Trefnu rheolaeth rhywogaethau ymledol neu niweidiol

URN: LANCS76
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Gwaith coed,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys trefnu rheolaeth rhywogaethau ymledol neu niweidiol gan ddefnyddio nifer o dechnegau.

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r egwyddorion a'r gweithdrefnau sylfaenol sydd yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau cywir ynghylch sut i reoli rhywogaethau (naill ai ffawna neu fflora) ar draws pob amgylchedd: daearol, dŵr croyw, arfordirol a morol. Gellir ei gymhwyso i rywogaethau cynhenid ac nad ydynt yn gynhenid (h.y. rhywogaethau estron), yn ogystal â rhywogaethau niweidiol sydd yn ymledol neu nad ydynt yn ymledol.

Mae ystod o dechnegau ac offer yn angenrheidiol ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol. Gall y technegau gynnwys ataliaeth, monitro, rheoli a dileu.

Bydd angen i chi sicrhau bod y rheiny sydd yn gweithio gyda chemegion neu beiriannau wedi eu hyfforddi'n briodol yn unol â deddfwriaeth bresennol, ac yn meddu ar yr ardystiad perthnasol lle y bo'n briodol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am reoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol ar safleoedd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. egluro diben, cwmpas ac amcanion y gweithgaredd rheoli ar gyfer rhywogaethau ymledol neu niweidiol
  2. cadarnhau adnabod y rhywogaethau
  3. asesu costau, risg ac effeithiolrwydd tebygol y gweithgaredd sydd wedi ei gynllunio

  4. cyfathrebu cynlluniau yn glir i'r rheiny y mae angen eu hysbysu

  5. sicrhau bod asesiad risg o'r safle yn cael ei gynnal cyn dechrau gwaith
  6. sicrhau bod asesiad risg bioddiogelwch o'r safle yn cael ei gynnal cyn dechrau gwaith
  7. sicrhau bod cyfarpar ac adnoddau ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol amrywiol yn briodol ac yn cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gywir
  8. sefydlu mesurau i gynnal hylendid a bioddiogelwch safle a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal
  9. sicrhau bod cynlluniau wrth gefn effeithiol wedi eu sefydlu a bod adnoddau i; atal sefydlu, rheoli (lleihau), dileu neu fonitro'r rhywogaethau ymledol cynhenid neu nad ydynt yn gynhenid
  10. trefnu adnoddau digonol i gynnal y gweithgaredd rheoli
  11. cael cymorth gan asiantaethau a'r cyhoeddu ar gyfer y gweithgaredd rheoli
  12. cael mynediad i ffynonellau gwybodaeth perthnasol ar gyfer y gweithgaredd rheoli
  13. egluro unrhyw gyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol sydd wedi eu sefydlu
  14. nodi a chael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau angenrheidiol
  15. cofnodi gwybodaeth berthnasol a'i rhoi i'r unigolion priodol
  16. sicrhau bod rhywogaethau ymledol neu niweidiol yn cael eu trin a'u rheoli'n briodol i atal lledaeniad neu niwed annymunol
  17. atal naill ai cyflwyno rhywogaethau ymledol yn fwriadol neu'n anfwriadol
  18. rheoli gweithgareddau mewn ffordd sydd yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd cyfagos
  19. dilyn protocolau, codau ymddygiad a deddfwriaeth berthnasol
  20. cydnabod terfynau eich arbenigedd a chael cyngor lle bo angen
  21. sicrhau bod dulliau gwaith yn hybu iechyd a diogelwch ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. diben, cwmpas ac amcanion y gweithgaredd rheoli
  2. hyfywedd rheoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol yn erbyn pwysau ecolegol, economaidd ac ariannol yn y dyfodol
  3. pa risg y mae'r safle'n ei gyflwyno i'r amgylchedd ehangach a'r ffordd y gall yr amgylchedd ehangach effeithio ar y safle
  4. yr unigolion, y grwpiau a'r sefydliadau perthnasol y mae angen eu hysbysu am eich cynlluniau
  5. y cyfarpar a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol
  6. y dulliau atal, rheoli neu oruchwylio a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd gwahanol
  7. dulliau o gynnal hylendid safle a hylendid personol a'r rhesymau pam y mae'r rhain yn bwysig
  8. dulliau o gynnal bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae'n bwysig i atal rhywogaethau ymledol neu niweidiol rhag cael eu mewnforio, eu lledaenu neu eu symud oddi ar y safle
  9. pwysigrwydd sefydlu cynlluniau wrth gefn y gellir darparu adnoddau digonol ar eu cyfer am hyd digonol i reoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol
  10. y ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i gynorthwyo'r gwaith o reoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol
  11. goblygiadau cyfyngiadau neu ddynodiadau safle perthnasol
  12. sut i gael unrhyw ganiatâd, cydsyniadau neu drwyddedau perthnasol ar gyfer cynnal y gweithgaredd
  13. y ffordd y gallai'r lleoliad, defnydd presennol o'r safle neu ei ddefnydd yn y gorffennol, ddylanwadu ar y rhywogaethau sy'n debygol o fod yn bresennol
  14. y rhywogaethau ymledol blaenoriaeth uchel a geir yn y DU ar hyn o bryd
  15. y rhywogaethau ymledol neu niweidiol sydd yn flaenoriaeth ar gyfer y safle
  16. y rhywogaethau sydd yn debygol o gael eu canfod mewn mathau gwahanol o gynefin, eu synau, olion, llwybrau a'u harwyddion
  17. nodweddion diagnostig y prif deuluoedd cynrychioliadol mewn       grŵp dosbarth
  18. y ffordd y bydd yr amser o'r flwyddyn yn effeithio ar bresenoldeb a rheolaeth rhywogaethau ymledol neu niweidiol
  19. effaith rhywogaethau ymledol neu niweidiol, y ffordd y maent yn gallu lledaenu a'r niwed i'r amgylchedd, strwythurau neu arwynebau cyfagos

  20. pwysigrwydd atal naill ai cyflwyno rhywogaethau ymledol neu niweidiol yn fwriadol neu'n anfwriadol

  21. arferion gwaith diogel ar gyfer trin neu reoli rhywogaethau ymledol neu niweidiol a pheryglon rhywogaethau gwenwynig
  22. sut i gofnodi manylion perthnasol a'r asiantaethau priodol i roi'r cofnodion iddynt
  23. terfynau eich arbenigedd a ble i gael cyngor
  24. effaith bosibl eich gweithgareddau ar yr amgylchedd a sut i leihau hyn
  25. pwysigrwydd atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant indemnedd proffesiynol
  26. protocolau, codau ymddygiad a deddfwriaeth berthnasol
  27. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  28. y materion a allai ddylanwadu ar ddibynadwyedd a chywirdeb adnabod rhywogaethau yn gywir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae rhywogaethau a geir mewn ecosystemau daearol, dŵr croyw, arfordirol a morol yn cynnwys:

  • Algâu, yn cynnwys gwymon
  • Ffwng
  • Planhigion, yn amrywio o fwsogl a llysiau’r afu ‘gradd is’ i borfeydd a choed
  • Anifeiliaid di-asgwrn-cefn
  • Amffibiaid ac ymlusgiaid
  • Adar
  • Anifeiliaid ag asgwrn cefn, yn cynnwys mamaliaid
  • Bacteria


Gall gweithgareddau rheoli gynnwys:

  • Arolwg: gweithgaredd untro i gasglu data ar gyfer diben wedi ei ragnodi e.e. arolwg llinell sylfaen

  • Gwyliadwriaeth: arolwg dro ar ôl tro yn datblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ond nad yw’n ennyn gweithredu

  • Monitro: arsylwadau dro ar ôl tro yn datblygu darlun sydd yn gallu canfod newid ac yn ennyn gweithredu

  • Cyfyngiant: cadw rhywogaethau o fewn rhwystrau rhanbarthol, neu, mewn termau mwy caeth, atal lefelau poblogaeth rhywogaethau ymledol i fod islaw trothwy derbyniol

  • Dileu: dileu poblogaeth gyfan o rywogaethau ymledol penodol, a chwmpasu holl gyfnodau ei fywyd

  • Rheoli: gostyngiad hirdymor rhywogaeth ymledol o ran dwysedd ac amlder i fod islaw trothwy derbyniol wedi ei nodi ymlaen llaw

  • Lleddfu effeithiau rhywogaethau ymledol: canfod y ffyrdd gorau o “fyw gydag ef.”


Mae’r effeithiau y mae rhywogaethau ymledol a niweidiol yn eu cael ar yr amgylchedd naturiol, strwythurau ac arwynebau a phobl yn cynnwys:

  • Goddiweddyd

  • Rheoli

  • Erydu

  • Colli pridd

  • Rhwystrau dŵr

  • Gwenwyno/gwenwynig

  • Cythruddo


Mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid PF yn cynnal porth gwybodaeth ar gyfer rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid sydd yn bresennol yn y DU. Mae’n cynnwys manylion llawn, effaith a dulliau rheoli ar gyfer mwy na 300 o rywogaethau.

Hefyd ar gael ar Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau nad ydynt yn Gynhenid PF mae cyfleuster chwilio NBN ar gyfer monitro lle gellir canfod rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid yn y DU. Gallwch hefyd gysylltu â chyfleuster cofnodi RICS i gofnodi unrhyw rai sydd newydd gyrraedd a nodi lledaeniad rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid sydd eisoes yn bodoli.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS76

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gofalwr Tir, Gweithiwr Planhigfa, Swyddog Cadwraeth, Swyddog Polisi Amgylcheddol

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

rheoli; cyfyngiant; dileu; ataliaeth; ymledol; nad yw’n ymledol; niweidiol; gwenwynig; rhywogaethau; Canclwm Japan