Cynorthwyo i ostegu tân llystyfiant
URN: LANCS93
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i ostegu tân llystyfiant, lle mae canllawiau penodol llywodraeth yn caniatáu hyn. Mae wedi ei anelu at y rheiny sy’n gweithio ym maes coedwigaeth, ffermio, rheoli helfilod a bywyd gwyllt neu gadwraeth amgylcheddol.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• defnyddio offer gostegu tân yn y ffordd angenrheidiol i ostegu tân llystyfiant
• dilyn cyfarwyddiadau a gweithdrefnau tân sefydliadol
• gweithredu’n ddiogel ar dir y tân a chefnogi pobl eraill
• cymryd y camau angenrheidiol os bydd digwyddiad neu argyfwng
Wrth ostegu tân llystyfiant dylech fod wedi eich hyfforddi, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth sy’n benodol i wlad.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r gweithgaredd yn digwydd.
Pan yn bresennol, mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer eich ardal yn rheoli ac yn gyfrifol yn gyfreithiol am bob gweithgaredd gostegu tân ar dir y tân. Mae’n rhaid i chi ddilyn eu cyfarwyddiadau a gweithdrefnau diogel eich sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill bob amser wrth gynorthwyo i ostegu tân llystyfiant, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn rhoi’r lefel ofynnol o ddiogelwch ar gyfer y dasg
- cadarnhau eich rôl benodedig, eich amcanion a lefel eich cyfrifoldeb a’r per-son y dylech adrodd iddynt
- nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n debygol o gael eu canfod ar dir y tân
- paratoi’r offer a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gostegu tân llystyfiant fel eu bod mewn cyflwr gweithredol da, yn barod i’w defnyddio
- asesu sefyllfa’r tân wrth gyrraedd tir y tân, a chyfathrebu’r wybodaeth all-weddol am y tân i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS), os ydynt yn bresen-nol, ac wrth bobl berthnasol eraill
- dilyn cyfarwyddiadau i reoli’r tân llystyfiant gan ddefnyddio’r offer, y cy-farpar a’r tactegau angenrheidiol yn ystod cyfnodau gwahanol o ostegu tân gwyllt
- defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn effeithiol i ostegu tân llystyfiant
- nodi a defnyddio pwynt angori diogel i ddechrau gweithgareddau gostegu tân
- asesu, adrodd a chymryd y camau perthnasol yn barhaus i leihau risg i chi eich hun ac eraill
- monitro ac adrodd ar unrhyw amrywiad yn y tywydd cyffredin neu ymddygiad y tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
- darparu mynediad i’r Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS) ac asiantaethau eraill
- cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill trwy gydol y gweithgareddau gostegu tân llystyfiant
- dilyn systemau gwaith diogel, LACES a’r gadwyn cyfarwyddiadau bob amser
- rhoi gwybodaeth am effeithiolrwydd y weithred o ostegu tân llystyfiant
- dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd digwyddiad neu argyfwng
- dychwelyd a diogelu adnoddau gostegu tân i’w lleoliad cywir ac adrodd ar unrhyw namau neu ddiffygion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gostegu tân llystyfiant, yn cynnwys y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r codau ymarfer perthna-sol
- effaith bosibl tân gwyllt, a gweithgareddau gostegu tân, ar yr amgylchedd naturiol, yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogae-thau planhigion, helfilod, bywyd gwyllt, cyfalaf naturiol yn ogystal ag eiddo a seilwaith
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â rheoli tanau llystyfiant yn cynnwys risgiau i chi eich hun, erail, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- pwysigrwydd nodi peryglon ac asesu risg cychwynnol a pharhaus a’r camau i’w cymryd
- y dillad gwrthsefyll tân addas a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn angenrheidiol i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gostegu tân llystyfiant eu defnyddio
- y cynlluniau tân, mapiau tân, symbolau, arferion gwaith y sefydliad a’r codau ymarfer perthnasol
- sut i ddefnyddio mapiau i roi a derbyn cyfeirnodau grid cywir, amcan o bell-terau a nodi nodweddion
- eich rôl, eich amcanion a’ch cyfrifoldebau chi a phobl eraill yn cy-northwyo i ostegu tân llystyfiant, wrth bwy i adrodd a pham y mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau trwy gadwyn gyfarwyddiadau, fel y System Gorch-mynion Digwyddiadau (ICS) neu’r System Rheoli Digwyddiadau (IMS)
- rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS) a sut i adnabod a chyfathrebu gyda’r pennaeth digwyddiadau
- y llinellau a’r dulliau cyfathrebu ac adrodd yn ystod tân llystyfiant
- yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sydd yn angenrheidiol i gynnal tân a’r dulliau trosglwyddo gwres sydd yn gallu achosi tân llystyfiant i ledaenu
- y mathau gwahanol o danau llystyfiant, eu nodweddion, a’r ffordd y maent yn lledaenu ac yn rhyngweithio gyda’r amgylchedd, tanwydd a’r tywydd
- sut gall y tywydd, cyflwr a threfniant tanwydd a thir, effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau llystyfiant a’r ffordd y gall newidiadau yn y tywydd effeithio ar danau gwyllt
- sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr a wynebwedd, sydd wedi eu cynnwys yn y System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS), i ragfynegi ymddygiad tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
- pwysigrwydd dewis a defnyddio pwynt angori diogel i ddechrau gweithgareddau gostegu tân
- y technegau gostegu tân llystyfiant a phryd i’w defnyddio
- yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir, galluoedd a chyfyngiadau pob un pan gânt eu defnyddio ar fathau gwahanol o danau llystyfiant, a phwysigrwydd paratoi a chynnal a chadw
- y mathau gwahanol o bympiau a sut i’w gweithredu’n ddiogel ac yn ef-feithiol
- y ffyrdd gwahanol o gyflenwi dŵr i dân llystyfiant yn cynnwys mynd yn âl ac ymlaen gyda dŵr a chyfnewid dŵr
- rôl peiriannau trwm ac awyrennau yn gostegu tanau llystyfiant
- diben a gwerth rhwystrau tân, bylchau tanwydd a llinellau rheoli
- yr offer, cyfarpar a’r tactegau perthnasol i’w defnyddio yn ystod cyfnodau gwahanol o ostegu tanau gwyllt
- y ddau brif strategaeth gostegu tanau llystyfiant: ymosodiad un-iongyrchol ac anuniongyrchol
- sut i reoli’r mathau gwahanol o danau yn cynnwys: tân grug neu lwyni, tân glaswellt, tân brigau, tân coedwig a thân mawn
- pwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES
- y camau gofynnol i’w cymryd mewn digwyddiad neu argyfwng a pha wybodaeth allweddol y dylid ei chasglu a’u hadrodd i’r rheiny sy’n rheoli
- pwysigrwydd cynnal adnoddau gostegu tân sy’n briodol i’r risg
Cwmpas/ystod
Asesu’n barhaus:
• maint y tân
• cyfeiriad a chyflymder y gwynt
• cyflwr a threfniant llystyfiant
• y bobl/asedau sydd o dan fygythiad
• cyfradd y lledaeniad wrth ben y tân
• uchder y flammau
• llwybrau dianc
• ffynonellau dŵr
• y tywydd
• topograffeg
• am unrhyw broblemau eraill
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pwynt Angori: Lleoliad o fantais, rhwystr fel arfer rhag lledaeniad y tân, ar gyfer dechrau adeiladu llinell reoli.
Ataliaeth – Gellir cael ataliaeth pan fydd llinell reoli wedi cael ei sefydlu o amgylch llinell derfyn y tân ac wedi atal twf pellach.
Llinell reoli – Term cynhwysol ar gyfer yr holl rwystrau sydd wedi eu hadeiladu neu naturiol ac ymylon y tân sydd wedi eu trin a ddefnyddir i reoli tân.
Rheoli – Mae rheoli tân yn golygu bod y llinellau rheoli wedi cael eu gwella a’u diogelu i’r graddau nad oes unrhyw siawns y gellir ei ragweld o’r tân yn dianc
Mesur rheoli – Camau lleddfu y gellir eu cymryd i leihau cyswllt posibl â pher-ygl sydd wedi ei nodi
Ymosodiad uniongyrchol – Tacteg gostegu tân ymosodol sydd yn cynnwys ymosodiad ar neu gerllaw ymyl y tân.
Ymddygiad tân – Ymateb tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffeg. Mae mathau gwahanol o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripio, rhedeg, ffaglu, brychu a choroni.
Rhwystr tân – Mesur i atal lledaeniad tân.
Bwlch tanwydd – Bwlch yn argaeledd tanwydd (deunydd llosgadwy) i gynnal y tân sy’n gweithredu fel rhwystr i arafu neu atal cynnydd y tân.
Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol yr amgylchedd tân sydd yn pennu rhwyddineb cynnau, graddfa’r lledaeniad, anhawster i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi fel mynegai.
System graddio perygl tân (Mynegai) – Dangosydd meintiol o’r perygl o dân, a fynegir naill ai mewn ystyr perthynol neu fel mesur absoliwt. Defnyddir mynegeion perygl tân yn aml i arwain gweithgareddau rheoli tân.
Perygl tân – unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr sydd yn gallu achosi tân gwyllt neu sydd yn gallu darparu cyflenwad tanwydd parod i helaethu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, sydd i gyd yn cyflwyno bygythiad i fywyd, eiddo neu’r amgylchedd.
Dwysedd tân – Y gyfradd y mae’r tân yn rhyddhau ynni ar ffurf gwres mewn lleoliad arbennig neu amser penodol, a fynegir mewn cilowatau y fetr (kW/m) neu cilojoule y fetr fesul eiliad (kJ/m/s).
Risg o dân – Tebygolrwydd o dân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol neu amser penodol. Caiff y risg o dân gwyllt ei gyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg o dân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl.
Difrifoldeb Tân/Llosgi – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sydd yn cael ei gynhyrchu gan dân/llosgi a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.
Math o dân – Ceir tri math o gynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu math o dân: 1. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft tanau awyr, coron, isdyfiant, arwyneb a thanau daear. 2. Dosbarthiad o adran o dân yn unol â’i safle ar hyd terfyn allanol y tân. Er enghraifft, tanau pen, cynffon ac ystlys. 3. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â’r nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripio, cefnu, rhedeg, ffaglu, brychu, coroni, troelliad tân, tân wedi ei yrru gan ddarfudiad ac ati
Tywydd tân – Tywydd sydd yn dylanwadu ar gynnau tân, ei ymddygiad a’i ostegu.
Dwysedd llinell tân – Graddfa’r ynni sydd yn cael ei ryddhau fesul hyd uned blaen y tân, a ddisgrifir mewn kW/m
Ochrau – Y rhannau o derfyn allanol tân sydd yn gyfochrog yn fras â phrif gyfeiriad y lledaeniad.
Tân ochr – Tân sydd yn lledaenu neu y rhagfynegir y bydd yn lledaenu i’r ochr (ar ongl sgwâr yn fras) i gyfeiriad cyffredin y gwynt neu lethr.
Ymosodiad ochrol – Dull o ostegu tân sydd yn cynnwys ymosod ar dân gwyllt ar hyd ochr neu’r ddwy ochr ar yr un pryd neu un ar ôl y llall.
Tanwydd – Unrhyw ddeunydd sydd yn gallu cefnogi ymlosgi mewn amgylchedd tân gwyllt. Caiff tanwydd fel arfer ei fesur mewn tunelli fesul hectar.
Tanwyddau – Dosbarthiad tanwydd yn ôl eu taldra o’u cymharu ag arwyneb y ddaear. Ceir pum haen gyffredinol o danwydd: • Tanwydd awyr • Tanwydd uchel • Tanwydd gerllaw arwyneb • Tanwydd arwyneb • Tanwydd daear
Perygl tanwydd – cymhlethfa danwydd wedi ei diffinio yn ôl math, trefniant, cyfaint, cyflwr a lleoliad sy’n cyflwyno bygythiad o gynnau a gwrthsafiad i reolaeth
Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.
Pen – Y rhan o derfyn allanol tân sy’n lledaenu gyflymaf, fel arfer yng nghysgod y gwynt neu i fyny llethr.
Sawdl neu gynffon – Y rhan mwyaf i’r cefn o dân gwyllt/tân coedwig, nid yw fel arfer yn cyd-fynd â’r gwynt a llethr, ac o ganlyniad bydd fel arfer yn dangos llai o weithgaredd tân na phen y tân am ei fod fel arfer â llai o gymorth gan wynt neu lethr.
Ymosodiad anuniongyrchol – Unrhyw ddulliau gostegu a weithredir i ffwrdd o ymyl y tân.
JESIP – Rhaglen Rhyngweithredu Rhwng y Gwasanaethau Brys
Bwrw i lawr – Bwrw i lawr yw’r gwaith gostegu cychwynnol gyda’r nod o leihau dwysedd y tân neu arafu lledaeniad y tân. Mae’n awgrymu bod perygl rhagweladwy’r tân wedi cael ei leihau’n sylweddol.
LACES – Mae LACES yn brotocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith mewn digwyddiadau o danau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn fyrfodd ar gyfer: L = Lookouts, A = Awareness (or Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area
Tirwedd – Ymddangosiad ffisegol o’r tir yn cynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant cynhenid a’r effaith ddynol a achosir gan amrywiadau yn y defnydd o dir.
Tebygolrwydd – Asesiad o debygolrwydd perygl a nodir sydd yn arwain at golled (a fynegir fel arfer fel rhif o 1 i 5, isel i uchel).
Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses lle mae gwres yn gadael un corff neu wrthrych i un arall. Gyda thanau gwyllt a thanau coedwig, mae ynni gwres yn trosglwyddo o danwydd sydd wedi llosgi i rai sydd heb losgi trwy: Ddarfudiad, Pelydriad a Dargludiad
Mopio a Chylchrodio – Mae Mopio a Chylchrodio yn dechrau ar ôl i’r tân gael ei reoli ac mae’n cynnwys diffodd yr ardal sydd yn llosgi nes nad oes unrhyw bosiblirwydd iddo ailgynnau. Bydd cylchrodio terfyn allanol y tân yn helpu i sicrhau na fydd y tân yn dianc y tu allan i’r llinellau rheoli. Gellir dweud bod tân “allan” ar ôl cwblhau’r cyfnod hwn
Arsyllwr – Unigolyn sydd yn meddiannu tŵr/pwynt neu’n cylchrodio ardal ddynodedig gyda’r dasg o ganfod ac adrodd am danau gwyllt.
Ymosodiad gwasgu – Y dacteg o ymosod ar dân gwyllt trwy weithio ar hyd yr ochrau naill ai ar yr un pryd neu un ar ôl y llall o bwynt angori ac ymdrechu i gysylltu’r ddwy linell wrth y pen.
Risg – Y tebygolrwydd y bydd y niwed oherwydd y perygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad i hynny.
Asesu risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth yn ymwneud â lefelau derbyniol o risg a lefelau gwirioneddol y risg a gyflwynir i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Y broses sydd yn gysylltiedig â nodi risg, asesu tebygolrwydd o ddigwyddiad yn digwydd ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Graddfa risg – Canlyniad lluosi’r tebygolrwydd gyda’r difrifoldeb i gyrraedd gwerth am risg. Mynegir hyn wedyn naill ai fel gwerth rhifol neu yn syml yn isel, canolig neu’n uchel.
Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodir (a fynegir fel arfer fel rhif 1 i 5, isel i uchel).
Topograffeg – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb tir.
Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb ei reoli sydd yn gofyn am benderfyniad neu weithredu yn ymwneud â gostegu. Mae tanau gwyllt yn cael eu dosbarthu yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau gostegu.
Cynllun rheoli tân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i safle wedi ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r risg o dân gwyllt ac yn nodi mesurau fydd yn lleihau neu’n lleddfu’r risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol mae hyn yn cael ei greu yn dilyn asesiad risg tân gwyllt.
Parthau rheoli tanau gwyllt – Nod y parthau rheoli tanau gwyllt yw diogelu iechyd a diogelwch ac asedau pwysig a seilwaith. Gallant ddarparu fframwaith defnyddiol i helpu rheolwyr i nodi a blaenoriaethu mesurau atal tanau gwyllt ar draws safle, yn seiliedig ar lefel y risg o dân gwyllt. Creu parth gofodol o fesurau atal tanau gwyllt yn seiliedig ar gymesuredd. Parth A yw’r Parth Asedau lle mae’n rhaid diogelu seilwaith rhag tân, Parth B yw’r parth clustogi, lle ceir mwy o reoli tanwydd i ddiogelu Parth A a D. Mae Parth C yn ardal lle mae risg tân gwyllt yn isel lle gellir cynnal gweithgareddau rheoli tir arferol. Mae Parth D yn barth lle mae tân wedi ei wahardd, lle na ddylid caniatáu gweithrediadau fel llosgi wedi ei ragnodi neu danau gostegu.
System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS) – System a gydnabyddir ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae’n seiliedig ar yr ystyriaeth o wynt, llethr a wynebwedd wedi ei gyfuno â thanwydd.
Atal tân gwyllt – Term ar y cyd am weithgareddau rhagweithiol a weithredir gyda’r nod o leihau digwyddiadau, difrifoldeb a lledaeniad tanau gwyllt.
Mesurau atal tanau gwyllt – Gweithgareddau wedi eu cyfeirio i leihau mynychder tanau, yn cynnwys addysgu’r cyhoedd, gorfodi’r gyfraith, cyswllt personol, a lleihau peryglon tanwydd (rheoli tanwydd).
Cynllun atal tanau gwyllt – Cynllun neu raglen o weithgareddau sydd wedi ei ffurfio i atal digwyddiadau tanau gwyllt.
Cynllun ymateb i dân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i ardal i nodi’r ymateb sydd yn angenrheidiol i ddigwyddiad o dân gwyllt. Dylai WRP gynnwys gwybodaeth fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.
Asesu risg o dân gwyllt – Mae Asesu Risg o Dân Gwyllt yn offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg o dân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesu’r tebygolrwydd o ddigwyddiad ac asesu difrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS93
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Coedwigaeth
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
tanau; tân; coetir; rhostir; coedwig; grug; llystyfiant; rhos; llosgi; tân gwyllt; ymladd tân