Darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach
URN: LANCS80
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Awst 2015
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach. Mae'n ymwneud â sicrhau bod yr ardal yr ydych yn gyfrifol amdani yn amgylchedd diogel ac iach ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yno ac ar gyfer y rheiny sy'n ymweld. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â sicrhau asedau yn yr ardal waith.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am ardal waith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd personol yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau sefydliadol
- sicrhau bod polisi'r sefydliad ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael ei gyfathrebu'n glir i bawb o fewn eich maes cyfrifoldeb a phartïon perthnasol eraill
- sicrhau bod system wedi ei sefydlu ar gyfer nodi ac asesu risg i iechyd, diogelwch a diogeledd o fewn eich maes cyfrifoldeb a bod camau prydlon ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddileu neu reoli peryglon a risg a nodir
- sicrhau bod ymgynghori rheolaidd yn digwydd gyda phobl o fewn eich maes cyfrifoldeb, neu eu cynrychiolydd, yn ymwneud â materion iechyd, diogelwch a diogeledd ac wrth ddylunio neu adolygu amgylcheddau ac arferion gwaith
- sicrhau bod gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael eu sefydlu yn eich maes cyfrifoldeb chi
- sicrhau bod y rheiny sydd yn mynd i mewn i'r ardal waith yn ymwybodol o'r gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd yn y ffordd fwyaf priodol
- sicrhau bod effeithiolrwydd gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael ei fonitro a'i adolygu'n barhaus
- gweithredu o fewn eich maes cyfrifoldeb chi i wneud gwelliannau
- sicrhau bod systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd, diogelwch a diogeledd o fewn eich maes cyfrifoldeb yn cael eu defnyddio
- ceisio a gwneud defnydd o arbenigedd lle bo angen
- cymryd cyfrifoldeb am ddigwyddiadau ac argyfyngau ac ymateb yn gyflym gyda chamau gweithredu arfaethedig
- datblygu diwylliant o fewn eich maes cyfrifoldeb sydd yn rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd personol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd yn unol â deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
- polisi'r sefydliad ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd a'r ffordd y caiff ei gyfathrebu i bobl sydd yn gweithio i'r sefydliad, ac i bartïon eraill perthnasol o fewn eich maes cyfrifoldeb chi
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i'r diwydiant neu'r sector, yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd
- risg, materion a datblygiadau iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn benodol i'r diwydiant neu'r sector
- sut i ddilyn y materion allweddol yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich diwydiant neu sector
- y math o beryglon a'r risg a allai godi – sut i sefydlu a defnyddio systemau ar gyfer nodi peryglon ac asesu risg a'r mathau o gamau y dylid eu cymryd i'w dileu neu eu rheoli
- nodweddion allweddol gweithdrefnau effeithiol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd a pham maent yn bwysig
- sut i gyfathrebu gweithdrefnau ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd i bobl sydd yn gweithio o fewn eich maes cyfrifoldeb neu'n dod i mewn iddo
- pwysigrwydd gosod esiampl dda i eraill mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
- sut i ddefnyddio systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd a diogelwch yn eich maes cyfrifoldeb chi
- ffynonellau arbenigedd mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
- gweithdrefnau ar gyfer trin ac adrodd ynghylch digwyddiadau ac argyfyngau
- ffyrdd o ddatblygu diwylliant yn eich maes cyfrifoldeb sydd yn rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**partïon perthnasol** - e.e. contractwyr; cwsmeriaid; cyflenwyr; ymwelwyr
diogeledd - e.e. personél; stoc; adnoddau; gwybodaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Awst 2020
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCU122
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermio Pysgod
Cod SOC
9111
Geiriau Allweddol
iechyd; diogelwch; diogeledd