Derbyn stoc o adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul

URN: LANCS74
Sectorau Busnes (Suites): Gofal a Lles Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys derbyn stoc o adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul.

Mae'r safon hon yn cynnwys gwirio stoc sydd yn cael ei ddosbarthu yn erbyn archebion prynu a nodiadau dosbarthu, a storio stoc.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer staff sydd yn derbyn stoc o adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol

  2. defnyddio arferion diogel â'r cyfarpar diogelu personol priodol pan fo angen

  3. gwirio stoc newydd o adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul a dderbyniwyd yn erbyn archebion prynu a nodiadau dosbarthu, a hysbysu'r bobl berthnasol ynghylch unrhyw anghysondeb
  4. gwirio cyflwr stoc a dderbyniwyd a, lle y bo'n briodol, adrodd am unrhyw eitemau sydd wedi eu niweidio
  5. trafod a chludo eitemau stoc yn gywir, gan ddefnyddio'r y dulliau â'r cyfarpar priodol
  6. sicrhau bod eitemau'n cael eu labelu'n gywir a storio eitemau yn unol â'r wybodaeth becynnu a gweithdrefnau sefydliadol
  7. gwaredu'r pecynnau ac unrhyw stoc neu eitemau sydd wedi eu niweidio neu y tu hwnt i'r terfynau derbyniol ar gyfer eu defnyddio, yn y ffordd â'r lleoliadau priodol
  8. cael mynediad i gofnodion o lefelau stoc a'u diweddaru
  9. gwneud yr holl waith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd â'r defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol priodol

  2. terfynau eich awdurdod eich hun ac wrth bwy y dylech adrodd os oes gennych broblemau na allwch eu datrys

  3. y mathau â'r ystod o adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul a ddefnyddir yn y gweithle, â'r ffordd y mae'n rhaid eu gwirio
  4. pwysigrwydd adnabod yn gywir, ac unrhyw system godio unigryw sydd ar waith yn y gweithle
  5. pwysigrwydd gwirio nodiadau dosbarthu yn erbyn archebion prynu a beth i'w wneud pan fydd anghysondebau neu niwed
  6. yr ystod o amgylcheddau storio a ddefnyddir i storio adnoddau, cyfarpar a defnyddiau traul
  7. sut a pham y mae'n bwysig adnabod deunyddiau neu gemegion na ddylid eu storio gyda'i gilydd
  8. sut i labelu eitemau newydd o stoc yn gywir, a sut i gofnodi'r wybodaeth
  9. ble a sut dylid storio eitemau o stoc i'w cadw'n ddiogel, yn hygyrch ac yn dal yn addas i'w defnyddio
  10. pwysigrwydd cylchdroi stoc
  11. sut i drafod gwastraff neu eitemau stoc sydd wedi eu niweidio, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. pam y mae'n bwysig cadw cofnodion cywir
  13. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r cwmni

Cwmpas/ystod


Ymdrin â gwastraff neu stoc sydd wedi ei niweidio:

  1. dychwelyd 
  2. ailgylchu
  3. gwaredu 
  4. ailddefnyddio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gall gwybodaeth becynnu gynnwys: 

  • rhifau swp
  • taflenni data diogelwch
  • cyfeintiau
  • dyddiadau dod i ben
  • dyddiadau dosbarthu
  • pwysau
  • meintiau
  • labeli perygl

  • cyflwr wrth dderbyn

  • gofynion storio

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS74

Galwedigaethau Perthnasol

Gofal anifeiliaid

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

Stoc; adnoddau; cyfarpar, defnyddiau traul, taflenni data diogelwch, labeli perygl, rhifau swp