Goruchwylio ac arwain llosgi wedi ei ragnodi fel rhan o reoli llystyfiant

URN: LANCS92
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio ac arwain llosgi wedi ei ragnodi fel rhan o reoli llystyfiant, fel arfer grug neu laswellt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn ymgymgyd â nhw i gadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes rheoli helfilod a bywyd gwyllt, cadwraeth amgylcheddol, coedwigaeth neu ffermio a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir lle mae grug neu lystyfiant arwyneb arall yn cael ei reoli trwy losgi.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
cyfrannu at ddatblygiad y cynllun llosgi wedi ei ragnodi
trefnu’r gofynion ymarferol sydd yn gysylltiedig â llosgi llystyfiant yn ddiogel
rheoli gweithgareddau llosgi llystyfiant 
goruchwylio ac arwain unigolion a thimau i gefnogi gweithgareddau llosgi llystyfiant
cymryd y camau angenrheidiol os bydd digwyddiad lle mae tân yn dianc.

Dylai unrhyw un sydd yn cynnal llosgi wedi ei ragnodi fod wedi cael hyfforddiant, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth sy’n benodol i wlad.

Mae’n rhaid iddynt hefyd ddilyn y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd. 

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyfrannu at sefydlu’r angen am losgi trwy asesiad o’r ardal losgi bosibl
  2. cyfrannu at ddatblygiad cynllun ar gyfer llosgi wedi ei ragnodi, gan ystyried yr amcanion rheoli tir, ffactorau’r safle a’r perygl tân fydd yn effeithio ar ymddygiad tân
  3. sicrhau bod y cynllun yn nodi’r holl ofynion llosgi ac yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n benodol i wlad, cyfyngiadau amgylcheddol a chodau ymarfer
  4. trefnu’r gofynion gweithredol ac adnoddau i gefnogi gweithredu’r llosgi sydd wedi ei gynllunio 
  5. cyfrannu at sefydlu cynlluniau wrth gefn i reoli unrhyw wyriad o’r llosgi sydd wedi ei gynllunio
  6. cysylltu â’r bobl berthnasol i’w hysbysu am y llosgi sydd wedi ei gynllunio yn cynnwys cymdogion, y Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS) ac asiantaethau eraill fel y bo angen
  7. cynnal asesiad risg a gweithredu i leddfu peryglon sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau llosgi
  8. trefnu a chynnal tasgau system ddiogelwch LACES 
  9. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r llosgi sydd wedi ei gynllunio wedi cael eu hyfforddi, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle mae hyn yn ofyniad, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd
  10. rhoi tasgau i bawb sydd yn gysylltiedig â’r llosgi sydd wedi ei gynllunio a materion diogelwch cysylltiedig
  11. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
  12. sicrhau bod y dillad a’r PPE sy’n cael eu gwisgo gan y rheiny sydd yn gwneud y llosgi yn addas ar gyfer y dasg ac yn addas at y diben 
  13. cadarnhau rolau, amcanion a chyfrifoldebau penodedig ar y diwrnod ynghyd â’r llinellau adrodd
  14. cadarnhau dulliau cyfathrebu a pharhau i gyfathrebu’n effeithiol gydag eraill trwy gydol y weithred o losgi 
  15. defnyddio mapiau i roi a derbyn cyfeirnodau grid cywir, amcangyfrif pellterau a nodi nodweddion
  16. defnyddio rhagolygon y tywydd i sefydlu a yw’r amodau yn ffafriol ar gyfer y llosgi sydd wedi ei gynllunio 
  17. cadarnhau argaeledd adnoddau i gefnogi’r llosgi sydd wedi ei gynllunio
  18. cadarnhau bod yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gynnau a gostegu’r llosgi sydd wedi ei ragnodi ar gael, wedi eu paratoi, yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn effeithiol 
  19. goruchwylio ac arwain y gwaith o sefydlu rhwystrau tân, bylchau tanwydd a rheolyddion eraill gan ystyried tanwydd, tywydd, wynebwedd a thir
  20. cynnal prawf o losgi i gadarnhau priodolrwydd amodau llosgi ac i nodi unrhyw addasiadau sydd yn angenrheidiol i’r cynllun llosgi wedi ei ragnodi 
  21. goruchwylio ac arwain cynnau’r llystyfiant wedi ei reoli, gan ddefnyddio patrymau cynnau penodedig yn unol â’r cynllun cynnau
  22. rheoli’r llosgi yn unol â gofynion llosgi wedi eu cynllunio 
  23. cymryd camau uniongyrchol i ymdrin ag unrhyw amrywiadau o’r gofynion llosgi sydd wedi eu cynllunio 
  24. goruchwylio ac arwain gostegu llosgi wedi ei ragnodi pan fydd yr amcanion llosgi gofynnol wedi cael eu cyflawni 
  25. dilyn y gweithdrefnau gofynnol mewn argyfwng
  26. cynnal ôl-drafodaeth gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig ar ôl cwblhau’r llosgi
  27. adrodd ar effeithiolrwydd y llosgi a chyfrannu at yr adolygiad a’r gwerthusiad er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pam mae llystyfiant yn cael ei losgi fel rhan o reoli cynefin a bywyd gwyllt
  2. sut i asesu nodweddion y cynefin mewn perthynas â chynllunio a rheoli llosgi
  3. rôl y raddfa perygl tân wrth gynllunio llosgi
  4. pwysigrwydd cynllunio llosgi a’r hyn y mae angen ei gynnwys wrth gynllunio llosgi wedi ei ragnodi
  5. diben map cyfyngiadau llosgi a pham y dylid ei ddilyn
  6. diben a gwerth gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth a strwythurau rheoli priodol yn ystod gweithrediadau llosgi wedi eu cynllunio, digwyddiadau ac argyfyngau
  7. effaith bosibl gweithgareddau llosgi wedi eu rhagnodi ar yr amgylchedd naturiol yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogaethau planhigion, helfilod, bywyd gwyllt, cyfalaf naturiol, yn ogystal ag eiddo a seilwaith
  8. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sydd yn rheoli llosgi llystyfiant sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd
  9. pam y mae’n bwysig cysylltu â’r bobl berthnasol i’w hysbysu am y llosgi sydd wedi ei gynllunio a phwy sydd angen eu hysbysu 
  10. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau llosgi llystyfiant
  11. pwysigrwydd nodi peryglon yn gychwynnol ac yn barhaus ac asesu risgiau a’r camau i’w cymryd 
  12. system ddiogelwch LACES a sut caiff ei gymhwyso mewn gweithrediadau llosgi wedi eu rhagnodi
  13. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â llosgi llystyfiant
  14. y dillad gwrthsefyll tân addas a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y mae’n ofynnol i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â llosgi wedi ei ragnodi a gostegu eu defnyddio 
  15. pam y mae’n bwysig bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r llosgi’n cael eu hyfforddi, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle mae hyn yn ofyniad, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd
  16. cynllun tân y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo a’i weithdrefnau gweithredu cysylltiedig
  17. yr adnoddau a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithgareddau llosgi diogel
  18. eich rôl, amcanion a’ch cyfrifoldebau a rhai pobl eraill, y llinell adrodd a pham y mae’n bwysig dilyn cadwyn cyfarwyddiadau 
  19. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r llosgi a sut gellir gwneud hyn
  20. yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sydd eu hangen i gynnal tân a’r dulliau o drosglwyddo gwres sydd yn gallu achosi tân llystyfiant i ledaenu
  21. y ffordd y gall y tywydd, cyflwr a threfniant tanwydd a thir, effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau a’r ffordd y gall y tywydd effeithio ar losgi sydd wedi ei gynllunio a thanau gwyllt
  22. sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr a wynebwedd, sydd wedi eu cynnwys yn y System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS), i ragfynegi newidiadau mewn ymddygiad tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
  23. y technegau atal tanau gwyllt y dylid eu defnyddio wrth oruchwylio ac arwain llosgi wedi ei ragnodi 
  24. yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir i reoli a gostegu tanau llystyfiant
  25. diben, adeiladwaith a gwerth rhwystrau tân a bylchau tanwydd
  26. sgiliau darllen map yn cynnwys mapiau Arolwg Ordnans
  27. y defnydd o restrau gwirio, mapiau a diagramau fel offer rheoli pwysig
  28. y wybodaeth sydd ei hangen gan ystafelloedd rheoli y Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS) ac ar y safle. 
  29. sut i weithredu a dadansoddi profion llosgi
  30. y ffordd y mae patrymau cynnau gwahanol yn gweithio a’r ffordd y maent yn gallu effeithio ar y llosgi
  31. y gweithdrefnau i’w dilyn mewn argyfwng a pha wybodaeth y dylid ei chofnodi
  32. pwysigrwydd adolygu a gwerthuso effeithiolrwydd y llosgi a chofnodi’r gwersi a ddysgwyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Wynebwedd – Y cyfeiriad y mae llethr yn ei wynebu.

Codau ymarfer – Dogfennau sydd yn rhoi’r dulliau a ddatblygwyd i gynorthwyo gyda chydymffurfio â deddfau a rheoliadau wrth gyflawni gwaith e.e. Côd Muirburn (Yr Alban), Côd Llosgi Grug a Glaswellt (Cymru a Lloegr)

Mesur rheoli – Camau lleddfu y gellir eu cymryd i leihau cyswllt posibl â pherygl sydd wedi ei nodi

Ymddygiad tân – Ymateb tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffeg. Mae mathau gwahanol o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripio, rhedeg, ffaglu, brychu a choroni.

Rhwystr tân – Mesur i atal lledaeniad tân.

Bwlch tanwydd – Bwlch yn argaeledd tanwydd (deunydd llosgadwy) i gynnal y tân sy’n gweithredu fel rhwystr i arafu neu atal cynnydd y tân.

Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol yr amgylchedd tân sydd yn pennu rhwyddineb cynnau, graddfa’r lledaeniad, anhawster i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi fel mynegai.

Dihangfa dân – Llosgi sydd yn mynd y tu hwnt i’r tân sydd wedi ei ragnodi, tân sydd yn dianc neu dân gwyllt yn aml.

Perygl tân – unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr sydd yn gallu achosi tân gwyllt neu sydd yn gallu darparu cyflenwad tanwydd parod i helaethu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, sydd i gyd yn cyflwyno bygythiad i fywyd, eiddo neu’r amgylchedd.

Dwysedd tân – Y gyfradd y mae’r tân yn rhyddhau ynni ar ffurf gwres mewn lleoliad arbennig neu amser penodol, a fynegir mewn cilowatau y fetr (kW/m) neu cilojoule y fetr fesul eiliad (kJ/m/s).

Risg o dân – Tebygolrwydd o dân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol neu amser penodol. Caiff y risg o dân gwyllt ei gyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg o dân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl

Difrifoldeb Tân/Llosg – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sydd yn cael ei gynhyrchu gan dân/llosg a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.

Math o dân – Ceir tri math o gynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu math o dân: 1. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft tanau awyr, coron, isdyfiant, arwyneb a thanau daear. 2. Dosbarthiad o adran o dân yn unol â’i safle ar hyd terfyn allanol y tân. Er enghraifft, tanau pen, cynffon ac ystlys. 3. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â’r nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripio, cefnu, rhedeg, ffaglu, brychu, coroni, troelliad tân, tân wedi ei yrru gan ddarfudiad ac ati

Tywydd tân – Tywydd sydd yn dylanwadu ar gynnau tân, ei ymddygiad a’i ostegu. 

Tanwydd – Dosbarthiad tanwydd yn ôl eu taldra o’u cymharu ag arwyneb y ddaear. Ceir pum haen gyffredinol o danwydd: • Tanwydd awyr • Tanwydd uchel • Tanwydd gerllaw arwyneb • Tanwydd arwyneb • Tanwydd daear

Perygl tanwydd – cymhlethfa danwydd wedi ei diffinio yn ôl math, trefniant, cyfaint, cyflwr a lleoliad sy’n cyflwyno bygythiad o gynnau a gwrthsafiad i reolaeth

Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.

LACES – Mae LACES yn brotocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith mewn digwyddiadau o danau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn fyrfodd ar gyfer: L = Lookouts,  A = Awareness (or Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area

Tirwedd – Ymddangosiad ffisegol o’r tir yn cynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant cynhenid a’r effaith ddynol a achosir gan amrywiadau yn y defnydd o dir.

Tebygolrwydd – Asesiad o debygolrwydd perygl a nodir sydd yn arwain at golled (a fynegir fel arfer fel rhif o 1 i 5, isel i uchel).

Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses lle mae gwres yn gadael un corff neu wrthrych i un arall. Gyda thanau gwyllt a thanau coedwig, mae ynni gwres yn trosglwyddo o danwydd sydd wedi llosgi i rai sydd heb losgi trwy: Ddarfudiad, Pelydriad a Dargludiad

Llosgi wedi ei ragnodi – Llosgi wedi ei gynllunio a’i oruchwylio sydd yn cael ei wneud o dan amodau amgylcheddol penodedig i ddileu tanwydd o ardal o dir gosodedig ac ar y pryd, dwysedd a graddfa’r lledaeniad sy’n ofynnol i fodloni amcanion rheoli tir.

Cynllun llosgi wedi ei ragnodi (cynllun llosgi, cynllun gweithredu tân wedi ei ragnodi) – Cynllun sydd yn nodi’r ardal i gael ei llosgi ac yn ymgorffori nodau ac amcanion y llosgi, y manylebau a’r amodau ar gyfer cynnal y llosgi a’r mesurau i sicrhau diogelwch a chadw’r tân o dan reolaeth.

Risg – Y tebygolrwydd y bydd y niwed oherwydd y perygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad i hynny.

Asesu risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth yn ymwneud â lefelau derbyniol o risg a lefelau gwirioneddol y risg a gyflwynir i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Y broses sydd yn gysylltiedig â nodi risg, asesu tebygolrwydd o ddigwyddiad yn digwydd ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.  

Graddfa risg – Canlyniad lluosi’r tebygolrwydd gyda’r difrifoldeb i gyrraedd gwerth am risg. Mynegir hyn wedyn naill ai fel gwerth rhifol neu yn syml yn isel, canolig neu’n uchel.

Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodir (a fynegir fel arfer fel rhif 1 i 5, isel i uchel).

Topograffeg – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb tir.

Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb ei reoli sydd yn gofyn am benderfyniad neu weithredu yn ymwneud â gostegu. Mae tanau gwyllt yn cael eu dosbarthu yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau gostegu.

Cynllun rheoli tân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i safle wedi ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r risg o dân gwyllt ac yn nodi mesurau fydd yn lleihau neu’n lleddfu’r risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol mae hyn yn cael ei greu yn dilyn asesiad risg tân gwyllt.

System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS) – System a gydnabyddir ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae’n seiliedig ar yr ystyriaeth o wynt, llethr a wynebwedd wedi ei gyfuno â thanwydd.

Atal tân gwyllt – Term ar y cyd am weithgareddau rhagweithiol a weithredir gyda’r nod o leihau digwyddiadau, difrifoldeb a lledaeniad tanau gwyllt.

Cynllun ymateb i dân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i ardal i nodi’r ymateb sydd yn angenrheidiol i ddigwyddiad o dân gwyllt. Dylai WRP gynnwys gwybodaeth fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.

Asesu risg o dân gwyllt – Mae Asesu Risg o Dân Gwyllt yn offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg o dân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesu’r tebygolrwydd o ddigwyddiad ac asesu difrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS92

Galwedigaethau Perthnasol

Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Coedwigaeth

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

grug; rhostir; rhos; llosg; tân; llosgi; llystyfiant; tân wedi ei ragnodi; coedwigaeth