Prosesu taliadau gan gleientiaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â therfynu'r gwasanaethau a ddarparwyd ar gyfer y cleient. Bydd hyn yn cynnwys prosesu'r taliad ar gyfer y gwasanaethau, a hawliadau yswiriant lle bo'n berthnasol, gan roi mwy o wybodaeth i'r cleient a threfnu mwy o apwyntiadau lle bo angen.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n prosesu taliadau gan gleientiaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 hysbysu’r cleient ynghylch y ffioedd sy’n ddyledus
P2 gwneud unrhyw apwyntiadau dilynol sy’n ofynnol
P3 hysbysu’r cleient ynghylch unrhyw gynnyrch neu wasanaethau ychwanegol a allai fod o werth iddynt
P4 cyfeirio’r cleient at uwch aelod o staff os oes angen cyngor arnynt
P5 esbonio’r dulliau talu a dderbynnir yn eich gweithle
P6 derbyn taliad gan gleientiaid a phrosesu taliadau’n gywir, yn cynnwys hawliadau yswiriant lle bo’n berthnasol
P7 cyfeirio unrhyw broblemau gyda thaliadau sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod i uwch aelod o staff.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid
G2 y ffioedd ar gyfer y gwasanaethau a sut mae’r rhain yn cael eu cyfrifo yn cynnwys costau a threthi a’r rheswm dros bob math o ffi
G3 y dulliau talu sydd ar gael ac unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’u defnyddio
G4 pan fydd cleientiaid wedi eu heithrio rhag talu
G5 sut i brosesu taliadau ac unrhyw ffurflenni perthnasol y mae angen eu llenwi, yn cynnwys hawliadau yswiriant
G6 problemau a allai ddigwydd wrth brosesu taliadau gan gleientiaid a therfynau eich awdurdod i ymdrin â’r rhain e.e. anghytundeb dros bris, anallu i dalu, gofynion credyd
G7 ystod y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan eich gweithle
G8 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau’n ymwneud â phrosesu taliadau.