Cefnogi contractwyr i’w galluogi i gyflawni amcanion
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cefnogi contractwyr i'w galluogi i gyflawni eu hamcanion.
Byddai disgwyl i chi fonitro'r systemau a gwerthuso cynnydd y gwaith, gan ddefnyddio'r wybodaeth yma i gefnogi'r contractwyr i gyflawni eu hamcanion.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am reoli contractwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'r hyn y mae eu contract yn gofyn iddynt ei gyflawni o ran amcanion, graddfeydd amser, adnoddau
sicrhau bod contractwyr yn ymwybodol o'u hymrwymiadau o ran deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi'r wybodaeth a'r cyfleusterau angenrehdiol i gontractwyr, ar yr adegau iawn, i'w galluogi i gyflawni'r canlyniadau gofynnol
 - rhoi'r wybodaeth ddiogelwch briodol i gontractwyr am y safle perthnasol a lleoliad peryglon posibl
 - cynnal perthynas effeithiol gyda chontractwyr i gefnogi gwaith y sefydliad a'u galluogi i fodloni eu hamcanion
 - monitro gwaith contractwyr ar adegau addas i bennu cynnydd tuag at amcanion
 - cynnig adborth priodol i gontractwyr ar eu gwaith ac annog arfer da a chynnyddu ysgogiad
 - nodi a chofnodi gwyriadau o'r rhaglen a chymryd y camau priodol
 ailddiffinio canlyniadau contract lle mae monitro yn nodi bod hyn yn angenrheidiol
cyfathrebu amrywiadau i'r contractwr yn gywir a heb oedi
- datrys unrhyw anghydfodau yn brydlon ac yn unol ag amodau'r contract
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gwaith y mae'r contractwr o dan gontract i'w gyflawni a'r amcanion y mae disgwyl iddynt eu cyflawni
pwy sydd yn cyflenwi beth o ran adnoddau, contractwr neu sefydliad
- y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gweithdrefnau sefydliadol sydd yn berthnasol
 - y wybodaeth y bydd ei hangen ar gontractwyr i'w galluogi i weithio'n effeithiol a phwysigrwydd cyfrinachedd
 - y cymorth ychwanegol a'r cyfleusterau y gall contractwyr fod eu hangen sy'n berthnasol i gyd-destun eich diwydiant
 - eich rôl yn cefnogi contractwyr a phwysigrwydd sefydlu a chynnal perthynas waith dda
 - dulliau o fonitro cyflawni'r gwaith contract
 - sut i roi adborth adeiladol i gontractwyr a pherthynas hyn â chyflawni canlyniadau ac ysgogi contractwyr
 - effaith ffactorau allanol ar gyflawni contractau, fel y tywydd, yr amser o'r flwyddyn, cyfnodau cynhyrchu ac ati
 - y problemau posibl allai ddigwydd a'r camau priodol i'w cymryd
 - sut i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw gŵynion gan y rheiny a allai gael eu heffeithio gan waith contractwyr
 - sut i ailddiffinio canlyniadau contract a phwy ddylai fod yn gysylltiedig â hyn
 - dangosyddion amrywiadau o'r contract a'r camau y dylech eu cymryd
 - y math o anghydfodau a allai godi mewn perthynas ag ansawdd y gwaith, y cymorth a ddarperir, amserlennu a thaliadau, a sut dylid ymdrin â'r rhain
 - pwysigrwydd atebolrwydd, bod yn agored ac uniondeb wrth reoli gwaith contract