Rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd trwy saethu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd trwy saethu. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau gwaith rydych chi’n ymgymryd â nhw i reoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd gan ddefnyddio arf tanio.
I fodloni’r safon hon, byddwch chi’n gallu:
• nodi presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd (mamaliaid neu adar)
• saethu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd yn gyfreithlon ac yn ddiogel.
Wrth ddefnyddio arfau tanio, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich hyfforddi’n llawn ar eu defnyddio a’u diogelwch a rhaid bod gennych drwydded dryll/arf tanio berthnasol, a thrwyddedau eraill y gall y gyfraith ofyn amdanynt.
Rhaid i holl ddefnyddwyr cyfarpar delweddu thermol neu weld yn y nos allu eu defnyddio’u hyderus ac yn gymwys cyn tanio byw. Mae hyfforddiant ymgyfarwyddo mewn amgylchedd rheoledig yn cael ei argymell.
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd trwy saethu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal y gweithgarwch yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch ac asesiadau risg perthnasol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- defnyddio’r dulliau perthnasol i fonitro a dehongli arwyddion i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- addasu gweithgareddau monitro i gyfrif am amrywiadau tymhorol, amodau tywydd presennol a chynefin
- adnabod rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd cyffredin
- pennu pryd mai saethu fyddai’r dull gweithredu gorau i ddelio â phlâu ac ysglyfaethwyr, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad ar hel mamaliaid ac adar
- gwirio a oes angen trwydded penodol i rywogaeth a chadarnhau ei bod ar waith
- dewis y dull saethu, yr arf tanio a’r bwledi sy’n briodol i’r rhywogaeth pla ac ysglyfaethwr fertebraidd, nodweddion y safle ac yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer presennol penodol i wlad
- gwirio arfau tanio a chydrannau cyn eu defnyddio a chadarnhau eu bod yn gweithio
- cludo, cario a pharatoi’r arf tanio a’r bwledi yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer arfau tanio
- cyflawni gweithdrefnau llwytho a dadlwytho diogel
- nodi rhywogaethau targed gan ddefnyddio cymhorthion, lle bo’r gofyn
- pennu ystod effeithiol fwyaf yr arf tanio, yn ôl y fwled a ddefnyddir a’r rhywogaeth darged
- trin yr arf tanio yn ddiogel ac yn effeithiol bob amser, yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
- anelu a thanio’r arf tanio yn effeithiol ac yn ddiogel i saethu’r targed
- lleihau’r tarfu ar rywogaethau nad ydynt yn darged
- lladd plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd sydd wedi’u niweidio heb iddynt ddioddef, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- gwaredu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd marw yn gywir, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- datgymalu'r arf tanio a’i rhoi at ei gilydd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ac arfer gweithio diogel
- glanhau, cynnal a chadw a storio’r arf tanio a’r bwledi ar ôl eu defnyddio, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- cynnal cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a’r risgiau sy’n gysylltiedig â monitro a saethu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd, gan gynnwys peryglon gweithio ar eich pen eich hun
- eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol a chadwraeth berthnasol yn gysylltiedig â monitro a rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y dylid eu gwisgo
- y rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr sy’n dod o dan ofynion penodol i wlad am drwyddedau cyffredinol, pryd mae angen trwydded penodol i rywogaeth a sut i wneud cais am y rhain
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth ar arfau tanio a’r defnydd ohonynt yn gysylltiedig â saethu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- pwysigrwydd gwirio arfau tanio a’u cydrannau cyn eu defnyddio a dilyn amserlen cynnal a chadw yn rheolaidd
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio, cludiant a symud arfau tanio a bwledi
- cymhwysiad effeithiol a chyrhaeddiad arfau tanio a bwledi
- sut i ddewis y bwledi cywir a’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer presennol penodol i wlad ynghylch defnyddio gwahanol fathau o fwledi, a beth arall y dylid ei ystyried
- y rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd cyffredin a sut i adnabod a dehongli arwyddion i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr
- sut i adnabod rhywogaethau targed, rhywogaethau nad ydynt yn darged a rhywogaethau gwarchodedig
- y dulliau o fonitro presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd, gan gynnwys defnyddio technoleg
- effeithiau’r tymhorau ac amodau’r tywydd ar fonitro poblogaethau plâu ac ysglyfaethwyr a sut y gellir addasu dulliau i gyfrif am y newidiadau hyn
- arwyddocâd ac effeithiau posibl presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd ar y safle a’i ddiben, ac ar boblogaethau anifeiliaid a phlanhigion
- nodweddion ymddygiadol plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd a sut gall y rhain ddylanwadu ar effeithiolrwydd y dull saethu a ddewiswyd
- sut i saethu rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr, yn adar ac yn famaliaid, yn effeithiol ac yn ddiogel, gan gyfrif am gyrhaeddiad absoliwt
- pryd y daw saethu yn anniogel a rhaid rhoi’r gorau iddo
- pryd mae saethu gyda’r nos yn briodol, y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol penodol i wlad sy’n rheoli’r defnydd ohono a’r cymhorthion y gellir eu defnyddio i’w gynorthwyo
- sut i leihau effaith saethu ar rywogaethau nad ydynt yn darged
- sut i ladd gwahanol rywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd heb iddynt ddioddef
- sut i waredu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd sydd wedi’u lladd yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- sut i leihau peryglon clefyd wrth drin anifeiliaid marw
- sut i dynnu arfau tanio ar led a’u rhoi at ei gilydd
- sut i lanhau, archwilio a chynnal a chadw arfau tanio a pham mae hyn yn bwysig
- y gofynion ar gyfer cynnal cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr cywir a chyfredol
Cwmpas/ystod
Dehongli o leiaf bump o’r arwyddion canlynol i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr:
• eu gweld yn uniongyrchol
• rhediadau
• olion troed
• difrod i gynefin
• anifeiliaid marw
• lladdiadau
• seiniau
• arogleuon
• tail
Adnabod rhywogaethau targed, rhywogaethau nad ydynt yn darged a rhywogaethau gwarchodedig:
• mamaliaid
• adar
Dewis dull saethu i gyfrif am:
• y math o bla ac ysglyfaethwr
• nodweddion y lleoliad saethu (topograffeg, cynefin, gweithgarwch arall yr ardal, mynediad i’r cyhoedd)
• eich diogelwch eich hun a diogelwch cyfranogwyr eraill a’r cyhoedd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arfau tanio – dryll a/neu reiffl
Plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd – gallai enghreifftiau nad ydynt yn ddi-ben-draw gynnwys: cwningod, carlymod, gwencïod, gwiwerod llwyd, cadnoid, brain, piod, mincod, llygod mawr