Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru fel ATV, gyriant pedair olwyn, beic cwad, cerbyd coes bob ochr, cerbyd profi, sglefren a bobcat. Nid yw'r safon yn cynnwys y defnydd o dractorau.
Mae'r safon yn cynnwys y defnydd o gerbydau wedi eu pweru mewn tywydd, cyflwr daear a thir amrywiol. Bydd yr amodau hyn yn cael effaith ar drin a defnyddio'r cerbyd.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif gyfredol lle bo angen.
Wrth ddefnyddio cerbyd wedi ei bweru ar y briffordd gyhoeddus mae'n rhaid i chi feddu ar drwyddedau perthnasol ar eich cyfer chi a'r cerbyd.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithredu cerbyd wedi ei bweru ar y briffordd gyhoeddus neu oddi arni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi'r cerbyd wedi ei bweru gofynnol trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn, yn unol â deddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau a manylebau
- cadarnhau bod y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel ac yn barod i'w ddefnyddio
- esgyn a disgyn oddi ar y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
- gwirio ac addasu amgylchedd y gweithredwr er mwyn bodloni eich gofynion personol
- gwirio'r ardal uniongyrchol am beryglon a rhwystrau cyn symud i ffwrdd, a phob amser wrth weithredu'r cerbyd wedi ei bweru
- defnyddio'r arwyddion rhybudd cywir bob amser
- gweithredu a symud y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel yn unol â'r math o gerbyd a'r gweithrediad sy'n cael ei wneud
- addasu'r technegau gweithredu i ystyried newidiadau yn y tywydd, cyflwr y ddaear a'r mathau o dir
- defnyddio ffactorau effeithlonrwydd i gynnal perfformiad effeithlon gan y cerbyd wedi ei bweru trwy drin a defnyddio'r cerbyd yn briodol
- atal ac ynysu'r cerbyd wedi ei bweru ar ôl cwblhau'r gweithgaredd
- gadael y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel ar ôl ei ddefnyddio ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau'r diwydiant a'r busnes i leihau niwed amgylcheddol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd
- y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â pharatoi a gweithredu cerbydau wedi eu pweru
- y mathau gwahanol o gerbydau wedi eu pweru a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau gwahanol
- pa gerbydau wedi eu pweru sydd yn addas i gludo teithwyr
- y mathau gwahanol o ategolion sydd ar gael ar gyfer cerbydau wedi eu pweru a'r ffordd y cânt eu cysylltu â'r cerbyd
- sut i ddewis y cerbyd wedi ei bweru cywir ar gyfer y gweithgaredd gofynnol a sut i wneud gwiriadau ac addasiadau cyn cychwyn
- sut i esgyn a disgyn o'r cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
- sut i ddechrau ac atal y cerbyd wedi ei bweru yn ddiogel
- y mathau o offer diogelwch ddylai fod ar gael
- swyddogaeth yr holl reolyddion a'r offer ar y cerbyd wedi ei bweru yr ydych yn ei ddefnyddio
- y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a dangosyddion
- y ffyrdd y dylid gweithredu a symud y cerbyd wedi ei bweru, a'r ffordd y bydd tywydd gwahanol, cyflwr y ddaear a'r mathau o dir yn effeithio ar y perfformiad
- galluoedd a chyfyngiadau'r cerbyd wedi ei bweru a'i weithredwr, a'r ffactorau a allai effeithio ar ddiogelwch ac effeithlonrwydd
- y mathau o beryglon a rhwystrau y gellir dod ar eu traws wrth weithredu cerbyd wedi ei bweru a'r ffordd y dylid trin y rhain
- y math o broblemau a allai ddigwydd gyda'r cerbyd wedi ei bweru, sut i'w hadnabod a'r camau i'w cymryd
- pwysigrwydd cynnal gwiriadau a chynnal a chadw fel mater o drefn i gadarnhau bod y cerbyd wedi ei bweru yn dal yn ddiogel ac mewn cyflwr gweithredol da
- y rhesymau pam y dylid gadael y cerbyd wedi ei bweru yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd y cerbyd wedi ei bweru bob amser
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgareddau ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd o leihau hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
* Ffactorau effeithlonrwydd:*
- gers
- hydroleg
- pwysedd teiars
- cyflwr y trac
- brecs
- cydwyr
* *
Cyflwr y ddaear:
- gwlyb
- sych
- rhew
- iâ
- mwd
- tir rhydd
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- canllawiau'r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- cyfarwyddiadau llafar
* *
Amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- olwyn lywio
- drychau
- gwregys
Cerbydau wedi eu pweru yn cynnwys:
- ATV
- gyriannau pedair olwyn
- beiciau cwad
- cerbydau coes bob ochr
- cerbydau profi
- sglefrau
- bobcats
T*ir:*
- arwynebeddau caled
- arwynebeddau meddal
- arwynebeddau anwastad
- llethrau
Dolenni I NOS Eraill
LANCS59 Paratoi a gweithredu cerbyd wedi ei bweru gydag ychwanegiadau
LANCS7 Paratoi a gweithredu tractor