Goruchwylio ac arwain gweithrediadau gostegu tân llystyfiant
URN: LANCS94
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio ac arwain gweithrediadau gostegu tân llystyfiant, lle mae canllawiau llywodraeth sy’n benodol i wlad yn caniatáu hyn. Mae hyn wedi ei anelu at y rheiny sy’n gweithio ym maes coedwigaeth, ffermio, helfilod a bywyd gwyllt neu gadwraeth amgylcheddol.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• cyfrannu at ddatblygu cynlluniau a mapiau gostegu tân
• cyfrannu at ddiffinio a threfnu’r gofynion ymarferol sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau gostegu tân llystyfiant yn ddiogel
• cyfrannu at ddiffinio datblygiad gosod tasgau gostegu tân
• goruchwylio ac arwain unigolion a thimau i gynorthwyo gweithrediadau gostegu tân
• cymryd y camau angenrheidiol mewn digwyddiad neu argyfwng
• gwerthuso effeithiolrwydd gweithrediadau gostegu tân.
Wrth ostegu tân llystyfiant, dylech fod wedi eich hyfforddi, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth sy’n benodol i wlad.
Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r gweithgaredd’n digwydd.
Pan fydd yn bresennol, y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer eich ardal chi sy’n rheoli ac yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr holl weithgareddau gostegu tân ar lawr y tân. Mae’n rhaid i chi ddilyn eu cyfarwyddiadau a gweithdrefnau gwaith diogel eich sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu peryglon tanau llystyfiant a risgiau tân er mwyn llywio gwaith cynllunio rheoli tân
- casglu a chadarnhau gwybodaeth yn ymwneud â’r risgiau hysbys ac a rag-welir i bobl, eiddo, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- cyfrannu at gynlluniau tactegol gostegu tân llystyfiant, o fewn strwythur gorchymyn/rheoli digwyddiad, gan ystyried cyfnodau gwahanol o ostegu tân gwyllt
- cysylltu a chyfathrebu gyda’r bobl berthnasol i gadarnhau’r cynlluniau goste-gu tân llystyfiant arfaethedig
- trefnu’r gofynion gweithredol ac adnoddau i gynorthwyo’r gwaith o weithredu’r cynlluniau gostegu tân llystyfiant
- cyfrannu at baratoi mapiau a rhestrau gwirio o’r adnoddau gostegu tân sydd ar gael
- cyfrannu at sefydlu a rheoli cynlluniau wrth gefn ar gyfer gostegu tân
- datblygu eich amcanion trwy asesu risg, yn cynnwys y defnydd o’r wybodaeth sydd ar gael am berygl tân
- cyfrannu, goruchwylio ac arwain datblygiad cynlluniau tactegol sydd yn rhoi hyblygrwydd digonol i fodloni anghenion hysbys ac a ragwelir y digwyddiad yn unol â system ddiogelwch LACES
- asesu’r adnoddau sydd ar gael, gan ddefnyddio asesiad realistig o’u had-dasrwydd ar gyfer defnydd gweithredol
- asesu’r adnoddau gweithredol sydd eu hangen a gwneud addasiadau i gynl-luniau tactegol gostegu tân llystyfiant, yn seiliedig ar eich asesiad cychwynnol o’r digwyddiad
- cadarnhau eich amcanion a defnyddio eich adnoddau i fodloni anghenion blaenoriaeth
- sicrhau bod y rheiny sydd yn gostegu’r tân wedi cael hyfforddiant digonol a’u bod yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo’n angenrheidiol gan ddedd-fwriaeth sy’n benodol i wlad
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch chi a phobl eraill bob amser wrth ostegu tân llystyfiant, yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r codau ymarfer perthnasol
- sicrhau bod y dillad a’r PPE sydd yn cael eu gwisgo gan y rheiny sy’n goste-gu’r tân yn addas ar gyfer y dasg ac yn addas at y diben
- o fewn lefel eich awdurdod a chan ddilyn unrhyw gyfarwyddyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, dyrannu tasgau a chyfrifoldebau a’r llinell adrodd ar gyfer eich tîm
- gweithredu o fewn lefel eich cyfrifoldeb ac awdurdod y cytunwyd arno
- trefnu, cymhwyso a rhoi cyfarwyddiadau ar arferion gwaith diogel yn cynnwys gweithredu system ddiogelwch LACES a dysgeidiaeth JESIP
- cadarnhau dulliau cyfathrebu a chyfathrebu’n effeithiol gydag eraill trwy gydol y gweithrediad gostegu tân llystyfiant
- cadarnhau bod offer a chyfarpar wedi eu paratoi’n iawn yn unol ag amodau gwaith diogel, yn barod i’w defnyddio
- rhoi cyfarwyddiadau i weithredwyr/aelodau o’r tîm i reoli’r tân llystyfiant gan ddefnyddio’r offer, y cyfarpar a’r tactegau mwyaf perthnasol, gan ddiffinio tasgau i gyd-fynd â sgiliau’r gweithredwyr, eu hoffer, eu cyfarpar a’u cerbydau
- monitro effeithiolrwydd a diogelwch y gweithrediad gostegu tân llystyfiant yn barhaus a rhoi cyfarwyddyd arweinydd y digwyddi-ad/gweithrediadau a’r gweithredwyr/aelodau o’r tîm fel y bo angen
- cadarnhau bod eich penderfyniadau’n parhau i leihau risg a chynyddu cynnydd tuag at eich amcanion
- rhoi mynediad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac asiantaethau eraill
- aildrefnu eich adnoddau i fodloni blaenoriaethau newidiol digwyddiadau
- ceisio gwybodaeth i ddiweddaru cynlluniau tactegol a datblygu cynnydd i fod-loni eich amcanion
- cadarnhau statws terfynol y digwyddiad a chytuno ar unrhyw weithredu pel-lach gyda’r bobl berthnasol
- nodi unrhyw risgiau a pheryglon sydd heb eu datrys a gweithredu i leihau’r rhain, o fewn cyfyngiadau gweithredol
- dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd digwyddiad neu argyfwng
- adrodd ar effeithiolrwydd y gweithrediadau gostegu tân llystyfiant a chyfrannu at adolygiad a gwerthusiad er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol
- sicrhau bod yr holl adnoddau gostegu tân wedi eu dychwelyd yn ddiogel i’w lleoliad cywir a bod unrhyw namau neu ddiffygion wedi eu nodi er mwyn gweithredu arnynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- effaith bosilb tân gwyllt, a gweithgareddau gostegu tân, ar yr amgylchedd naturiol yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogaethau planhigion, helfilod, bywyd gwyllt, cyfalaf naturiol, yn ogystal ag eiddo a seilwaith
- sut i ddefnyddio technegau a systemau asesu risg o dân i asesu peryglon a risgiau tanau llystyfiant yn cynnwys risg i bobl, eiddo, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- sut i wneud a chymhwyso penderfyniadau yn seiliedig ar asesu risg
- diben, a sut i ddehongli cynlluniau tân llystyfiant, mapiau tân, symbolau, arferion gwaith sefydliad a’r codau ymarfer perthnasol
- eich rôl eich hun yn cynllunio a chyfrannu at gynlluniau gostegu tân llystyfiant
- pwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES a dysgeidiaeth JESIP
- pwysigrwydd cynllunio gweithredol ac adnoddau a’r adnoddau gostegu tân sydd ar gael yn eich sefydliad, cyfarpar arbenigol Gwasanaethau Tân ac Achub (FRS), a grwpiau tân lleol
- y defnydd o restrau gwirio, mapiau a diagramau fel offer rheoli pwysig
- sgiliau darllen map yn cynnwys mapiau Arolwg Ordnans
- sut i gyfrannu at y cynllunio tactegol yn cynnwys ar gyfer y mathau canlynol o dân: tân grug neu lwyni, tân glaswellt, tân brigau, tân coedwig, tân mawn
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gostegu tân llystyfiant, yn cynnwys y ddeddfwriaeth berthnasol, a sut i gymhwyso arferion sydd yn gwella eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles chi a phobl eraill
- y dillad gwrthsefyll tân addas a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y mae angen i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gostegu tân llystyfiant eu defnyddio a galluoedd a chyfyngiadau PPE
- yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir, galluoedd a chyfyngiadau pob un pan gânt eu defnyddio ar fathau gwahanol o danau llystyfiant, a phwysigrwydd paratoi a chynnal a chadw
- pam y mae’n bwysig bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â gostegu’r tân llystyfiant yn cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol pan fo hynny’n angenrheidiol yn ôl deddfwriaeth sy’n benodol i wlad
- sut i ddyrannu rolau, amcanion a chyfrifoldebau a phwysigrwydd dilyn cadwyn gyfarwyddiadau, gan ddefnyddio systemau fel y System Gorchmynion Digwyddiadau (ICS) a’r System Rheoli Digwyddiadau (IMS)
- sut i roi tasgau i staff er mwyn sicrhau eu bod yn deall nod, amcan, canlyniadau, lleoliad, cyfarpar, adnoddau ac offer, protocolau asesu risg a diogelwch sydd yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediadau gostegu tân llystyfiant yn effeithiol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithrediad a sut gellir gwneud hyn
- y dulliau ar gyfer rhoi cyfarwyddyd a derbyn gwybodaeth sydd yn cael ei throsglwyddo
- rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub, swyddogaethau rheoli a’u rolau a’u cyfrifoldebau yn cynnwys rheolwyr tir a grwpiau tanau gwyllt a sut i adnabod a chyfathrebu gyda rheolwr y digwyddiad
- y wybodaeth am eich tîm sydd ei hangen gan y Gwasanaeth Tân ac Achub neu ymatebwyr eraill
- yr offer, y cyfarpar a’r tactegau perthnasol i gael eu defnyddio yn ystod cyfnodau gwahanol o ostegu tân gwyllt
- pa un o’r ddwy brif strategaeth gostegu tân llystyfiant i’w dewis mewn sefyllfaoedd tân gwahanol: ymosodiad uniongyrchol ac anuniongyrchol
- rôl, diben a dewis pwyntiau angori, rhwystrau tân, bylchau tanwydd a llinellau rheoli
- diben a gwerth gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a strwythurau rheoli priodol yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau
- pwysigrwydd monitro diogelwch ac effeithiolrwydd gweithrediad gostegu tân llystyfiant yn barhaus a sut i ddatrys problemau, gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer cynlluniau wrth gefn
- y ffordd y gall y tywydd, cyflwr tanwydd a threfniant a thir effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau llystyfiant a’r ffordd y gall newid yn y tywydd effeithio ar danau gwyllt
- sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr a wynebwedd, sydd wedi eu cynnwys yn y System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS), i ragfynegi newidiadau mewn ymddygiad tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
- rôl peiriannau trwm ac awyrennau yn gostegu tanau llystyfiant
- â phwy i gysylltu i gadarnhau statws terfynol y digwyddiad a chytuno ar unrhyw weithredu pellach
- y camau angenrheidiol i’w cymryd os bydd digwyddiad neu argyfwng a pha wybodaeth ddylid ei chofnodi
- pwysigrwydd monitro a chynnal adnoddau gostegu tân sy’n berthnasol i’r risg
- pwysigrwydd adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd gostegu tân llystyfiant a chofnodi’r gwersi a ddysgwyd
Cwmpas/ystod
Asesu’r peryglon tân a’r risgiau tân posibl o ran:
• tanwydd
• llethrau/topograffeg
• ffynonellau cynnau posibl
• hanes tanau
• ffynonellau dŵr
• rhwystrau tân presennol a phosibl
• asedau y mae angen eu diogelu
• pwyntiau angori
Cyfrannu at sefydlu cyclonical wrth gefn i ymdrin â hyn:
• newidiadau yn y tywydd/ymddygiad tân
• mynd y tu hwnt i’r llinell reoli
• damweiniau
• problemau gyda chyfarpar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pwynt Angori: Lleoliad o fantais, rhwystr fel arfer rhag lledaeniad y tân, ar gyfer dechrau adeiladu llinell reoli.
Ataliaeth – Gellir cael ataliaeth pan fydd llinell reoli wedi cael ei sefydlu o amgylch llinell derfyn y tân ac wedi atal twf pellach.
Llinell reoli – Term cynhwysol ar gyfer yr holl rwystrau sydd wedi eu hadeiladu neu naturiol ac ymylon y tân sydd wedi eu trin a ddefnyddir i reoli tân.
Rheoli – Mae rheoli tân yn golygu bod y llinellau rheoli wedi cael eu gwella a’u diogelu i’r graddau nad oes unrhyw siawns y gellir ei ragweld o’r tân yn dianc
Mesur rheoli – Camau lleddfu y gellir eu cymryd i leihau cyswllt posibl â pher-ygl sydd wedi ei nodi
Ymosodiad uniongyrchol – Tacteg gostegu tân ymosodol sydd yn cynnwys ymosodiad ar neu gerllaw ymyl y tân.
Ymddygiad tân – Ymateb tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffeg. Mae mathau gwahanol o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripio, rhedeg, ffaglu, brychu a choroni.
Rhwystr tân – Mesur i atal lledaeniad tân.
Bwlch tanwydd – Bwlch yn argaeledd tanwydd (deunydd llosgadwy) i gynnal y tân sy’n gweithredu fel rhwystr i arafu neu atal cynnydd y tân.
Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol yr amgylchedd tân sydd yn pennu rhwyddineb cynnau, graddfa’r lledaeniad, anhawster i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi fel mynegai.
System graddio perygl tân (Mynegai) – Dangosydd meintiol o’r perygl o dân, a fynegir naill ai mewn ystyr perthynol neu fel mesur absoliwt. Defnyddir mynegeion perygl tân yn aml i arwain gweithgareddau rheoli tân.
Perygl tân – unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr sydd yn gallu achosi tân gwyllt neu sydd yn gallu darparu cyflenwad tanwydd parod i helaethu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, sydd i gyd yn cyflwyno bygythiad i fywyd, eiddo neu’r amgylchedd.
Dwysedd tân – Y gyfradd y mae’r tân yn rhyddhau ynni ar ffurf gwres mewn lleoliad arbennig neu amser penodol, a fynegir mewn cilowatau y fetr (kW/m) neu cilojoule y fetr fesul eiliad (kJ/m/s).
Risg o dân – Tebygolrwydd o dân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol neu amser penodol. Caiff y risg o dân gwyllt ei gyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg o dân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl.
Difrifoldeb Tân/Llosgi – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sydd yn cael ei gynhyrchu gan dân/llosgi a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.
Math o dân – Ceir tri math o gynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu math o dân: 1. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft tanau awyr, coron, isdyfiant, arwyneb a thanau daear. 2. Dosbarthiad o adran o dân yn unol â’i safle ar hyd terfyn allanol y tân. Er enghraifft, tanau pen, cynffon ac ystlys. 3. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â’r nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripio, cefnu, rhedeg, ffaglu, brychu, coroni, troelliad tân, tân wedi ei yrru gan ddarfudiad ac ati
Tywydd tân – Tywydd sydd yn dylanwadu ar gynnau tân, ei ymddygiad a’i ostegu.
Dwysedd llinell tân – Graddfa’r ynni sydd yn cael ei ryddhau fesul hyd uned blaen y tân, a ddisgrifir mewn kW/m
Ochrau – Y rhannau o derfyn allanol tân sydd yn gyfochrog yn fras â phrif gyfeiriad y lledaeniad.
Tân ochr – Tân sydd yn lledaenu neu y rhagfynegir y bydd yn lledaenu i’r ochr (ar ongl sgwâr yn fras) i gyfeiriad cyffredin y gwynt neu lethr.
Ymosodiad ochrol – Dull o ostegu tân sydd yn cynnwys ymosod ar dân gwyllt ar hyd ochr neu’r ddwy ochr ar yr un pryd neu un ar ôl y llall.
Tanwydd – Unrhyw ddeunydd sydd yn gallu cefnogi ymlosgi mewn amgylchedd tân gwyllt. Caiff tanwydd fel arfer ei fesur mewn tunelli fesul hectar.
Tanwyddau – Dosbarthiad tanwydd yn ôl eu taldra o’u cymharu ag arwyneb y ddaear. Ceir pum haen gyffredinol o danwydd: • Tanwydd awyr • Tanwydd uchel • Tanwydd gerllaw arwyneb • Tanwydd arwyneb • Tanwydd daear
Perygl tanwydd – cymhlethfa danwydd wedi ei diffinio yn ôl math, trefniant, cyfaint, cyflwr a lleoliad sy’n cyflwyno bygythiad o gynnau a gwrthsafiad i reolaeth
Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.
Pen – Y rhan o derfyn allanol tân sy’n lledaenu gyflymaf, fel arfer yng nghysgod y gwynt neu i fyny llethr.
Sawdl neu gynffon – Y rhan mwyaf i’r cefn o dân gwyllt/tân coedwig, nid yw fel arfer yn cyd-fynd â’r gwynt a llethr, ac o ganlyniad bydd fel arfer yn dangos llai o weithgaredd tân na phen y tân am ei fod fel arfer â llai o gymorth gan wynt neu lethr.
Ymosodiad anuniongyrchol – Unrhyw ddulliau gostegu a weithredir i ffwrdd o ymyl y tân.
JESIP – Rhaglen Rhyngweithredu Rhwng y Gwasanaethau Brys
Bwrw i lawr – Bwrw i lawr yw’r gwaith gostegu cychwynnol gyda’r nod o leihau dwysedd y tân neu arafu lledaeniad y tân. Mae’n awgrymu bod perygl rhagweladwy’r tân wedi cael ei leihau’n sylweddol.
LACES – Mae LACES yn brotocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith mewn digwyddiadau o danau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn fyrfodd ar gyfer: L = Lookouts, A = Awareness (or Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area
Tirwedd – Ymddangosiad ffisegol o’r tir yn cynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant cynhenid a’r effaith ddynol a achosir gan amrywiadau yn y defnydd o dir.
Tebygolrwydd – Asesiad o debygolrwydd perygl a nodir sydd yn arwain at golled (a fynegir fel arfer fel rhif o 1 i 5, isel i uchel).
Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses lle mae gwres yn gadael un corff neu wrthrych i un arall. Gyda thanau gwyllt a thanau coedwig, mae ynni gwres yn trosglwyddo o danwydd sydd wedi llosgi i rai sydd heb losgi trwy: Ddarfudiad, Pelydriad a Dargludiad
Mopio a Chylchrodio – Mae Mopio a Chylchrodio yn dechrau ar ôl i’r tân gael ei reoli ac mae’n cynnwys diffodd yr ardal sydd yn llosgi nes nad oes unrhyw bosiblirwydd iddo ailgynnau. Bydd cylchrodio terfyn allanol y tân yn helpu i sicrhau na fydd y tân yn dianc y tu allan i’r llinellau rheoli. Gellir dweud bod tân “allan” ar ôl cwblhau’r cyfnod hwn
Arsyllwr – Unigolyn sydd yn meddiannu tŵr/pwynt neu’n cylchrodio ardal ddynodedig gyda’r dasg o ganfod ac adrodd am danau gwyllt.
Ymosodiad gwasgu – Y dacteg o ymosod ar dân gwyllt trwy weithio ar hyd yr ochrau naill ai ar yr un pryd neu un ar ôl y llall o bwynt angori ac ymdrechu i gysylltu’r ddwy linell wrth y pen.
Risg – Y tebygolrwydd y bydd y niwed oherwydd y perygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad i hynny.
Asesu risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth yn ymwneud â lefelau derbyniol o risg a lefelau gwirioneddol y risg a gyflwynir i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Y broses sydd yn gysylltiedig â nodi risg, asesu tebygolrwydd o ddigwyddiad yn digwydd ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Graddfa risg – Canlyniad lluosi’r tebygolrwydd gyda’r difrifoldeb i gyrraedd gwerth am risg. Mynegir hyn wedyn naill ai fel gwerth rhifol neu yn syml yn isel, canolig neu’n uchel.
Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodir (a fynegir fel arfer fel rhif 1 i 5, isel i uchel).
Topograffeg – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb tir.
Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb ei reoli sydd yn gofyn am benderfyniad neu weithredu yn ymwneud â gostegu. Mae tanau gwyllt yn cael eu dosbarthu yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau gostegu.
Cynllun rheoli tân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i safle wedi ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r risg o dân gwyllt ac yn nodi mesurau fydd yn lleihau neu’n lleddfu’r risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol mae hyn yn cael ei greu yn dilyn asesiad risg tân gwyllt.
Parthau rheoli tanau gwyllt – Nod y parthau rheoli tanau gwyllt yw diogelu iechyd a diogelwch ac asedau pwysig a seilwaith. Gallant ddarparu fframwaith defnyddiol i helpu rheolwyr i nodi a blaenoriaethu mesurau atal tanau gwyllt ar draws safle, yn seiliedig ar lefel y risg o dân gwyllt. Creu parth gofodol o fesurau atal tanau gwyllt yn seiliedig ar gymesuredd. Parth A yw’r Parth Asedau lle mae’n rhaid diogelu seilwaith rhag tân, Parth B yw’r parth clustogi, lle ceir mwy o reoli tanwydd i ddiogelu Parth A a D. Mae Parth C yn ardal lle mae risg tân gwyllt yn isel lle gellir cynnal gweithgareddau rheoli tir arferol. Mae Parth D yn barth lle mae tân wedi ei wahardd, lle na ddylid caniatáu gweithrediadau fel llosgi wedi ei ragnodi neu danau gostegu.
System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS) – System a gydnabyddir ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae’n seiliedig ar yr ystyriaeth o wynt, llethr a wynebwedd wedi ei gyfuno â thanwydd.
Atal tân gwyllt – Term ar y cyd am weithgareddau rhagweithiol a weithredir gyda’r nod o leihau digwyddiadau, difrifoldeb a lledaeniad tanau gwyllt.
Mesurau atal tanau gwyllt – Gweithgareddau wedi eu cyfeirio i leihau mynychder tanau, yn cynnwys addysgu’r cyhoedd, gorfodi’r gyfraith, cyswllt personol, a lleihau peryglon tanwydd (rheoli tanwydd).
Cynllun atal tanau gwyllt – Cynllun neu raglen o weithgareddau sydd wedi ei ffurfio i atal digwyddiadau tanau gwyllt.
Cynllun ymateb i dân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i ardal i nodi’r ymateb sydd yn angenrheidiol i ddigwyddiad o dân gwyllt. Dylai WRP gynnwys gwybodaeth fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.
Asesu risg o dân gwyllt – Mae Asesu Risg o Dân Gwyllt yn offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg o dân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesu’r tebygolrwydd o ddigwyddiad ac asesu difrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS94
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Coedwigaeth
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
tân; coedwig; rhostir; coetir; coed; llystyfiant; grug; rhos; llosgi; tân gwyllt; ymladd tân