Sefydlu cwch gwenyn
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys sefydlu cwch gwenyn mêl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
adnabod lleoliad priodol ar gyfer y cwch gwenyn mêl
dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer cadw gwenyn yn ddiogel ac yn gywir
dewis y math priodol o gwch gwenyn
cadarnhau bod y cwch wedi ei osod yn gywir, yn unol â’r gofynion
gosod y cwch ar lwyfan addas
caffael gwenyn mêl a brenhines ar gyfer y cwch ar yr amser cywir
gosod y gwenyn yn y cwch ar yr amser cywir, gan gynnal eich diogelwch eich hun ac eraill ac iechyd a lles y gwenyn
gosod y frenhines yn y cwch gwenyn gan ei chadw ar wahân nes bod yr haid wedi setlo
cadw cyflenwad digonol o fwyd nes bod y gwenyn gweithiol yn sefydlu dil mêl
monitro’r cwch am arwyddion o blâu, clefydau a diffygion a chymryd y camau priodol os cânt eu canfod
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
cynnal arferion hylendid a bioddiogelwch da
gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn, gofynion asesu risg a chodau ymarfer
cadw cofnodion o’r gweithgareddau cadw gwenyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgareddau cadw gwenyn
yr offer cadw gwenyn sy’n ofynnol a sut i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn gywir ar gyfer gweithgareddau cadw gwenyn
sut a ble y dylid lleoli cwch gwenyn a’r ffactorau y dylid eu hystyried e.e. ffynonellau bwyd, risg i’r cyhoedd
y mathau gwahanol o gychod a chydrannau a sut y cânt eu gosod a’u defnyddio
yr egwyddorion sydd yn llywodraethu dyluniad cychod a fframiau e.e. y cysyniad o ofod gwenyn, a phrif nodweddion eu hadeiladwaith
y mathau gwahanol o wenyn mêl a’u nodweddion
y mathau gwahanol o wenyn sy’n oedolion yn yr haid a’u swydd benodol
sut i gyflwyno’r gwenyn a’r frenhines i’r cwch mewn ffordd sy’n lleihau straen
y cyfnodau yng nghylch bywyd gwenynen fêl
anatomeg sylfaenol a bioleg gwenynen fêl
sut gall ymddygiad gwenyn helpu i reoleiddio’r amgylchedd yn yr haid
y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan wenyn
gwneuthuriad cnewyllyn a sut y gellir ei ddefnyddio
sut mae planhigion a gwenyn o fudd i’w gilydd
botaneg sylfaenol a phorthi ar gyfer ffermio gwenyn
yr egwyddorion sydd yn gysylltiedig â bwydo gwenyn mêl a pham y mae’n bwysig nad oes unrhyw flychau mêl wedi eu sefydlu pan fydd y gwenyn yn cael eu bwydo gyda surop siwgr
gwerth maethol mêl i’r haid o wenyn mêl
y rheolaeth sydd ei angen i ymdopi â newidiadau yn y tymhorau, lleoliadau daearyddol, y tywydd, amseriad blodeuo planhigion porthi a ffynonellau neithdar annymunol
ble i gael gwybodaeth am blâu, clefydau a diffygion sy’n effeithio ar heidiau o wenyn mêl, yn cynnwys rhai y mae’n rhaid hysbysu yn eu cylch, a’r camau i’w cymryd os cânt eu canfod
effaith bosibl plâu, clefydau a diffygion ar iechyd gwenyn, rheolaeth yr haid a’u heffeithiau economaidd
y gweithdrefnau cywir i’w cymryd mewn argyfwng
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd neu wedi eu heffeithio ganddo
pwysigrwydd cynnal arferion hylendid a bioddiogelwch da a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth cadw gwenyn a chodau ymarfer
yr angen am yswiriant perthnasol
swyddogaeth sefydliadau a chymdeithasau proffesiynol
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gweithiwr
gwenynen ormes
brenhines
*Gweithgareddau cadw gwenyn: *
defnydd o fygwr
gosod cwch gwenyn
tynnu rhannau o’r cwch gwenyn (to, bwrdd cau, llofftydd, diliau nythaid)
casglu mêl
deunydd pecynnu
labeli bwyd
glanhau cydrannau cychod gwenyn
Offer cadw gwenyn:
cwch gwenyn
mygwr
tanwydd
offer amddiffynnol personol
offeryn cwch gwenyn
ataliwr brenhines
bwydwr
Dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan wenyn:
rhannu bwyd
dawnsio
sentio
dirgrynnu
Argyfwng:
nythaid afiach
pigiad
heidio
dillad amddiffynnol
golchi dwylo
salwch personol
trychiadau a chlwyfau
*Plâu, clefydau a diffygion: *
- chwilen fach cwch gwenyn
- tropilaelaps
- gwiddonyn varroa
cwyrwyfyn
gwiddon traceol
cacynen Asiaidd
nosema
varroosis
clefyd y gwenyn Americanaidd
clefyd y gwenyn Ewropeaidd
sacbrood
bald brood
drone brood
chalk brood
ameba
haid newynog
haid oer neu wedi gorgynhesu
gwenyn planhigion
gwenyn plaladdwr