Llosgi wedi ei ragnodi fel rhan o reoli llystyfiant
URN: LANCS91
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn disgrifio eich rôl yn llosgi llystyfiant arwyneb wedi ei ragnodi, grug a glaswellt fel arfer. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud wrth baratoi ar gyfer a chwblhau gweithgareddau llosgi llystyfiant.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes rheoli helfilod a bywyd gwyllt, cadwraeth amgylcheddol, ffermio neu goedwigaeth a gellr ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir lle mae grug neu lystyfiant arwyneb arall yn cael ei reoli trwy losgi.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• paratoi offer a chyfarpar i’w defnyddio wrth gynnau a gostegu tanau llystyfiant
• paratoi’r ardal llystyfiant fel ei fod yn ddiogel ar gyfer llosgi wedi ei ragnodi
• gweithio gydag eraill i losgi llystyfiant arwyneb wedi ei ragnodi, o dan amodau wedi eu rheoli
• ymateb yn briodol i ddigwyddiad lle mae tân yn dianc
Wrth losgi wedi ei ragnodi dylech fod wedi eich hyfforddi, a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth sy’n benodol i wlad.
Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer cyfredol rheoli llosgi llystyfiant, sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill bob amser wrth losgi wedi ei ragnodi, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn darparu’r lefel ofynnol o ddiogelwch ar gyfer y dasg
- cadarnhau nodi’r ardal o lystyfiant arwyneb i gael ei losgi a’r gofynion llosgi a gynlluniwyd
- cadarnhau eich rôl benodedig, amcanion a lefel eich cyfrifoldeb ar y diwrnod, ac i bwy y dylech adrodd
- nodi peryglon ac adrodd ar risgiau sydd yn gysylltiedig â’r llosgi sydd wedi ei gynllunio a gweithredu i leihau’r rhain
- cynorthwyo’r gwaith o baratoi rhwystrau tân a bylchau tanwydd, lle bo angen, i gynnal y llosgi sydd wedi ei gynllunio, gan ystyried tanwydd, tywydd, wynebwedd a thir
- paratoi’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gynnau a gostegu’r llosgi sydd wedi ei ragnodi i amodau gwaith diogel ac effeithiol, yn barod i’w defnyddio
- cynnal llosgi fel prawf i wirio’r amodau llosgi ac i lywio unrhyw addasiadau sydd eu hangen i’r cynllun llosgi
- defnyddio dyfeisiadau cynnau i gynnau’r llystyfiant mewn modd sydd wedi ei reoli, yn unol â’r cynllun cynnau
- cynnal y llosgi sydd wedi ei ragnodi, yn unol ag amcanion llosgi sydd wedi eu cynllunio, gan ddefnyddio patrymau cynnau, offer a chyfarpar penodedig
- dilyn system ddiogelwch LACES bob amser wrth gynnal llosgi sydd wedi ei ragnodi
- dilyn cyfarwyddiadau a chymryd camau ar unwaith, lle bo angen, i gywirio unrhyw amrywiad o’r amcanion llosgi sydd wedi eu cynllunio
- monitro ac adrodd ar unrhyw amrywiad mewn tywydd cyffredin neu ymddygiad tân
- cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill trwy gydol y weithred
- gostegu tanau pan fydd yr amcanion llosgi gofynnol wedi cael eu cyflawni gan ddefnyddio’r cyfarpar perthnasol
- cymryd y camau perthnasol mewn argyfwng
- adrodd gwybodaeth am ganlyniadau’r gweithgareddau llosgi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â llosgi wedi ei ragnodi, yn cynnwys y ddeddfwriaeth berthnasol
- pam mae llystyfiant yn cael ei losgi fel rhan o reoli cynefin a bywyd gwyllt
- y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol sy’n rheoli llosgi llystyfiant, sy’n berthnasol i’r genedl lle mae’r llosgi’n digwydd
- effaith bosibl rhagnodi llosgi a thanau gwyllt ar agweddau eraill ar yr amgylchedd naturiol yn cynnwys ansawdd aer a dŵr, cynefinoedd sensitif, rhywogaethau planhigion, helfilod a bywyd gwyllt
- y technegau atal tanau gwyllt y dylid eu defnyddio wrth gynnal llosgi wedi ei ragnodi
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â llosgi llystyfiant, yn cynnwys risgiau i chi eich hun, eraill, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
- pwysigrwydd nodi peryglon cychwynnol a pharhaus ac asesu risg a’r camau i’w cymryd
- pwysigrwydd hyfforddiant ar gyfer llosgi wedi ei ragnodi a gofynion deddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol sy’n berthnasol i’r wlad lle mae’r llosgi’n digwydd
- pwysigrwydd dilyn system ddiogelwch LACES a sut mae’n cael ei chymhwyso mewn gweithrediadau llosgi wedi eu rhagnodi
- y dilad gwrthsefyll tân addas a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn ofynnol i’w defnyddio gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â llosgi wedi ei ragnodi a gostegu
- eich rôl, eich amcanion a’ch cyfrifoldebau chi a phobl eraill, i bwy yr ydych yn adrodd a pham y mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau trwy gadwyn cyfarwyddiadau
- diben, gwerth ac adeiladu rhwystrau tân a bylchau tanwydd
- yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sydd eu hangen i gynnal tân a’r dulliau o drosglwyddo gwres sydd yn gallu achosi tân llystyfiant i ledaenu
- sut gall y tywydd, amodau a threfniant tanwydd, a thir, effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau a sut gall newidiadau yn y tywydd effeithio ar losgi wedi ei gynllunio a thanau gwyllt
- sut i ddefnyddio tanwydd, gwynt, llethr a wynebwedd, sydd wedi eu cynnwys yn y System Rhagfynegi Tanau Gwyllt (WiPS), i ragfynegi newidiadau mewn ymddygiad tân, yn cynnwys dwysedd a chyfeiriad
- sut i baratoi’n ddiogel, defnyddio a chynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gynnau a gostegu tanau llystyfiant
- y defnydd diogel o ddyfeisiadau cynnau
- y ffordd y mae patrymau cynnau gwahanol yn gweithio a sut maent yn gallu effeithio ar y llosgi
- y ffordd y caiff offer a chyfarpar gwahanol eu defnyddio i reoli tanau llystyfiant a thanau daear (mawn)
- y cynlluniau tân, mapiau a gweithdrefnau eraill a ddefnyddir gan y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo, sy’n eich galluogi i ymateb yn effeithiol mewn argyfwng
- pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau o’r tîm a sut gellir gwneud hyn
- pam y mae’n bwysig asesu argyfyngau yn gywir a pha wybodaeth allweddol y dylid ei chydgrynhoi a’i chyfathrebu i’r rheiny sydd yn rheoli
- y camau gofynnol i’w cymryd os bydd argyfwng
Cwmpas/ystod
Offer a chyfarpar:
• curwyr tân a chrafwyr
• llosgwyr grug/ffaglau diferu
• rhawiau ac offer palu
• chwistrellwr gwarbac
• chwythwyr dail
• pympiau dŵr, peipen ddŵr a chyfarpar ategol
Cyfarpar diogelu personol:
• dillad gwrthsefyll tân
• helmed/gorchudd wyneb /masg/gogls/amddiffynwyr clustiau
• menig gwrthsefyll tân
• esgidiau uchel gwrthsefyll tân
• diogelwch anadlol
Cynnau llystyfiant pan:
• mae’n llaith
• mae’n sych
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Wynebwedd – Y cyfeiriad y mae llethr yn ei wynebu.
Codau ymarfer – Dogfennau sydd yn rhoi’r dulliau a ddatblygwyd i gynorthwyo gyda chydymffurfio â deddfau a rheoliadau wrth gyflawni gwaith e.e. Côd Muirburn (Yr Alban), Côd Llosgi Grug a Glaswellt (Cymru a Lloegr)
Mesur rheoli – Camau lleddfu y gellir eu cymryd i leihau cyswllt posibl â pherygl sydd wedi ei nodi
Ymddygiad tân – Ymateb tân i ddylanwadau tanwydd, tywydd a thopograffeg. Mae mathau gwahanol o dân yn cynnwys: mudlosgi, ymgripio, rhedeg, ffaglu, brychu a choroni.
Rhwystr tân – Mesur i atal lledaeniad tân.
Bwlch tanwydd – Bwlch yn argaeledd tanwydd (deunydd llosgadwy) i gynnal y tân sy’n gweithredu fel rhwystr i arafu neu atal cynnydd y tân.
Perygl tân – Term cyffredinol a ddefnyddir i fynegi asesiad o ffactorau sefydlog ac amrywiol yr amgylchedd tân sydd yn pennu rhwyddineb cynnau, graddfa’r lledaeniad, anhawster i’w reoli, ac effaith. Mae perygl tân yn aml yn cael ei fynegi fel mynegai.
Dihangfa dân – Llosgi sydd yn mynd y tu hwnt i’r tân sydd wedi ei ragnodi, tân sydd yn dianc neu dân gwyllt yn aml.
Perygl tân – unrhyw sefyllfa, proses, deunydd neu gyflwr sydd yn gallu achosi tân gwyllt neu sydd yn gallu darparu cyflenwad tanwydd parod i helaethu lledaeniad neu ddwysedd tân gwyllt, sydd i gyd yn cyflwyno bygythiad i fywyd, eiddo neu’r amgylchedd.
Dwysedd tân – Y gyfradd y mae’r tân yn rhyddhau ynni ar ffurf gwres mewn lleoliad arbennig neu amser penodol, a fynegir mewn cilowatau y fetr (kW/m) neu cilojoule y fetr fesul eiliad (kJ/m/s).
Risg o dân – Tebygolrwydd o dân gwyllt yn digwydd a’i effaith bosibl ar leoliad penodol neu amser penodol. Caiff y risg o dân gwyllt ei gyfrifo gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol: Risg o dân = tebygolrwydd o ddigwydd x effaith bosibl
Difrifoldeb Tân/Llosg – Asesiad ansoddol o lefel y gwres sydd yn cael ei gynhyrchu gan dân/llosg a’r effaith o ganlyniad ar danwydd.
Math o dân – Ceir tri math o gynllun gwahanol ar gyfer dosbarthu math o dân: 1. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â lefel y tanwydd y mae’n digwydd ynddo. Er enghraifft tanau awyr, coron, isdyfiant, arwyneb a thanau daear. 2. Dosbarthiad o adran o dân yn unol â’i safle ar hyd terfyn allanol y tân. Er enghraifft, tanau pen, cynffon ac ystlys. 3. Dosbarthiad o dân neu adran o dân yn unol â’r nodweddion gweledol y mae’n eu harddangos. Er enghraifft, mudlosgi, ymgripio, cefnu, rhedeg, ffaglu, brychu, coroni, troelliad tân, tân wedi ei yrru gan ddarfudiad ac ati
Tywydd tân – Tywydd sydd yn dylanwadu ar gynnau tân, ei ymddygiad a’i ostegu.
Tanwydd – Dosbarthiad tanwydd yn ôl eu taldra o’u cymharu ag arwyneb y ddaear. Ceir pum haen gyffredinol o danwydd: • Tanwydd awyr • Tanwydd uchel • Tanwydd gerllaw arwyneb • Tanwydd arwyneb • Tanwydd daear
Perygl tanwydd – cymhlethfa danwydd wedi ei diffinio yn ôl math, trefniant, cyfaint, cyflwr a lleoliad sy’n cyflwyno bygythiad o gynnau a gwrthsafiad i reolaeth
Perygl – Unrhyw beth sydd â’r potensial i achosi niwed.
LACES – Mae LACES yn brotocol diogelwch hanfodol y dylid ei roi ar waith mewn digwyddiadau o danau gwyllt i fynd i’r afael â risgiau a pheryglon. Mae LACES yn fyrfodd ar gyfer: L = Lookouts, A = Awareness (or Anchor Point), C = Communication, E = Escape route and plan, S = Safe area
Tirwedd – Ymddangosiad ffisegol o’r tir yn cynnwys nodweddion y tir, y llystyfiant cynhenid a’r effaith ddynol a achosir gan amrywiadau yn y defnydd o dir.
Tebygolrwydd – Asesiad o debygolrwydd perygl a nodir sydd yn arwain at golled (a fynegir fel arfer fel rhif o 1 i 5, isel i uchel).
Dulliau trosglwyddo gwres – Y broses lle mae gwres yn gadael un corff neu wrthrych i un arall. Gyda thanau gwyllt a thanau coedwig, mae ynni gwres yn trosglwyddo o danwydd sydd wedi llosgi i rai sydd heb losgi trwy: Ddarfudiad, Pelydriad a Dargludiad
Llosgi wedi ei ragnodi – Llosgi wedi ei gynllunio a’i oruchwylio sydd yn cael ei wneud o dan amodau amgylcheddol penodedig i ddileu tanwydd o ardal o dir gosodedig ac ar y pryd, dwysedd a graddfa’r lledaeniad sy’n ofynnol i fodloni amcanion rheoli tir.
Cynllun llosgi wedi ei ragnodi (cynllun llosgi, cynllun gweithredu tân wedi ei ragnodi) – Cynllun sydd yn nodi’r ardal i gael ei llosgi ac yn ymgorffori nodau ac amcanion y llosgi, y manylebau a’r amodau ar gyfer cynnal y llosgi a’r mesurau i sicrhau diogelwch a chadw’r tân o dan reolaeth.
Risg – Y tebygolrwydd y bydd y niwed oherwydd y perygl yn cael ei wireddu ynghyd â lefel y golled, y niwed neu’r anaf o ganlyniad i hynny.
Asesu risg – Y broses o sefydlu gwybodaeth yn ymwneud â lefelau derbyniol o risg a lefelau gwirioneddol y risg a gyflwynir i unigolyn, grŵp, cymdeithas neu’r amgylchedd. Y broses sydd yn gysylltiedig â nodi risg, asesu tebygolrwydd o ddigwyddiad yn digwydd ac asesiad o ddifrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Graddfa risg – Canlyniad lluosi’r tebygolrwydd gyda’r difrifoldeb i gyrraedd gwerth am risg. Mynegir hyn wedyn naill ai fel gwerth rhifol neu yn syml yn isel, canolig neu’n uchel.
Difrifoldeb – Asesiad o ganlyniad posibl perygl a nodir (a fynegir fel arfer fel rhif 1 i 5, isel i uchel).
Topograffeg – Disgrifiad ac astudiaeth o siâp a nodweddion arwyneb tir.
Tân gwyllt – Unrhyw dân llystyfiant heb ei reoli sydd yn gofyn am benderfyniad neu weithredu yn ymwneud â gostegu. Mae tanau gwyllt yn cael eu dosbarthu yn gyffredin yn ôl maint a/neu effaith ar adnoddau gostegu.
Cynllun rheoli tân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i safle wedi ei ddatblygu i fynd i’r afael â’r risg o dân gwyllt ac yn nodi mesurau fydd yn lleihau neu’n lleddfu’r risg a/neu ganlyniadau tân gwyllt. Yn ddelfrydol mae hyn yn cael ei greu yn dilyn asesiad risg tân gwyllt.
System Rhagfynegi Tân Gwyllt (WiPS) – System a gydnabyddir ar gyfer rhagweld a rhagfynegi ymddygiad tebygol tân gwyllt. Mae’n seiliedig ar yr ystyriaeth o wynt, llethr a wynebwedd wedi ei gyfuno â thanwydd.
Atal tân gwyllt – Term ar y cyd am weithgareddau rhagweithiol a weithredir gyda’r nod o leihau digwyddiadau, difrifoldeb a lledaeniad tanau gwyllt.
Cynllun ymateb i dân gwyllt – Cynllun sy’n benodol i ardal i nodi’r ymateb sydd yn angenrheidiol i ddigwyddiad o dân gwyllt. Dylai WRP gynnwys gwybodaeth fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub fel lleoliad seilwaith, llwybrau mynediad, ffynonellau dŵr, cyfarpar arbenigol, manylion cyswllt a mapiau safle.
Asesu risg o dân gwyllt – Mae Asesu Risg o Dân Gwyllt yn offeryn ar gyfer nodi peryglon tân a gwerthuso risg o dân. Mae’r broses yn cynnwys nodi risg, asesu’r tebygolrwydd o ddigwyddiad ac asesu difrifoldeb yr effaith os bydd yn digwydd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS91
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rhodiwr, Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr, Coedwigaeth
Cod SOC
9119
Geiriau Allweddol
grug; llystyfiant; rhostir; rhos; llosg; tân; llosgi; tân wedi ei ragnodi; muirburn; swaling; coedwigaeth