Cynnal strwythurau, arwynebeddau, ffiniau neu fannau mynediad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynnal a chadw strwythurau, arwynebeddau, ffiniau neu fannau mynediad. Gallai hyn gynnwys siediau, llociau, llwyfannau, tai gwydr neu strwythurau eraill, llwybrau, ffyrdd neu iardiau, muriau neu ffensys, drysau gatiau, camfeydd neu risiau.
Yn y safon hon, mae “cynnal a chadw” yn cyfeirio at gynnal a chadw cyffredinol fel trwsio, glanhau, rhwbio i lawr a phaentio. Bydd yr holl waith yn cael ei wneud yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal a chadw strwythurau, arwynebeddau, ffiniau a mannau mynediad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw strwythurau, arwynebeddau, ffiniau a mannau mynediad 
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw gwahanol 
- sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel ac yn gywir 
- pam y mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw a’r problemau posibl a allai godi os nad yw’r gwaith cynnal a chadw’n cael ei wneud yn gywir 
- sut i baratoi’r safle yn barod ar gyfer y gwaith cynnal a chadw gofynnol 
- sut i wneud gwaith i gynnal a chadw strwythurau, arwynebeddau, ffiniau neu fannau mynediad 
- pam y mae’n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus 
- sut dylai canlyniad y gwaith cynnal a chadw edrych, yn ôl y cyfarwyddiadau a’r manylebau 
- y math o broblemau a allai ddigwydd a’r camau priodol y dylid eu cymryd 
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl cwblhau’r gwaith cynnal a chadw 
- sut a pham y dylech lanhau offer ar ôl eu defnyddio 
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu’n cael eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn 
- yr effaith bosibl y gallai eich gwaith ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir lleihau hyn 
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes 
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes 
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- drysau 
- gatiau 
- camfeydd 
- grisiau 
- muriau 
- ffensys 
- llethrau 
- darluniau/cynlluniau 
- amserlenni 
- datganiadau dull 
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPS) 
- canllawiau’r cynhyrchydd 
- cyfarwyddiadau llafar 
- siediau 
- llociau 
- cuddfannau 
- llwyfannau 
- tai gwydr 
- llwybrau 
- ffyrdd 
- iardiau