Cynorthwyo contractwyr i’w galluogi i gyflawni amcanion

URN: LANCS81
Sectorau Busnes (Suites): Crofftwyr a Thyddynwyr,Dyframaethu,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys cynorthwyo contractwyr i’w galluogi i gyflawni eu hamcanion.

Byddai disgwyl i chi fonitro'r systemau a gwerthuso cynnydd gwaith, gan ddefnyddio'r wybodaeth hon i gynorthwyo'r contractwyr i gyflawni eu hamcanion.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am reoli contractwyr.

#


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ofynnol, yn ôl y contract, iddynt ei wneud – amcanion, graddfeydd amser, adnoddau
  2. sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'u dyletswyddau yn ymwneud â deddfwriaeth, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
  3. rhoi'r wybodaeth a'r cyfleusterau angenrheidiol i gontractwyr, ar yr adegau iawn, i'w galluogi i gyflawni'r canlyniadau gofynnol
  4. rhoi'r wybodaeth briodol am ddiogelwch i'r contractwyr am y safle perthnasol a lleoliad peryglon posibl
  5. cynnal perthynas effeithiol gyda'r contractwyr i gynorthwyo gwaith y sefydliad a'u galluogi i fodloni eu hamcanion
  6. monitro gwaith contractwyr ar gyfnodau addas i bennu cynnydd  amcanion
  7. cynnig adborth priodol i gontractwyr ar eu gwaith i annog arfer da a gwella cymhelliant
  8. nodi a chofnodi gwyriadau o'r rhaglen a chymryd y camau priodol
  9. ailddiffinio canlyniadau contract lle mae monitro yn nodi bod hyn yn angenrheidiol
  10. cyfathrebu amrywiadau i'r contractwr yn gywir a heb oedi
  11. datrys unrhyw anghydfodau yn brydlon ac yn unol ag amodau'r contract

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

    1. y gwaith y mae'r contractwr o dan gontract i'w wneud a'r amcanion y disgwylir iddynt eu cyflawni
    2. pwy sy'n darparu beth o ran adnoddau, contractwr neu sefydliad
    3. y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a'r gweithdrefnau sefydliadol sy'n berthnasol
    4. y wybodaeth y bydd ei hangen ar gontractwyr i'w galluogi i weithio'n effeithiol a phwysigrwydd cyfrinachedd
    5. y cymorth ychwanegol a'r cyfleusterau y gall fodd eu hangen ar gontractwyr sy'n berthnasol i gyd-destun eich diwydiant
    6. eich rôl yn cynorthwyo contractwyr a phwysigrwydd sefydlu a chynnal perthynas waith dda
    7. dulliau o fonitro'r gwaith o gyflawni'r contract
    8. sut i roi adborth adeiladol i gontractwyr a pherthynas hyn â chyflawni amcanion ac ysgogiad y contractwr
    9. effaith ffactorau allanol ar gyflawni contractau, fel y tywydd, yr amser o'r flwyddyn, cyfnodau cynhyrchu ac ati
    10. y problemau posibl a allai ddigwydd a'r camau priodol i'w cymryd
    11. sut i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw gŵynion gan y rheiny a allai gael eu heffeithio gan waith contractwyr
    12. sut i ailddiffinio canlyniadau contract a phwy ddylai fod yn gysylltiedig â hyn
    13. dangosyddion amrywiadau'r contract a'r camau y dylech eu cymryd
    14. y math o anghydfodau a allai godi mewn perthynas ag ansawdd y gwaith, y cymorth a roddir, yr amserlen a'r taliadau, a sut dylid ymdrin â'r rhain
    15. pwysigrwydd atebolrwydd, bod yn agored ac uniondeb wrth reoli gwaith contract


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU97

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ffermio Pysgod

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

contractwyr; monitro; cymorth