Casglu cynnyrch o gwch gwenyn mêl
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys casglu cynnyrch o gwch gwenyn mêl.
Mae’n rhaid i’r gwaith casglu gael ei wneud yn unol â safonau diogelwch bwyd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chasglu cynnyrch o gwch gwenyn mêl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni 
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas 
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a deunyddiau cadw gwenyn yn ddiogel ac yn gywir 
- defnyddio’r dull cywir i ddadgapio diliau mêl a gwahanu’r capio oddi wrth y mêl 
- cadarnhau bod y mêl wedi ei hidlo a’i setlo’n gywir ar ôl ei echdynnu er mwyn atal halogiad 
- pacio a labelu mêl yn unol â deddfwriaeth berthnasol 
- defnyddio’r dulliau cywir i echdynnu cynnyrch eraill o’r cwch gwenyn mêl 
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo 
- cynnal hylendid da yn unol â safonau diogelwch bwyd 
- gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn, gofynion asesu risg a chodau ymarfer 
- cynnal cofnodion gweithgareddau cadw gwenyn 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg 
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer gweithgareddau cadw gwenyn 
- yr offer cadw gwenyn sy’n ofynnol a sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn gywir ar gyfer gweithgareddau cadw gwenyn 
- y dulliau gwahanol a ddefnyddir i ddadgapio diliau mêl a gwahanu’r capiau o’r mêl 
- y mathau o echdynwyr a ddefnyddir 
- sut i oresgyn problemau sydd yn gysylltiedig ag echdynnu mêl grug a mêl olew had rêp 
- y rheoliadau statudol sy’n effeithio ar drin, paratoi i werthu, cyfansoddiad, labelu a phwysau pecynnau o fêl 
- storio mêl, yn cynnwys egwyddorion sylfaenol storio 
- proses gronynnu mewn mêl 
- sut i bennu cynnwys gwlybaniaeth mewn mêl 
- sut i atal dirywiad mêl 
- cynnyrch gwenyn eraill a’u defnydd 
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo 
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol 
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn a chodau ymarfer 
- yr angen am yswiriant perthnasol 
- swyddogaeth sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol 
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cynnyrch gwenyn:
- mêl dil
- set meddal
- set naturiol
- mêl hylifol
- blociau cwyr gwenyn
- canhwyllau cwyr gwenyn
- medd
- jeli'r frenhines