Rheoli a monitro newid
URN: LANCS77
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2014
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli a monitro newid. Mae angen i bob busnes fynd trwy newid ar adegau ac mae'n bwysig bod newid yn cael ei reoli yn y ffordd iawn.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn gyfrifol am reoli a monitro newid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfathrebu cynlluniau ar gyfer newid yn glir ac yn rhesymegol
- sicrhau bod cyfathrebu yn cynnwys y diben dros y newid a sut bydd yn effeithio ar y busnes, unigolion a thimau
- annog pobl i gyfrannu at y cynlluniau ar gyfer newid
- addasu a thrafod newidiadau i gynlluniau lle bo angen, tra'n parhau i ganolbwyntio ar y weledigaeth â'r nodau ar gyfer newid
- rheoli newid, darparu gwybodaeth, cymorth ac ysgogiad i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio
- nodi a datrys problemau yn ystod y broses newid
- monitro a gwerthuso'r broses newid
- darparu adborth i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r newid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
diben, buddion a risg newid i fusnesau, unigolion a thimau
diben cael gweledigaeth a nodau ar gyfer newid a chynllun ar gyfer eu gweithredu
- pwysigrwydd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a'u cynnwys yn y newid a'u hannog i gyfrannu at y broses newid
- sut i reoli effaith newid i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- goblygiadau newid i brosesau a seilwaith busnes
- effaith newid ar dimau ac unigolion, a goblygiadau hyn i rolau a chyfrifoldebau
- wrth hyfforddi, byddai mentora neu hyfforddiant yn cynorthwyo'r broses newid
- sut mae pobl yn ymateb i newid a chyfnodau adwaith
- diben a buddion gallu addasu yn ystod y broses newid ac i fod yn barod i aildrafod cynlluniau
- y mathau o broblemau a allai godi yn ystod y broses newid a sut i ymateb i'r rhain
- pwysigrwydd caniatáu amser i'r newid sefydlu
- diben a buddion monitro a gwerthuso'r broses newid a sut i wneud defnydd o ganlyniadau gwerthusiad
- diben a buddion rhoi adborth i'r rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r newid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2019
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANCS77
Galwedigaethau Perthnasol
Gofal anifeiliaid, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid
Cod SOC
9111
Geiriau Allweddol
busnes, tîm, newid