Darparu amgylchedd gwaith diogel, iach a chadarn

URN: LANCS80
Sectorau Busnes (Suites): Dyframaethu,Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Awst 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys darparu amgylchedd gwaith diogel, iach a chadarn. Mae'n ymwneud â sicrhau bod yr ardal yr ydych yn gyfrifol amdani yn amgylchedd diogel ac iach ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio yno ac ar gyfer y rheiny sydd yn ymweld. Mae'r safon hefyd yn ymwneud â sicrhau diogeledd asedau yn yr ardal waith.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am ardal waith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd personol yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau sefydliad

  2. sicrhau bod polisi'r sefydliad ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd wedi ei gyfathrebu'n glir i'r holl bobl yn eich maes cyfrifoldeb a phartïon perthnasol eraill

  3. sicrhau bod system wedi ei sefydlu ar gyfer nodi ac asesu risg i iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich maes cyfrifoldeb a bod camau prydlon ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddileu neu reoli peryglon a risg a nodir
  4. sicrhau bod ymgynghori rheolaidd yn digwydd gyda phobl yn eich maes cyfrifoldeb, neu eu cynrychiolydd, ar faterion iechyd, diogelwch a diogeledd ac wrth ddylunio neu adolygu amgylcheddau ac arferion gweithio
  5. sicrhau bod gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael eu rhoi ar waith yn eich maes cyfrifoldeb
  6. sicrhau bod y rheiny sydd yn mynd i mewn i'r ardal waith yn ymwybodol o'r gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd yn y ffordd fwyaf priodol
  7. sicrhau bod effeithiolrwydd gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael ei fonitro a'i adolygu'n barhaus
  8. gweithredu o fewn eich maes cyfrifoldeb i wneud gwelliannau

  9. sicrhau bod systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich maes cyfrifoldeb yn cael eu defnyddio

  10. ceisio a gwneud defnydd o arbenigedd lle bo angen
  11. cymryd cyfrifoldeb dros ddigwyddiadau ac argyfyngau ac ymateb yn gyflym gyda cham gweithredu arfaethedig
  12. datblygu diwylliant o fewn eich maes cyfrifoldeb sydd yn rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol

  2. polisi'r sefydliad ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd â'r ffordd y mae'n cael ei gyfathrebu i bobl sydd yn gweithio i'r sefydliad, ac i bartïon perthnasol eraill yn eich maes cyfrifoldeb

  3. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i ddiwydiant neu sector, yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd
  4. iechyd, diogelwch a risg o ran diogeledd, materion a datblygiadau sydd yn benodol i'r diwydiant neu'r sector.
  5. sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion allweddol yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich diwydiant neu sector
  6. y math o beryglon a risgiau a allai godi – sut i sefydlu a defnyddio systemau ar gyfer nodi peryglon ac asesu risg â'r math o gamau y dylid eu cymryd i'w dileu neu eu rheoli.
  7. prif nodweddion gweithdrefnau effeithiol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd a pham y maent yn bwysig
  8. sut i gyfathrebu gweithdrefnau ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd i bobl sydd yn gweithio yn eich maes cyfrifoldeb, neu'n dod i mewn iddo.
  9. pwysigrwydd gosod esiampl dda i eraill mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
  10. sut i ddefnyddio systemau ar gyfer monitro, mesur ac adrodd ar berfformiad iechyd a diogelwch yn eich maes cyfrifoldeb.
  11. ffynonellau arbenigedd mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd
  12. gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau ac adrodd amdanynt
  13. ffyrdd o ddatblygu diwylliant yn eich maes cyfrifoldeb sydd yn rhoi iechyd, diogelwch a diogeledd yn gyntaf.

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

partïon perthnasol - e.e. contractwyr; cwsmeriaid; cyflenwyr; ymwelwyr

diogeledd - e.e. personél; stoc; adnoddau; gwybodaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU122

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermio Pysgod

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

iechyd; diogelwch; diogeledd