Cynnal sesiynau hyfforddi
URN: LANCS83
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau,Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal sesiynau hyfforddi. Bydd hyn yn cynnwys gwerthusiad ar ôl y sesiwn hyfforddi.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pawb sydd yn gweithio ym maes hyfforddi ac yn gallu cynnal sesiynau yn ddiogel ar eu pen eu hunain.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen eich bod yn gallu adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad risg o'r lleoliad a'r gweithgareddau cyn cynnal y sesiwn hyfforddi
- sicrhau bod y dillad, y cyfarpar a'r cyfleusterau sydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y gamp/gweithgaredd yn ddiogel ac yn briodol
- sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael eu cyfarch yn brydlon ac yn teimlo'n gyfforddus ac yn dawel eu meddyliau
- gwneud y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r holl wybodaeth angenrheidiol
- paratoi'r cyfranogwyr yn gorfforol ac yn feddyliol i gymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi
- nodi anghenion y cyfranogwyr a lefel eu profiad cyn cynnal sesiwn hyfforddi, a hysbysu'r cyfranogwyr o unrhyw resymau pam na ddylent gymryd rhan
- cynnal sesiwn hyfforddi gan roi cyfarwyddiadau sydd yn glir ac yn cyd-fynd â'r cynllun hyfforddi a gwirio dealltwriaeth y cyfranogwyr
- rhoi esboniadau ac arddangosiadau clir, sydd yn gywir yn dechnegol ac yn briodol i anghenion a lefel profiad y cyfranogwyr
- defnyddio dulliau hyfforddi a gweithgareddau priodol i ddatblygu perfformiad y cyfranogwyr
- sicrhau bod y sesiwn hyfforddi yn cyflawni cydbwysedd rhwng gweithgareddau ymarferol a chyfarwyddiadau yn unol ag anghenion y cyfranogwyr
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill yn ystod y sesiwn hyfforddi
- cadw at yr amseru a gynlluniwyd ar gyfer y sesiwn hyfforddi
- arsylwi perfformiad y cyfranogwyr tra'n cynnal y sesiwn hyfforddi a nodi cryfderau a gwendidau
- rhoi adborth i'r cyfranogwyr mewn ffordd glir a chadarnhaol
- addasu'r cynllun hyfforddi i ymateb i anghenion newidiol y cyfranogwyr a'r amgylchedd yn ystod y sesiwn hyfforddi
- dod â'r sesiwn hyfforddi i ben gan ddefnyddio gweithgareddau sydd yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr
- rhoi digon o gyfle i'r cyfranogwyr roi adborth ar y sesiwn hyfforddi a nodi eu hanghenion pellach
- hysbysu'r cyfranogwyr o amser, lleoliad a chynnwys sesiynau hyfforddi pellach ac unrhyw baratoadau sydd eu hangen
- goruchwylio ymadawiad y cyfranogwyr mewn ffordd sydd yn briodol i'r sefyllfa gan roi sylw dyledus i'w diogelwch
- datgysylltu a storio cyfarpar yn ddiogel ac yn unol ag arfer da, gan adrodd am unrhyw niwed
- gadael y lleoliad mewn cyflwr derbyniol ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- cadw cofnodion o gynnydd y cyfranogwyr
- ystyried adborth ar y sesiwn hyfforddi gan y cyfranogwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig yn llawn ac addasu'r cynllun hyfforddi a'r dulliau cyflwyno fel y bo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- arferion iechyd a diogelwch derbyniol cyfredol ar gyfer y gamp/gweithgaredd a sut i gynnal asesiad risg o'r lleoliad a'r gweithgareddau a gynlluniwyd
- gofynion y gamp/gweithgaredd o ran dillad, cyfarpar a chyfleusterau
- y côd moeseg ac ymddygiad derbyniol cyfredol ar gyfer y gamp/gweithgaredd
- y rheolau a/neu'r rheoliadau cyfredol ar gyfer y gamp/gweithgaredd
- y technegau, sgiliau a'r tactegau derbyniol cyfredol ar gyfer y gamp/gweithgaredd
- y gweithgareddau, cyfarwyddyd a'r dulliau hyfforddi derbyniol cyfredol ar gyfer y gamp/gweithgaredd
- egwyddorion a thechnegau paratoadau corfforol a meddyliol ar gyfer y gamp/gweithgaredd fel y diffiniwyd gan y diffiniad technegol o'r gamp/gweithgaredd
- pwysigrwydd asesu anghenion a lefel profiad y cyfranogwyr a defnyddio hyn fel man cychwyn ar gyfer sesiynau hyfforddi
- y rhesymau pam nad yw'n briodol i gyfranogwr posibl gymryd rhan yn y sesiwn, ac asiantaethau y gellach gyfeirio pobl ag anghenion penodol atynt
- y rhesymau dros ddefnyddio gweithgareddau penodol mewn sesiwn a sut i gael cydbwysedd rhwng gweithgaredd, cyfarwyddyd a hyfforddiant fel y bo'n briodol i lefel profiad cyfranogwyr
- trefniadaeth effeithiol grwpiau
- y ffordd y mae cyfranogwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau
- sut i roi adborth i'r cyfranogwyr a sut i ddewis yr amser iawn i wneud hynny
- sut i addasu cynlluniau hyfforddi mewn ymateb i berfformiad cyfranogwyr
- sut i addasu cynlluniau hyfforddi i ddarparu ar gyfer amodau amgylcheddol gwahanol a newidiol
- seicoleg perfformiad fel y diffinnir gan y diffiniad technegol
- ffisioleg perfformiad fel y diffinnir gan y diffiniad technegol
- pryd i gynnwys hyfforddwyr neu gynorthwywyr eraill
- gweithgareddau addas y gellir eu defnyddio i ddod â sesiynau i ben yn ddiogel ac yn effeithiol
- pwysigrwydd archwilio cyfarpar ac adrodd am unrhyw niwed
- sut i gadw cofnodion
- pwysigrwydd cael adborth am y sesiwn hyfforddi gan gyfranogwyr ac eraill a'i ddefnyddio i werthuso a gwella eich perfformiad eich hun
- eich cyfrifoldeb o ran iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth angenrheidiol:
- cyfleusterau
- gweithdrefnau brys
rheolau a disgwyliadau
amcanion ar gyfer y sesiwn
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCU128
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwyliwr Ceffylau
Cod SOC
3432
Geiriau Allweddol
hyfforddi; sesiynau; gweithgareddau; ymddygiad