Goruchwylio ac arwain gweithrediadau ffrwyno tân llystyfiant
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio ac arwain gweithrediadau atal tanau llystyfiant, lle y mae canllawiau llywodraeth y wlad benodol yn caniatáu am hyn. Fe’i bwriedir i bobl sy’n gweithio ym maes coedwigaeth, ffermio, rheoli anifeiliaid hela a bywyd gwyllt, neu gadwraeth amgylcheddol.
I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• cyfrannu at ddatblygu cynlluniau a mapiau ffrwyno tân
• cyfrannu at ddiffinio a threfnu’r gofynion ymarferol sy’n gysylltiedig â gweithrediadau diogel ffrwyno tân llystyfiant
• cyfrannu at ddiffinio datblygiad neilltuo tasgau ffrwyno tân
• gorchwylio ac arwain unigolion a thimau i gefnogi gweithrediadau ffrwyno tân
• cymryd y camau gofynnol os bydd digwyddiad neu argyfwng
• gwerthuso effeithiolrwydd gweithrediadau ffrwyno tân.
Wrth ffrwyno tanau llystyfiant, dylech fod wedi cael eich hyfforddi a dylech ddal y tystysgrifau cyfredol lle bo’r gofyn, yn unol â deddfwriaeth penodol i wlad.
Hefyd, rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer presennol sy’n berthnasol i’r wlad mae’r gweithgarwch yn digwydd ynddi.
Pan fyddant yn bresennol, y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer eich ardal sydd â gofal ac sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am bob gweithgarwch ffrwyno tân ar dir y tân. Rhaid i chi ddilyn eu cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gweithio diogel eich sefydliad eich hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu peryglon tân a risgiau tân llystyfiant er mwyn llywio cynllunio rheoli tân
- casglu a chadarnhau gwybodaeth yn gysylltiedig â’r risgiau hysbys a disgwyliedig i bobl, eiddo, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- cyfrannu at gynlluniau tactegol i ffrwyno tân llystyfiant, o fewn strwythur awdurdod/rheoli’r digwyddiad, gan gyfrif am wahanol gamau ffrwyno tân gwyllt
- cydweithio a chyfathrebu â’r bobl berthnasol i gadarnhau’r cynlluniau arfaethedig i ffrwyno tân llystyfiant
- trefnu’r gofynion gweithredol ac adnoddau i gynorthwyo â gweithredu’r cynlluniau ffrwyno tân llystyfiant
- cyfrannu at baratoi mapiau a rhestri gwirio o’r adnoddau ffrwyno tân sydd ar gael
- cyfrannu at sefydlu a rheoli cynlluniau ffrwyno tân wrth gefn
- datblygu eich amcanion trwy asesu risg, gan gynnwys defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael am berygl tân
- cyfrannu, gorchwylio ac arwain datblygu cynlluniau tactegol sy’n ddigon hyblyg i fodloni anghenion hysbys a disgwyliedig y digwyddiad, yn unol â system ddiogelwch LACES
- asesu’r adnoddau sydd ar gael, gan ddefnyddio asesiad realistig o’u haddasrwydd i’w defnyddio’n weithredol
- asesu’r adnoddau gweithredol sy’n ofynnol a gwneud addasiadau i’r cynlluniau tactegol i ffrwyno tân llystyfiant, ar sail eich asesiad cychwynnol o’r digwyddiad
- cadarnhau eich amcanion a dosbarthu eich adnoddau i fodloni anghenion â blaenoriaeth
- gwirio bod y bobl sy’n ffrwyno’r tân wedi’u hyfforddi’n ddigonol a bod ganddynt dystysgrif gyfredol, lle bo deddfwriaeth penodol i wlad yn gofyn am hynny
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch chi ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser wrth ffrwyno tanau llystyfiant, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
- gwirio bod y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n cael ei wisgo gan y bobl sy’n ffrwyno’r tân yn addas i’r dasg ac i’r diben
- o fewn lefel eich awdurdod a chan ddilyn unrhyw friff gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, neilltuo tasgau a chyfrifoldebau a’r llinell adrodd ar gyfer eich tîm
- gweithredu o fewn lefel gytunedig eich cyfrifoldeb a’ch awdurdod
- trefnu, cymhwyso a rhoi cyfarwyddiadau ar arferion gweithio diogel, gan gynnwys gweithredu system ddiogelwch LACES ac athrawiaeth JESIP
- cadarnhau dulliau cyfathrebu a chynnal cyfathrebu effeithiol gyda phobl eraill trwy gydol y broses ffrwyno tân llystyfiant
- cadarnhau bod offer a chyfarpar wedi’u paratoi’n gywir i gyflwr gweithio diogel, yn barod i’w defnyddio
- darparu cyfarwyddiadau i weithredwyr/aelodau tîm er mwyn iddynt reoli’r tân llystyfiant gan ddefnyddio’r offer, y cyfarpar a’r tactegau mwyaf perthnasol, gan ddiffinio tasgau fel y bo’n addas i sgiliau’r gweithredwyr, eu hoffer, eu cyfarpar a’u cerbydau
- monitro effeithiolrwydd a diogelwch y broses ffrwyno tân llystyfiant yn barhaus a briffio pennaeth y digwyddiad/gweithred a gweithredwyr/aelodau tîm, fel y bo gofyn
- cadarnhau bod eich penderfyniadau’n parhau i leihau risg a gwneud y mwyaf o gynnydd tuag at eich amcanion
- darparu mynediad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac asiantaethau eraill
- ailgyfeirio eich adnoddau i fodloni newidiadau ym mlaenoriaethau digwyddiadau
- ceisio gwybodaeth yn weithgar i ddiweddaru cynlluniau tactegol a symud camau gweithredu yn eu blaen i fodloni eich amcanion
- cadarnhau statws terfynol y digwyddiad a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu pellach gyda’r bobl berthnasol
- nodi unrhyw risgiau a pheryglon heb eu datrys a chymryd camau i leihau’r rhain, o fewn cyfyngiadau gweithredol
- dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd digwyddiad neu argyfwng
- adrodd ar effeithiolrwydd gweithrediadau ffrwyno’r tân llystyfiant a chyfrannu at adolygiad a gwerthusiad er mwyn dysgu gwersi at y dyfodol
- gwirio bod yr holl adnoddau ffrwyno tân yn cael eu hadfer yn ddiogel i’w lleoliad cywir a bod nodyn yn cael ei wneud o unrhyw namau neu ddiffygion er mwyn gweithredu yn eu cylch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- effaith bosibl tân gwyllt, a gweithgareddau ffrwyno tân, ar yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogaethau planhigion, anifeiliaid hela, bywyd gwyllt, cyfalaf naturiol yn ogystal ag eiddo a seilwaith
- sut i ddefnyddio technegau a systemau asesu risg tân i asesu peryglon a risgiau tanau llystyfiant, gan gynnwys risgiau i bobl, i eiddo, i’r amgylchedd ac i fywyd gwyllt
- sut i wneud a chymhwyso penderfyniadau ar sail yr asesiad risg
- diben, a sut i ddehongli, cynlluniau tanau llystyfiant, mapiau tân, symbolau, arferion gweithio sefydliadol a’r codau ymarfer perthnasol
- eich rôl eich hun wrth gynllunio a chyfrannu at gynlluniau ffrwyno tanau llystyfiant
- pwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES ac athrawiaeth JESIP
- pwysigrwydd cynllunio gweithredol a chynllunio adnoddau a’r adnoddau ffrwyno tân sydd ar gael yn eich sefydliad, cyfarpar arbenigol Gwasanaethau Tân ac Achub, a grwpiau tân lleol
- defnyddio rhestri gwirio, mapiau a diagramau fel offer rheoli pwysig
- sgiliau darllen mapiau, gan gynnwys mapiau’r Arolwg Ordnans
- sut i gyfrannu at y cynllunio tactegol, gan gynnwys ar gyfer y mathau canlynol o dân: tân grug neu lwyni, tân gwair, tân tocio a brigau tor, tân coedwig, tân mawn
- y gofynion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â ffrwyno tân llystyfiant, gan gynnwys y ddeddfwriaeth berthnasol, a sut i gymhwyso arferion sy’n gwneud y mwyaf o’ch iechyd, diogelwch a’ch lles eich hun ac iechyd, diogelwch a lles pobl eraill
- y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) gwrth-dân addas y mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud â ffrwyno tanau llystyfiant eu defnyddio a galluoedd a chyfyngiadau PPE
- yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir, a galluoedd a chyfyngiadau pob un ohonynt pan gânt eu defnyddio ar wahanol fathau o dân llystyfiant, a phwysigrwydd paratoi a chynnal a chadw
- pam mae’n bwysig bod y bobl sy’n ymwneud â ffrwyno’r tân llystyfiant yn cael hyfforddiant, a’u bod yn dal tystysgrifau cyfredol lle bo’r gofyn yn unol â deddfwriaeth penodol i wlad
- sut i neilltuo rolau, amcanion a chyfrifoldebau a phwysigrwydd dilyn cadwyn awdurdod, gan ddefnyddio systemau fel y System Awdurdod Digwyddiadau (ICS) a’r System Rheoli Digwyddiadau (IMS)
- sut i osod tasgau i staff er mwyn sicrhau eu bod yn deall yn glir y nod, yr amcan, y deilliannau, y lleoliad, y cyfarpar, yr adnoddau ac offer, yr asesiad risg a’r protocolau diogelwch sy’n ofynnol ar gyfer gweithrediadau effeithiol i ffrwyno tân llystyfiant
- pwysigrwydd cynnal cyfathrebu effeithiol gyda’r bobl sy’n ymwneud â’r gweithrediad a sut y gellir gwneud hyn
- y dulliau ar gyfer rhoi briffiau a derbyn gwybodaeth drosglwyddo
- rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub, swyddogaethau rheolwyr a’u rolau a’u cyfrifoldebau, gan gynnwys rheolwyr tir a grwpiau tân gwyllt, a sut i adnabod a chyfathrebu â phenaethiaid y digwyddiad
- y wybodaeth am eich tîm y mae ei hangen ar y Gwasanaeth Tân ac Achub neu ymatebwyr eraill
- yr offer, y cyfarpar a’r tactegau perthnasol a ddefnyddir yn ystod gwahanol gamau ffrwyno tân gwyllt
- pa un o’r ddwy brif strategaeth ffrwyno tân llystyfiant i’w dewis mewn sefyllfaoedd tân gwahanol: ymosod uniongyrchol ac anuniongyrchol
- rôl, diben a dewis pwyntiau angori, strimynnau atal tân, strimynnau atal tanwydd a llinellau rheoli
- diben a gwerth gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a’r strwythurau rheoli priodol yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau
- pwysigrwydd monitro diogelwch ac effeithiolrwydd y weithred ffrwyno tân llystyfiant a sut i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau
- sut gall y tywydd, cyflwr a threfn tanwydd, a thir, effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau llystyfiant a sut gall newidiadau yn y tywydd effeithio ar danau gwyllt
- sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr ac wynebwedd, sydd wedi’u cynnwys yn y System Rhagweld Tanau Gwyllt (WiPS), i ragweld newidiadau mewn ymddygiad tân, gan gynnwys dwysedd a chyfeiriad
- rôl peiriannau trwm ac awyrennau wrth ffrwyno tanau llystyfiant
- gyda phwy y dylid cydweithio i gadarnhau statws terfynol y digwyddiad a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu pellach
- y camau gofynnol i’w cymryd os bydd digwyddiad neu argyfwng a pha wybodaeth ddylai gael ei chofnodi
- pwysigrwydd monitro a chynnal adnoddau ffrwyno tân sy’n briodol i’r risg
- pwysigrwydd adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd ffrwyno’r tân llystyfiant, a chofnodi’r gwersi a ddysgwyd
Cwmpas/ystod
Asesu’r peryglon tân a’r risgiau tân posibl o ran:
• tanwyddau
• llethrau/topograffi
• ffynonellau cynnau posibl
• hanes tanau
• ffynonellau dŵr
• strimynnau atal tân presennol a phosibl
• asedau y mae angen eu gwarchod
• pwyntiau angori
Cyfrannu at sefydlu cynlluniau wrth gefn i ddelio â:
• newidiadau yn y tywydd/ymddygiad tân
• torri’r llinell reoli
• damweiniau
• problemau â chyfarpar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pwynt Angori: Lleoliad manteisiol, sy’n rhwystr fel arfer rhag i’r tân ledaenu, y gellir dechrau adeiladu llinell reoli ohono.
Cyfyngu – Pan fydd llinell reoli wedi’i sefydlu o gwmpas perimedr y tân ac wedi atal twf pellach.
Llinell reoli – Term cynhwysol ar gyfer pob ffin naturiol neu ffin a adeiladwyd ac ymylon tân wedi’u trin a ddefnyddir i reoli tân.
Mesur rheoli – Camau lliniaru y gellir eu cymryd i leihau potensial amlygiad i berygl a nodwyd.
Rheoli – Gwella a sicrhau llinellau rheoli i’r graddau fel nad oes cyfle rhagweladwy y bydd y tân yn dianc.
Ymosodiad uniongyrchol – Tacteg ymosodol i ffrwyno tân sy’n cynnwys gwneud ymosodiad wrth y tân neu gerllaw.
Ymddygiad tân – Adwaith tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffi. Mae gwahanol fathau o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripiol, rhedegog, ffaglu, sbotio a choroni.
Strimyn atal tân – Bylchau mewn llystyfiant, a all fod yn nodweddion naturiol neu rai wedi’u gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd wedi’u pori’n sylweddol neu lwybrau a reidiau lle mae’r gwair wedi’i dorri.
Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol amgylchedd y tân, sy’n pennu pa mor hawdd y mae i gynnau, cyflymder lledaenu, pa mor anodd ydyw i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi ar ffurf mynegai.
System raddio perygl tân (Mynegai) – Dangosydd meintiol o berygl tân, wedi’i fynegi naill ai mewn modd cymharol neu fel mesur absoliwt. Mae mynegeion perygl tân yn cael eu defnyddio’n aml i lywio gweithgareddau rheoli tân.
Perygl tân – Unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr a all achosi tân gwyllt neu a all ddarparu cyflenwad parod o danwydd i waethygu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, bob un ohonynt yn peri bygythiad i fywyd, eiddo neu i’r amgylchedd.
Dwysedd tân – Y gyfradd y mae tân yn rhyddhau egni ar ffurf gwres arni mewn lleoliad penodol ac ar amser penodol, wedi’i mynegi ar ffurf cilowatiau y metr (kW/m) neu kilojoules y metr yr eiliad (kJ/m/s).
Risg tân – Y tebygolrwydd y bydd tân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol ar amser penodol. Mae risg tân gwyllt yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg tân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl.
Difrifoldeb tân – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sy’n cael ei gynhyrchu gan dân/llosgfa a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.
Math o dân – Mae tri chynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu’r math o dân:
- Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft, tanau awyrol, coron, isdyfiant, arwyneb a daear.
- Dosbarthu rhan o dân yn ôl ei safle ar hyn perimedr y tân. Er enghraifft, tanau brig, cynffon ac ystlys.
- Dosbarthu tân neu ran o dân yn ôl y nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripiol, gwrthwyro, rhedegog, ffaglu, sbotio, coroni, chwyrlïad tân, tân wedi’i yrru gan ddarfudiad ac ati
Tywydd tân – Amodau tywydd a all ddylanwadu ar gynnau, ymddygiad a ffrwyno tân.
Dwysedd ffos atal tân – Y gyfradd rhyddhau egni fesul hyd uned ffrynt y tân, a ddisgrifir mewn kW/m.
Tân ystlys – Tân sy’n lledaenu neu y disgwylir iddo ledaenu’n gyfochrog (ar ongl sgwâr, yn fras) i gyfeiriad y gwynt ar y pryd neu i lethr.
Ymosodiad ochrol – Dull o ffrwyno tân sy’n cynnwys ymosod ar dân gwyllt ar hyd yr ystlys neu’r ddwy ystlys ar yr un pryd neu yn olynol.
Ystlysau – Y rhannau o berimedr tân sy’n gyfochrog yn fras â phrif gyfeiriad y lledaeniad.
Tanwydd – Unrhyw ddeunydd a all gynorthwyo â hylosgi mewn amgylchedd tân gwyllt. Caiff tanwydd ei fesur mewn tunelli metrig fesul hectar fel arfer.
Toriad tanwydd – Bylchau mewn llystyfiant lle y mae sbwriel a deunyddiau organig wedi’u tynnu oddi yno i ddatgelu pridd mwynol. Gall y rhain gynnwys afonydd, ffyrdd neu linellau rheoli sydd wedi’u creu ag offer â llaw neu beiriannau.
Perygl tanwydd – Cymhlyg tanwydd wedi’i ddiffinio gan fath, trefniant, swm, cyflwr a lleoliad sy’n peri bygythiad cynnau a gwrthsefyll ei reoli.
Tanwyddau – Dosbarthiad tanwyddau yn ôl eu huchder o gymharu ag arwyneb y tir. Mae pum haen tanwydd yn gyffredinol: • Tanwyddau awyrol • Tanwyddau dyrchafedig • Tanwyddau ger yr arwyneb • Tanwyddau arwyneb • Tanwyddau daear
Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.
Brig – Cyfran o berimedr tân sy’n lledaenu gyflymaf, fel arfer i gyfeiriad y gwynt neu i fyny llethr.
Sawdl neu gynffon – Y rhan o dân gwyllt/tân fforest bellaf i’r cefn, nad yw’n alinio â’r gwynt a’r llethr fel arfer ac, o ganlyniad, bydd fel arfer yn dangos llai o weithgarwch tân na’r tân wrth y brig gan fod llai o gefnogaeth ganddo gan wynt neu lethr fel arfer.
Ymosodiad anuniongyrchol – Unrhyw ddulliau ffrwyno sy’n cael eu rhoi ar waith y tu hwnt i ymyl y tân.
JESIP – Rhaglen Rhyngweithredu ar y Cyd y Gwasanaethau Brys
Knockdown – Y gwaith ffrwyno cychwynnol sy’n anelu at leihau dwysedd tân ac arafu neu atal tân rhag lledaenu. Mae’n awgrymu bod perygl rhagweladwy’r tân gwyllt wedi’i ostwng yn sylweddol.
LACES – Protocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith pan fydd tanau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn acronym ar gyfer: L = Lookouts, A = Awareness (neu Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area
Y dirwedd – Golwg ffisegol y tir gan gynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant brodorol a’r effaith ddynol a achoswyd gan amrywiadau yn y defnydd ar y tir.
Tebygolrwydd – Asesiad o’r tebygolrwydd y bydd perygl a nodwyd yn arwain at golled (fe’i mynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).
Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses o drosglwyddo gwres o un corff neu wrthrych i un arall. Mewn tanau gwyllt a thanau coedwig, caiff ynni gwres ei drosglwyddo o danwyddau sy’n llosgi i danwyddau sydd ddim yn llosgi trwy: Darfudiad, Pelydriad a Dargludiad.
Clirio a phatrolio – Gweithgarwch sy’n dechrau ar ôl rheoli’r tân ac mae’n cynnwys diffodd yr ardal sy’n llosgi hyd nes na fydd ailgynnau’n bosibl. Bydd patrolio perimedr y tân yn helpu i sicrhau na fydd y tân yn dianc y tu allan i’r llinellau rheoli. Gellir dweud bod tân “allan” ar ôl cwblhau’r cam hwn.
Arsylwr – Unigolyn mewn tŵr/pwynt arsylwi neu sy’n patrolio ardal ddynodedig sy’n cael y dasg o ddarganfod a rhoi gwybod am danau gwyllt.
Ymosodiad pinsio – Y dacteg o ymosod ar dân gwyllt trwy weithio ar hyd yr ystlysau naill ai ar yr un pryd neu yn olynol o bwynt angori a cheisio cysylltu’r ddwy linell wrth y brig.
Risg – Y tebygolrwydd y bydd niwed o berygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad.
Asesiad risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth ynghylch lefelau risg derbyniol a lefelau risg gwirioneddol i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Mae’r broses yn cynnwys adnabod risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Graddfa risg – Canlyniad lluosi tebygolrwydd yn ôl y difrifoldeb i gyrraedd gwerth ar gyfer risg. Caiff hyn ei fynegi wedyn naill ai ar ffurf gwerth rhifol neu, yn syml, isel, canolig neu uchel.
Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodwyd (a fynegir fel arfer ar ffurf rhif 1 i 5, isel i uchel).
Topograffi – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb y tir.
Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb reolaeth sy’n gofyn am benderfyniad neu weithredu o ran ffrwyno. Dosberthir tanau gwyllt yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau ffrwyno.
Cynllun rheoli tanau gwyllt – Cynllun penodol i safle a ddatblygwyd i fynd i’r afael â risg tân gwyllt ac amlinellu mesurau a fydd yn lleihau neu’n lliniaru risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol, bydd hwn yn cael ei gynhyrchu yn dilyn asesiad risg tanau gwyllt.
Parthau rheoli tanau gwyllt – Nod parthau rheoli tanau gwyllt yw amddiffyn iechyd a diogelwch ac asedau a seilwaith pwysig. Gallant ddarparu fframwaith defnyddiol i helpu rheolwyr i adnabod a blaenoriaethu mesurau atal tanau gwyllt ar draws safle, ar sail lefel y risg tanau gwyllt. Mae parthau rheoli tanau gwyllt yn cynnwys rhannu mesurau atal tân gwyllt yn barthau gofodol ar sail cymesuredd. Parth A yw’r Parth Asedau, lle y mae’n rhaid amddiffyn seilwaith rhag tân, Parth B yw’r parth byffro, lle y mae mwy o reolaeth ar danwydd i amddiffyn Parthu A a D. Mae Parth C yn ardal risg isel o danau gwyllt lle y gellir cyflawni gweithgareddau rheoli tir arferol. Mae Parth D yn barth gwahardd tân, lle na ddylid caniatáu gweithrediadau fel llosgi penodedig neu danau ffrwyno.
System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS) – System gydnabyddedig ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae wedi’i seilio ar ystyried gwynt, llethr ac wynebwedd ar y cyd â thanwydd.
Atal tanau gwyllt – Term cyfunol ar gyfer pob gweithgaredd rhagweithiol sy’n cael eu rhoi ar waith gyda’r nod o leihau pa mor aml mae tanau gwyllt yn digwydd, eu difrifoldeb a’u lledaeniad.
Mesurau atal tanau gwyllt – Gweithgareddau wedi’u hanelu at leihau pa mor aml mae tanau’n digwydd, gan gynnwys addysg gyhoeddus, gorfodi’r gyfraith, cysylltiad personol, a lleihau peryglon tanwydd (rheoli tanwyddau).
Cynllun atal tanau gwyllt – Cynllun neu raglen o weithgareddau sydd wedi’i llunio er mwyn atal tanau gwyllt.
Cynllun ymateb i danau gwyllt – Cynllun penodol i ardal a ddatblygwyd er mwyn amlinellu’r ymateb sy’n ofynnol i dân gwyllt. Dylai cynlluniau ymateb i danau gwyllt gynnwys gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i Wasanaethau Tân ac Achub, fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.
Asesiad risg tân gwyllt – Offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg tân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesiad o’r tebygolrwydd y bydd digwyddiad ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.