Pennu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter
URN: LANCS85
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â’r cymhwysedd sydd ei angen i bennu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter. Mae’n cynnwys ymchwilio i gyfleoedd posibl ar gyfer defnydd o dir gwledig a chyfleoedd menter, a’u hasesu.
Mae’r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sy’n gyfrifol am reoli gweithgareddau fel amaethyddiaeth, garddwriaeth, helwriaeth, cadwraeth bywyd gwyllt, coedwigaeth neu bysgodfeydd.
Wrth bennu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Yn y safon hon, mae’r term “tir” hefyd yn cynnwys dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter, gan ystyried ffactorau allweddol
- nodi’r synergeddau a’r gwrthdaro rhwng defnydd gwahanol o dir gwledig a chyfleoedd menter
- archwilio ffyrdd y gellid integreiddio mentrau gwledig i gynyddu cyfleoedd
- ymchwilio i ofynion seilwaith ar gyfer defnydd gwahanol o dir a chyfleoedd menter gwledig
- edrych ar arfer gorau ac enghreifftiau o’r hyn sydd eisoes wedi cael ei gyflawni yn y sector
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau y gellid eu darparu gan fenter wledig
- sefydlu a oes marchnad ar gyfer y cynnyrch neu’r gwasanaethau arfaethedig o fenter wledig
- ymchwilio i gyfleoedd i wneud defnydd cynaliadwy o’r adnoddau naturiol a’r sgil-gynnyrch sydd ar gael
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer defnyddio technoleg newydd
- ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid a chymorth
- cael cyngor arbenigol lle bo angen
- pennu opsiynau hyfyw ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a chyfleoedd menter fyddai’n ategu gweithgareddau presennol
- pennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu opsiynau hyfyw yn llwyddiannus ar gyfer defnydd integreidig o dir gwledig a cyfleoedd menter
- cadarnhau bod opsiynau’n bodloni gofynion y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol a rheoliadau lleol
- cadarnhau bod opsiynau’n bodloni’r gofynion perthnasol ar gyfer cadwraeth amgylcheddol a bioamrywiaeth, a’u bod yn gynaliadwy
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ymchwilio ac asesu cyfleoedd ar gyfer defnydd integredig o dir gwledig a menter, a’r ffactorau allweddol y dylid eu hystyried
- y systemau perthnasol ar gyfer y defnydd o dir
- y ffordd y gall defnydd gwahanol o dir gwledig gydweithio a chynyddu cyfleoedd
- y ffordd y gall fod yn bosibl rheoli gwrthdaro rhwng defnydd gwahanol o dir gwledig
- pa ofynion isadeiledd fyddai ar gyfer defnydd gwahanol o dir gwledig a mentrau
- ble i ddod o hyd i wybodaeth am arfer amgylcheddol a busnes gorau ac enghreifftiau o’r hyn y mae eraill wedi ei gyflawni
- pwysigrwydd nodi neu sefydlu marchnad ar gyfer unrhyw gynnyrch neu wasanaethau gan y fenter wledig
- y mathau gwahanol o ynni adnewyddadwy a’r gofynion ar gyfer eu cynhyrchu
- y ffordd y gallai technoleg newydd gynorthwyo gyda gwneud y defnydd gorau a mwyaf cynaliadwy o dir a chyfleoedd menter gwledig
- ble i ddod o hyd i wybodaeth am grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth a allai fod ar gael
- ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol, a pha fathau o gyngor sydd ar gael
- beth ddylai gael ei ystyried wrth bennu opsiynau hyfyw ar gyfer defnydd o dir gwledig a chyfleoedd menter
- sut i bennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol, ble y gellir eu cael ac ar ba cost
- gofynion y ddeddfwriaeth genedlaethol berthnasol a’r rheoliadau lleol sy’n rheoli’r defnydd o dir gwledig a menter
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ffactorau allweddol: ffisegol (lleoliad daearyddol, hinsawdd, daeareg); adnoddau naturiol; amgylcheddol; ecolegol; defnydd cyfredol; gweithgareddau eraill yn yr ardal; mynediad cyhoeddus a hawliau tramwy; dynodiadau; deddfwriaeth; polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol; cymdeithasol, diwylliannol, esthetig ac economaidd; cynaliadwyedd, atafaelu carbon, gwella bioamrywiaeth a rheoli tir yn gynaliadwy.
Defnydd o dir: hefyd yn cynnwys y defnydd o ddŵr
Ynni adnewyddadwy: gwynt, hydro, solar, biomas, treulio anaerobig, ac ati
Adnoddau: ynni, cyllid, cyfleusterau, gwasanaethau, cyflenwadau, cyfarpar, pobl ac adnoddau naturiol, yn cynnwys priddoedd, cyrff dŵr, planhigion, coetir, glaswelltir, gweundiroedd, ac ati
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS85
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Fferm, Amaethyddiaeth, Rheolwr Ystadau, Rheolwr Helgig a Bywyd Gwyllt, Tyddynnwr, Crofftwr, Coedwigaeth
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
amaethyddiaeth; garddwriaeth; helwriaeth; pysgodfeydd; ystâd; coedwigaeth; defnydd o dir; crofft; tyddyn; adnoddau