Rheoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn gan ddefnyddio trapiau

URN: LANCS78
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â thrapio plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i reoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn gan ddefnyddio trapiau. Mae wedi ei anelu at y rheiny sydd yn gweithio ym maes rheoli bywyd gwyllt.

Er mwyn bodloni’r safon hon byddwch yn gallu nodi presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn (mamaliaid neu adar) a datblygu a gweithredu cyfundrefn drapio gan ddefnyddio dulliau cyfreithlon i’w rheoli. 

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n defnyddio trapiau i reoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud y gweithgaredd yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol
  3. defnyddio dulliau perthnasol i fonitro a dehongli arwyddion i bennu gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
  4. addasu gweithgareddau monitro i ystyried amrywiadau tymhorol, y tywydd a chynefin
  5. adnabod y rhywogaethau cyffredin o blâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
  6. nodi presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
  7. pennu pryd byddai trapio yn ddewis gorau i ymdrin â phlau ac ysglyfaethwyr, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad ar gymryd mamaliaid ac adar
  8. gwirio a oes angen trwydded sy’n benodol i rywogaeth a chadarnhau ei bod yn ei lle
  9. datblygu cyfundrefn o drapio i reoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
  10. dewis dull o drapio sy’n briodol i’r rhywogaeth o bla ac ysglyfaethwr asgwrn cefn, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad ar ddefnyddio mathau gwahanol o drapiau a maglau a'r gofynion ar gyfer hyfforddiant neu ardystiad
  11. gwirio a chadarnhau bod y trapiau dethol yn gweithio’n iawn 
  12. sefydlu trapiau mewn lleoliadau addas er mwyn dal rhywogaethau o blâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn sydd yn cael eu targedu yn effeithiol ac i leihau’r effaith ar rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
  13. defnyddio dulliau perthnasol i fonitro trapiau 
  14. cynnal y trapiau yn unol â’r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad, gan wirio gweithrediad, bwydo a dyfrio
  15. mynd at y plâu a'r ysglyfaethwyr asgwrn cefn sydd wedi eu trapio mewn ffordd sydd yn cynnal eich diogelwch personol
  16. lladd plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn sydd wedi eu trapio yn ddyngarol yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad
  17. rhyddhau rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu yn ôl i’r gwyllt mewn ffordd sydd yn hybu eu hiechyd a'u lles ac sydd yn cyd-fynd â’r gofynion cyfreithiol perthnasol

  18. gwaredu plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn marw yn gywir, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad
  19. cadw cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr, yn unol â’r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad 



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â monitro a thrapio plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn, yn cynnwys peryglon gweithio unigol
  2. y dillad a’r cyfarpar diogelu personol y dylid eu gwisgo 
  3. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad sy’n rheoli’r defnydd o fathau gwahanol o drapiau a maglau 
  4. sut i ddewis trapiau addas a phryd y gallai fod angen hyfforddiant neu ardystiad wrth ddefnyddio trapiau penodol, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad 
  5. y rhywogaethau o blâu ac ysglyfaethwyr sydd wedi eu cynnwys gan ofynion sy’n benodol i wlad ar gyfer trwyddedau cyffredinol, pryd mae angen trwydded sy’n benodol i rywogaeth a sut i wneud cais am y rhain
  6. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol a chadwraeth berthnasol mewn perthynas â monitro a rheoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
  7. y rhywogaethau cyffredin o blâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn a sut i adnabod a dehongli arwyddion i bennu gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr
  8. y dulliau o fonitro presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
  9. arwyddocâd ac effeithiau posibl gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn i’r safle a’i ddiben, yn ogystal ag ar boblogaethau anifeiliaid a phlanhigion
  10. nodweddion ymddygiadol plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn a sut gellir defnyddio’r rhain wrth ddewis cyfundrefn drapio
  11. effeithiau’r tymhorau a’r tywydd ar fonitro poblogaethau plâu ac ysglyfaethwyr a sut gellir addasu dulliau i roi cyfrif am y newidiadau hyn
  12. sut i nodi rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu yn yr ardal drapio 
  13. sut i gyfyngu ar effaith trapio ar rywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu
  14. y dulliau trapio a’u gweithrediad cywir, yn cynnwys sut i osod trapiau gan roi sylw dyledus i bresenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn cael eu targedu ac aelodau’r cyhoedd yn yr ardal drapio
  15. sut i gynnal cyflwr yr abwyd byw, lle y bo’n briodol
  16. sut i ladd rhywogaethau gwahanol o blâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn yn ddyngarol
  17. sut i waredu plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn sydd wedi eu lladd yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n benodol i wlad
  18. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer sy’n benodol i wlad yn ymwneud â rhyddhau anifeiliaid sydd wedi eu trapio 
  19. y dulliau o ryddhau rhywogaethau gwahanol sydd wedi eu targedu mewn ffordd sydd yn hybu eu hiechyd a'u lles
  20. sut i leihau peryglon clefydau neu anaf personol a achosir gan ymdrin ag anifeiliaid wedi eu trapio
  21. y gofynion ar gyfer cadw cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr cywir ac wedi eu diweddaru


Cwmpas/ystod


Dehongli o leiaf pump o’r arwyddion canlynol i bennu gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr:
gweld yn uniongyrchol
rhedfeydd
olion traed
niwed i gynefin
anifeiliaid marw
lladdedigaethau
synau
arogleuon
tail

Sefydlu, monitro a chynnal dau o’r trapiau canlynol:
sbring
wedi ei bweru â CO2
cawell
magl


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS78

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

9119

Geiriau Allweddol

pla; ysglyfaethwr; asgwrn cefn; trap