Rheoli poblogaethau plâu fertebraidd gan ddefnyddio dulliau cemegol

URN: LANCS84
Sectorau Busnes (Cyfresi): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli poblogaethau plâu fertebraidd gan ddefnyddio dulliau cemegol. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau gwaith rydych chi’n ymgymryd â nhw i reoli plâu fertebraidd gan ddefnyddio dulliau cemegol.

I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• nodi presenoldeb plâu fertebraidd
• cymhwyso a monitro mesurau rheoli cemegol yn gyfreithlon.

Wrth ddefnyddio cemegion, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich hyfforddi’n llawn ar eu defnyddio a rhaid bod gennych y tystysgrifau perthnasol, yn unol â gofynion deddfwriaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n defnyddio cemegion i reoli plâu fertebraidd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal y gweithgarwch yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch ac asesiadau risg perthnasol
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
  3. defnyddio’r dulliau perthnasol i fonitro arwyddion i bennu gweithgarwch poblogaeth pla fertebraidd
  4. addasu gweithgareddau monitro i gyfrif am amrywiadau tymhorol, amodau tywydd presennol a chynefin
  5. adnabod rhywogaethau plâu fertebraidd a dehongli arwyddion i amcangyfrif lefelau’r boblogaeth
  6. adnabod presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn darged
  7. pennu pryd mai rheolaeth gemegol fyddai’r dull gweithredu gorau i ddelio â phoblogaethau plâu fertebraidd, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
  8. gwirio a oes angen trwydded penodol i rywogaeth a chadarnhau ei bod ar waith
  9. dewis dull rheoli cemegol sy’n briodol i’r plâu fertebraidd, nodweddion y safle, ei leoliad a’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad
  10. datblygu cyfundrefn i reoli cymhwyso’r rheolaeth gemegol
  11. gosod a chynnal a chadw’r cyfarpar angenrheidiol er mwyn rheoli cymhwyso cemegion yn effeithiol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  12. gwirio cyfarpar cymhwyso a storio yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben
  13. trin, defnyddio a storio cemegion yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a’r gofynion cyfreithiol perthnasol, bob amser
  14. gweithredu’r dull rheoli cemegol mewn ffordd sy’n lleihau’r risg i rywogaethau nad ydynt yn darged ac i’r amgylchedd
  15. monitro effeithiolrwydd y dull rheoli cemegol
  16. gwaredu marwolaethau a deunyddiau disbyddedig yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol
  17. cynnal cofnodion rheoli plâu yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y risgiau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â rheoli plâu fertebraidd trwy ddulliau cemegol, gan gynnwys peryglon gweithio ar eich pen eich hun
  2. y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y dylid eu gwisgo
  3. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol a chadwraeth berthnasol yn gysylltiedig â rheoli plâu fertebraidd gan ddefnyddio dulliau cemegol
  4. y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad sy’n rheoli prynu, storio a defnyddio cemegion rheoli plâu fertebraidd, gan gynnwys y gofynion am hyfforddiant a thystysgrifau
  5. sut mae Deddf Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) yn rheoli defnyddio cemegion
  6. y dulliau o fonitro presenoldeb plâu fertebraidd, gan gynnwys defnyddio technoleg
  7. effeithiau’r tymhorau ac amodau’r tywydd ar fonitro poblogaethau plâu a sut mae monitro’n cael ei addasu i gyfrif am y tymor
  8. y rhywogaethau plâu fertebraidd cyffredin a sut i adnabod a dehongli arwyddion i bennu gweithgarwch lefelau’r boblogaeth
  9. nodweddion gwahanol rywogaethau plâu fertebraidd a’u heffaith bosibl ar weithgareddau’r safle
  10. effeithiau plâu fertebraidd ar boblogaethau anifeiliaid/planhigion
  11. nodweddion ymddygiadol plâu fertebraidd a fydd yn dylanwadu ar y dull rheoli cemegol a ddewisir
  12. y rhywogaethau plâu sy’n dod o dan ofynion penodol i wlad am drwyddedau cyffredinol, pryd mae angen trwydded penodol i rywogaeth a sut i wneud cais amdani
  13. sut i ddewis dull rheoli cemegol sy’n briodol i’r boblogaeth pla fertebraidd, nodweddion y safle, ei leoliad, a’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad
  14. pwysigrwydd gwiriadau rheolaidd ar gymhwyso a storio cyfarpar i sicrhau ei fod yn addas at ei ddiben
  15. sut i addasu dulliau rheoli plâu cemegol i gyfrif am newidiadau yn y tywydd
  16. sut i adnabod rhywogaethau nad ydynt yn darged a pham mae’n bwysig rheoli cymhwyso cemegion er rhywogaethau nad ydynt yn darged
  17. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol penodol i wlad sy’n rheoli gwaredu cyrff plâu a deunyddiau disbyddedig
  18. y gofynion ar gyfer cynnal cofnodion rheoli plâu cywir a chyfredol
  19. sut i fonitro effeithiolrwydd y dulliau rheoli cemegol a’r camau i’w cymryd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Dulliau cemegol – gwenwynau cyfreithlon

Arwyddion gweithgarwch plâu fertebraidd – er enghraifft:
• eu gweld yn uniongyrchol
• rhediadau
• olion troed
• difrod i gynefin
• anifeiliaid marw
• lladdiadau
• seiniau
• arogleuon
• tail

Plâu fertebraidd – er enghraifft: cwningod, gwahaddod, llygod, llygod mawr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

4

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS84

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

pla; ysglyfaethwr; fertebraidd; cemegion; gwenwyn