Monitro a chynnal cwch gwenyn mêl
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal cwch gwenyn mêl.
Y nod yw sicrhau cynnal y cwch gwenyn er mwyn creu haid iach, gref o wenyn ar gyfer cynhyrchu mêl.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â monitro a chynnal cwch gwenyn mêl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
gwybod a yw’r amodau yn briodol ar gyfer agor y cwch gwenyn mêl
defnyddio offer cadw gwenyn i agor y cwch gwenyn yn ddiogel
adnabod ymddangosiad arferol dil nythaid
adnabod mathau gwahanol o wenyn sy’n oedolion yn yr haid
adnabod cynnwys y gell mewn dil
adnabod y nythaid
edrych am bresenoldeb plâu, clefydau a diffygion a chymryd camau priodol os cânt eu canfod
cyflawni gweithgareddau cynnal a chadw ar yr adegau cywir ac yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
ailosod y cwch gwenyn yn unol â’r manylebau
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo
cynnal arferion hylendid a bioddiogelwch da
gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn, gofynion asesu risg a chodau ymarfer
cadw cofnodion gweithgareddau cadw gwenyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer gweithgareddau cadw gwenyn
yr offer cadw gwenyn sy’n ofynnol a sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn gywir ar gyfer gweithgareddau cadw gwenyn
cydrannau gwahanol cwch gwenyn mêl a sut cânt eu gosod a’u defnyddio
sut i reoli newidiadau yn y tymhorau, lleoliadau daearyddol, y tywydd, amseriad blodeuo planhigion porthi a ffynonellau neithdar annymunol
sut i ddylanwadu ar wenyn i alluogi’r cwch gwenyn i gael ei agor ar gyfer gwaith cynnal a chadw
y broses sydd yn gysylltiedig â magu gwenyn mêl
sut mae gwenyn yn ymateb i bersawr ac arogleuon eraill
buddion defnyddio llofftydd pan fo angen
y gwenyn sy’n oedolion gwahanol yn yr haid a’u swyddi penodol
cyfnodau cylch bywyd gwenynen fêl
anatomeg a bioleg sylfaenol gwenynen fêl
sut y gall ymddygiad gwenyn helpu i reoleiddio’r amgylchedd yn yr haid
sut mae planhigion a gwenyn o fudd i’w gilydd
sut mae gwenyn yn casglu paill, neithdar a dŵr ac yn eu defnyddio yn y cwch gwenyn
sut mae mêl yn cael ei wneud a pham yr ydych yn cael mathau gwahanol o fêl
y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan wenyn
gwerth maethol mêl i’r haid o wenyn mêl
yr amser cywir i dynnu mêl o’r haid
pwysigrwydd atal dwyn a sut mae’n effeithio ar yr haid
yr amodau sydd yn arwain at heidio a’r peryglon y mae’n eu cyflwyno
sut gellir troi haid a chnewyllyn yn haid gynhyrchiol
y rhesymau dros adfer dil
pwysigrwydd adolygu oed y frenhines bresennol a chynllunio ar gyfer un newydd
manteision nodi a thocio breninesau
effaith bosibl plâu, clefydau a diffygion ar iechyd gwenyn, rheolaeth yr haid a’r effeithiau economaidd
ble i gael gwybodaeth am blâu, clefydau a diffygion sy’n effeithio ar heidiau gwenyn mêl, yn cynnwys pa rai y mae’n rhaid hysbysu yn eu cylch, a’r camau i’w cymryd os cânt eu canfod
y gweithdrefnau cywir mewn argyfwng
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu â’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd, neu wedi eu heffeithio ganddo
pwysigrwydd cynnal arferion hylendid a bioddiogelwch da a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn a chodau ymarfer
yr angen am yswiriant perthnasol
swyddogaeth sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gweithiwr
gwenynen ormes
brenhines
defnyddio mygwr
gosod cwch gwenyn
tynnu rhannau o’r cwch gwenyn (to, bwrdd cau, llofftydd, diliau haid)
casglu mêl
pecynnu
labeli bwyd
glanhau cydrannau cwch gwenyn
cwch gwenyn
mygwr
tanwydd
offer amddiffynnol personol
offeryn cwch gwenyn
ataliwr brenhines
bwydwr
wyau
larfa
nythaid wedi ei selio mewn diliau
e.e. rhannu bwyd
dawnsio
sentio
dirgrynnu
haid afiach
pigiad
heidio
dillad amddiffynnol
golchi dwylo
salwch personol
trychiadau a chlwyfau
chwilen fach cwch gwenyn
tropilaelaps
gwiddonyn varroa
cwyrwyfyn
gwiddon traceol
cacynen Asiaidd
nosema
varroosis
clefyd y gwenyn Americanaidd
clefyd y gwenyn Ewropeaidd
sacbrood
bald brood
drone brood
chalk brood
ameba
haid newynog
haid oer neu wedi gorgynhesu
gwenyn planhigion
gwenyn plaladdwr