adwaith tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffi. Mae gwahanol fathau o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripiol, rhedegog, ffaglu, sbotio a choroni.
Strimyn atal tân – Bylchau mewn llystyfiant, a all fod yn nodweddion naturiol neu rai wedi’u gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd wedi’u pori’n sylweddol neu lwybrau a reidiau lle mae’r gwair wedi’i dorri.
Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol amgylchedd y tân, sy’n pennu pa mor hawdd y mae i gynnau, cyflymder lledaenu, pa mor anodd ydyw i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi ar ffurf mynegai.
System raddio perygl tân (Mynegai) – Dangosydd meintiol o berygl tân, wedi’i fynegi naill ai mewn modd cymharol neu fel mesur absoliwt. Mae mynegeion perygl tân yn cael eu defnyddio’n aml i lywio gweithgareddau rheoli tân.
Perygl tân – Unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr a all achosi tân gwyllt neu a all ddarparu cyflenwad parod o danwydd i waethygu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, bob un ohonynt yn peri bygythiad i fywyd, eiddo neu i’r amgylchedd.
Dwysedd tân – Y gyfradd y mae tân yn rhyddhau egni ar ffurf gwres arni mewn lleoliad penodol ac ar amser penodol, wedi’i mynegi ar ffurf cilowatiau y metr (kW/m) neu kilojoules y metr yr eiliad (kJ/m/s).
Risg tân – Y tebygolrwydd y bydd tân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol ar amser penodol. Mae risg tân gwyllt yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg tân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl.
Difrifoldeb tân – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan dân/llosgfa a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.
Math o dân – Mae tri chynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu’r math o dân:
- Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft, tanau awyrol, coron, isdyfiant, arwyneb a daear.
- Dosbarthu rhan o dân yn ôl ei safle ar hyn perimedr y tân. Er enghraifft, tanau brig, cynffon ac ystlys.
- Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl y nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripiol, gwrthwyro, rhedegog, ffaglu, sbotio, coroni, chwyrlïad tân, tân wedi’i yrru gan ddarfudiad ac ati
Tywydd tân – Amodau tywydd a all ddylanwadu ar gynnau, ymddygiad a ffrwyno tân.
Dwysedd ffos atal tân – Y gyfradd rhyddhau egni fesul hyd uned ffrynt y tân, a ddisgrifir mewn kW/m.
Tân ystlys – Tân sy’n lledaenu neu y disgwylir iddo ledaenu’n gyfochrog (ar ongl sgwâr, yn fras) i gyfeiriad y gwynt ar y pryd neu i lethr.
Ymosodiad ochrol – Dull o ffrwyno tân sy’n cynnwys ymosod ar dân gwyllt ar hyd yr ystlys neu’r ddwy ystlys ar yr un pryd neu yn olynol.
Ystlysau – Y rhannau o berimedr tân sy’n gyfochrog yn fras â phrif gyfeiriad y lledaeniad.
Tanwydd – Unrhyw ddeunydd a all gynorthwyo â hylosgi mewn amgylchedd tân gwyllt. Caiff tanwydd ei fesur mewn tunelli metrig fesul hectar fel arfer.
Toriad tanwydd – Bylchau mewn llystyfiant lle y mae sbwriel a deunyddiau organig wedi’u tynnu oddi yno i ddatgelu pridd mwynol. Gall y rhain gynnwys afonydd, ffyrdd neu linellau rheoli sydd wedi’u creu ag offer â llaw neu beiriannau.
Perygl tanwydd – Cymhlyg tanwydd wedi’i ddiffinio gan fath, trefniant, swm, cyflwr a lleoliad sy’n peri bygythiad cynnau a gwrthsefyll ei reoli.
Tanwyddau – Dosbarthiad tanwyddau yn ôl eu huchder o gymharu ag arwyneb y tir. Mae pum haen tanwydd yn gyffredinol: • Tanwyddau awyrol • Tanwyddau dyrchafedig • Tanwyddau ger yr arwyneb • Tanwyddau arwyneb • Tanwyddau daear
Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.
Brig – Cyfran o berimedr tân sy’n lledaenu gyflymaf, fel arfer i gyfeiriad y gwynt neu i fyny llethr.
Sawdl neu gynffon – Y rhan o dân gwyllt/tân fforest bellaf i’r cefn, nad yw’n alinio â’r gwynt a’r llethr fel arfer ac, o ganlyniad, bydd fel arfer yn dangos llai o weithgarwch tân na’r tân wrth y brig gan fod llai o gefnogaeth ganddo gan wynt neu lethr fel arfer.
Ymosodiad anuniongyrchol – Unrhyw ddulliau ffrwyno sy’n cael eu rhoi ar waith y tu hwnt i ymyl y tân.
JESIP – Rhaglen Rhyngweithredu ar y Cyd y Gwasanaethau Brys
Knockdown – Y gwaith ffrwyno cychwynnol sy’n anelu at leihau dwysedd tân ac arafu neu atal tân rhag lledaenu. Mae’n awgrymu bod perygl rhagweladwy’r tân gwyllt wedi’i ostwng yn sylweddol.
LACES – Protocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith pan fydd tanau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn acronym ar gyfer: L = Lookouts, A = Awareness (neu Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area
Y dirwedd – Golwg ffisegol y tir gan gynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant brodorol a’r effaith ddynol a achoswyd gan amrywiadau yn y defnydd ar y tir.
Tebygolrwydd – Asesiad o’r tebygolrwydd y bydd perygl a nodwyd yn arwain at golled (fe’i mynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).
Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses o drosglwyddo gwres o un corff neu wrthrych i un arall. Mewn tanau gwyllt a thanau coedwig, caiff ynni gwres ei drosglwyddo o danwyddau sy’n llosgi i danwyddau sydd ddim yn llosgi trwy: Darfudiad, Pelydriad a Dargludiad.
Clirio a phatrolio – Gweithgarwch sy’n dechrau ar ôl rheoli’r tân ac mae’n cynnwys diffodd yr ardal sy’n llosgi hyd nes na fydd ailgynnau’n bosibl. Bydd patrolio perimedr y tân yn helpu i sicrhau na fydd y tân yn dianc y tu allan i’r llinellau rheoli. Gellir dweud bod tân “allan” ar ôl cwblhau’r cam hwn.
Arsylwr – Unigolyn mewn tŵr/pwynt arsylwi neu sy’n patrolio ardal ddynodedig sy’n cael y dasg o ddarganfod a rhoi gwybod am danau gwyllt.
Ymosodiad pinsio – Y dacteg o ymosod ar dân gwyllt trwy weithio ar hyd yr ystlysau naill ai ar yr un pryd neu yn olynol o bwynt angori a cheisio cysylltu’r ddwy linell wrth y brig.
Risg – Y tebygolrwydd y bydd niwed o berygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad.
Asesiad risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth ynghylch lefelau risg derbyniol a lefelau risg gwirioneddol i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Mae’r broses yn cynnwys adnabod risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Graddfa risg – Canlyniad lluosi tebygolrwydd yn ôl y difrifoldeb i gyrraedd gwerth ar gyfer risg. Caiff hyn ei fynegi wedyn naill ai ar ffurf gwerth rhifol neu, yn syml, isel, canolig neu uchel.
Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodwyd (a fynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).
Topograffi – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb y tir.
Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb reolaeth sy’n gofyn am benderfyniad neu weithredu o ran ffrwyno. Dosberthir tanau gwyllt yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau ffrwyno.
Cynllun rheoli tanau gwyllt – Cynllun penodol i safle a ddatblygwyd i fynd i’r afael â risg tân gwyllt ac amlinellu mesurau a fydd yn lleihau neu’n lliniaru risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol, bydd hwn yn cael ei gynhyrchu yn dilyn asesiad risg tanau gwyllt.
Parthau rheoli tanau gwyllt – Nod parthau rheoli tanau gwyllt yw amddiffyn iechyd a diogelwch ac asedau a seilwaith pwysig. Gallant ddarparu fframwaith defnyddiol i helpu rheolwyr i adnabod a blaenoriaethu mesurau atal tanau gwyllt ar draws safle, ar sail lefel y risg tanau gwyllt. Mae parthau rheoli tanau gwyllt yn cynnwys rhannu mesurau atal tân gwyllt yn barthau gofodol ar sail cymesuredd. Parth A yw’r Parth Asedau, lle y mae’n rhaid amddiffyn seilwaith rhag tân, Parth B yw’r parth byffro, lle y mae mwy o reolaeth ar danwydd i amddiffyn Parthu A a D. Mae Parth C yn ardal risg isel o danau gwyllt lle y gellir cyflawni gweithgareddau rheoli tir arferol. Mae Parth D yn barth gwahardd tân, lle na ddylid caniatáu gweithrediadau fel llosgi penodedig neu danau ffrwyno.
System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS) – System gydnabyddedig ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae wedi’i seilio ar ystyried gwynt, llethr ac wynebwedd ar y cyd â thanwydd.
Atal tanau gwyllt – Term cyfunol ar gyfer pob gweithgaredd rhagweithiol sy’n cael eu rhoi ar waith gyda’r nod o leihau pa mor aml mae tanau gwyllt yn digwydd, eu difrifoldeb a’u lledaeniad.
Mesurau atal tanau gwyllt – Gweithgareddau wedi’u hanelu at leihau pa mor aml mae tanau’n digwydd, gan gynnwys addysg gyhoeddus, gorfodi’r gyfraith, cysylltiad personol, a lleihau peryglon tanwydd (rheoli tanwyddau).
Cynllun atal tanau gwyllt – Cynllun neu raglen o weithgareddau sydd wedi’i llunio er mwyn atal tanau gwyllt.
Cynllun ymateb i danau gwyllt – Cynllun penodol i ardal a ddatblygwyd er mwyn amlinellu’r ymateb sy’n ofynnol i dân gwyllt. Dylai cynlluniau ymateb i danau gwyllt gynnwys gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i Wasanaethau Tân ac Achub, fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.
Asesiad risg tân gwyllt – Offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg tân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.