Rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd gan ddefnyddio trapiau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thrapio plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd. Mae’n gysylltiedig â’r gweithgareddau gwaith a wnewch i reoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd gan ddefnyddio trapiau. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon, byddwch yn gallu adnabod presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd (mamaliaid neu adar) a datblygu a gweithredu cyfundrefn drapio gan ddefnyddio dulliau cyfreithiol i’w rheoli.
Wrth ddefnyddio trapiau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n llawn ar eu defnyddio a diogelwch, a dal tystysgrifau perthnasol, lle bo gofyn.
Mae’r safon hon ar gyfer y bobl sy’n defnyddio trapiau i reoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal y gweithgarwch yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch ac asesiadau risg perthnasol
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn enwedig wrth drin anifeiliaid byw neu farw
- defnyddio dulliau perthnasol i fonitro a dehongli arwyddion i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- addasu gweithgareddau monitro i gyfrif am amrywiadau tymhorol, amodau tywydd presennol a chynefin
- adnabod rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd cyffredin
- adnabod presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn darged
- pennu ai trapio fyddai’r dull gweithredu gorau i ddelio â phlâu ac ysglyfaethwyr, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad ar hel mamaliaid ac adar
- gwirio a oes angen trwydded penodol i rywogaeth a chadarnhau ei bod ar waith
- datblygu cyfundrefn drapio i reoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- dewis dull trapio sy’n briodol i’r rhywogaeth pla ac ysglyfaethwr fertebraidd, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad ar ddefnyddio gwahanol fathau o drapiau a maglau a’r gofynion am hyfforddiant neu dystysgrif
- gwirio a chadarnhau bod y trapiau a ddewiswyd mewn cyflwr da ac yn gweithio
- sefydlu trapiau mewn lleoliadau addas i ddal rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd targed yn effeithiol ac i leihau’r effaith ar rywogaethau nad ydynt yn darged
- defnyddio dulliau perthnasol i fonitro trapiau
- cynnal trapiau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad, gan wirio gweithrediad y trapiau, bwydo a dyfrhau
- mynd at blâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd sydd wedi’u trapio, mewn ffordd sy’n cynnal eich diogelwch personol
- lladd plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd wedi’u trapio heb iddynt ddioddef, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- rhyddhau rhywogaethau nad ydynt yn darged yn ôl i’r gwyllt mewn ffordd sy’n hybu’u hiechyd a’u lles ac sy’n gyson â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwaredu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd marw yn gywir, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- cynnal cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol penodol i wlad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a’r risgiau sy’n gysylltiedig â monitro a thrapio plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd, gan gynnwys peryglon gweithio ar eich pen eich hun
- y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) y dylid eu gwisgo
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol penodol i wlad sy’n rheoli’r defnydd o wahanol fathau o drapiau a maglau
- sut i ddewis trapiau addas a phryd y gall fod angen hyfforddiant neu dystysgrifau ar gyfer defnyddio trapiau penodol, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- y rhywogaeth plâu ac ysglyfaethwyr sy’n dod o dan ofynion penodol i wlad am drwyddedau cyffredinol, pryd mae angen trwydded penodol i rywogaeth a sut i wneud cais am y rhain
- eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth amgylcheddol a chadwriaethol berthnasol yn gysylltiedig â monitro a rheoli plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd
- y rhywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd cyffredin a sut i adnabod a dehongli arwyddion i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr
- y dulliau ar gyfer monitro presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd, gan gynnwys defnyddio technoleg
- arwyddocâd ac effeithiau posibl plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd i’r safle a’i ddiben, yn ogystal ag ar boblogaethau anifeiliaid a phlanhigion
- nodweddion ymddygiadol plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd a sut gellir defnyddio’r rhain wrth ddewis cyfundrefn drapio
- effeithiau’r tymhorau ac amodau’r tywydd ar fonitro poblogaethau plâu ac ysglyfaethwyr a sut gellir addasu dulliau i gyfrif am y newidiadau hyn
- sut i adnabod rhywogaethau nad ydynt yn darged yn yr ardal drapio
- sut i gyfyngu ar effaith trapio ar rywogaethau nad ydynt yn darged
- y dulliau trapio a’u gweithredu’n gywir, gan gynnwys sut i osod trapiau gan ystyried yn briodol bresenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn darged ac aelodau’r cyhoedd yn yr ardal drapio
- sut i wirio a chynnal cyflwr trapiau a phwysigrwydd gwiriadau rheolaidd yn unol ag amserlen cynnal a chadw trapiau
- sut i gynnal cyflwr yr abwyd byw, lle y bo’n briodol
- sut i ladd gwahanol rywogaethau plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd heb iddynt ddioddef
- sut i waredu plâu ac ysglyfaethwyr fertebraidd sydd wedi’u lladd yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer penodol i wlad
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer penodol i wlad sy’n gysylltiedig â rhyddhau anifeiliaid wedi’u trapio
- y dulliau o ryddhau gwahanol rywogaethau nad ydynt yn darged yn ddiogel, mewn ffordd sy’n hybu’u hiechyd a’u lles
- sut i leihau peryglon clefyd neu anaf personol wedi’u hachosi gan drin anifeiliaid sydd wedi’u trapio
- y gofynion ar gyfer cynnal cofnodion rheoli plâu ac ysglyfaethwyr cywir a chyfredol
Cwmpas/ystod
Dehongli o leiaf bump o’r arwyddion canlynol i bennu gweithgarwch plâu ac ysglyfaethwyr:
• eu gweld yn uniongyrchol
• rhediadau
• olion troed
• difrod i gynefin
• anifeiliaid marw
• lladdiadau
• seiniau
• arogleuon
• tail
Sefydlu, monitro a chynnal dau o’r trapiau canlynol:
• sbring
• wedi’u pweru â CO2
• caets
• magl