Cynnal stociau adnoddau, offer a deunydd traul
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal stociau adnoddau, offer a deunydd traul.
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro lefelau stoc ac archebu stoc yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chytundebau prynu. Mae hefyd yn cynnwys gwirio stoc sy'n cael ei ddosbarthu yn erbyn archebion prynu a nodiadau dosbarthu a storio stoc.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer staff sydd yn cynnal stociau adnoddau, offer a deunydd traul.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P2 defnyddio arferion diogel a chyfarpar diogelwch personol priodol lle bo angen
P3 gwirio stociau adnoddau, offer a deunydd traul yn rheolaidd a chadarnhau eu bod o fewn y lefelau cyn archebu a osodwyd
P4 gwirio’r wybodaeth becynnu ar eitemau stoc unigol, a chadarnhau bod manylion hanfodol o fewn y terfynau derbyniol
P5 gwaredu stoc neu eitemau sydd wedi eu niweidio neu y tu hwnt i’r terfynau derbyniol ar gyfer eu defnyddio, yn y ffordd a’r lleoliadau priodol
P6 adnabod pan fydd angen archebu stoc i gynnal lefelau priodol, gan ganiatáu amser ar gyfer dosbarthu cyn bod angen yr eitem
P7 gwybod o ble y dylid archebu stoc a chwblhau’r dogfennau perthnasol
P8 cael caniatâd ar gyfer yr archeb lle bo angen ac anfon yr archeb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
P9 cael mynediad i gofnodion lefelau stoc a’u diweddaru
P10 gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 pwysigrwydd a’r defnydd cywir o gyfarpar diogelwch personol priodol
G2 terfynau eich awdurdod eich hun a phwy dylech eu hysbysu os oes gennych broblemau na allwch eu datrys
G3 y mathau a’r ystod o adnoddau, offer a deunydd traul a ddefnyddir yn y gweithle, a sut y mae’n rhaid eu gwirio
G4 pwysigrwydd hunaniaeth gywir, ac unrhyw system godio unigryw sydd wedi ei sefydlu
G5 sut i fonitro a chynnal lefelau stoc adnoddau, offer a deunydd traul
G6 pwysigrwydd gwirio gwybodaeth pecynnau’r stoc (fel rhifau llwyth a dyddiadau dod i ben)
G7 sut i drin stoc na ellir ei ddefnyddio neu wedi ei niweidio, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
G8 ble i ddod o hyd i wybodaeth am lefelau ailarchebu stoc
G9 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer archebu stoc, yn cynnwys caniatâd ar gyfer yr archeb
G10 egwyddorion prynu o ffynonellau cynaliadwy, moesegol a lleol
G11 pam y mae’n bwysig cynnal cofnodion cywir ar gyfer adnoddau, offer a deunydd traul
G12 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau’r cwmni
Cwmpas/ystod
Ymdrin â stoc anaddas neu wedi ei niweidio:
1 dychwelyd
2 ailgylchu
3 gwaredu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth becynnu gynnwys:
rhifau llwyth
taflenni data diogelwch
meintiau
dyddiadau dod i ben
dyddiadau dosbarthu
pwysau
meintiau
labeli peryglon
cyflwr derbyn
gofynion storio