Glanhau a chynnal a chadw offer gwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys glanhau a chynnal yr offer gwaith fel mater o drefn - y mae cynhyrchwyr yn ei argymell fel cynnal a chadw fel mater o drefn ac sy'n cael ei wneud fel rhan o amserlen gyffredinol glanhau a chynnal a chadw. Nid yw'n cynnwys y gwaith cynnal a chadw y mae cynhyrchwyr a chontractwyr arbenigol yn ei wneud.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n glanhau ac yn cynnal a chadw offer gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 gwneud yr holl waith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau’r gweithle
P2 gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau’r cwmni
P3 defnyddio arferion gwaith diogel a’r dillad amddiffynnol, y deunydd a’r offer cywir yn unol â chanllawiau’r cynhyrchydd
P4 cadarnhau bod yr offer yn ddiogel i wneud gwaith glanhau a chynnal a chadw e.e. wedi ei ynysu o’r cyflenwad pŵer
P5 gwneud gwaith glanhau a chynnal a chadw ar offer gwaith yn unol â manylebau cytûn ac ar adeg addas ar gyfer y rheiny sy’n gysylltiedig, gan amharu cyn lleied â phosibl
P6 cydymffurfio ag amlder y glanhau sy’n cyd-fynd â pholisi sefydliadol
P7 gwneud gwaith sterileiddio’r offer gwaith fel bo angen
P8 cyflawni gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
P9 hysbysu’r person priodol ynghylch namau ar unrhyw offer gwaith ar unwaith
P10 hysbysu ynghylch traul fel bo angen
P11 profi a chadarnhau gweithrediad cywir yr offer gwaith
P12 storio deunydd glanhau ac offer cynnal a chadw yn ddiogel ac yn gywir ar ôl ei ddefnyddio
P13 ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth
P14 cadw cofnodion cywir a diweddar fel bo angen ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
G1 pwysigrwydd cwblhau gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau’r gweithle
G2 eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch presennol, codau ymarfer a pholisïau’r cwmni
G3 deunydd, offer a dulliau glanhau y dylid eu defnyddio ar gyfer glanhau’r mathau o offer a’r dillad amddiffynnol y dylid eu gwisgo
G4 pam y dylid gwanhau deunydd glanhau yn gywir ac effeithiau posibl peidio gwneud hyn
G5 y peryglon posibl wrth ddefnyddio a storio deunydd ac offer glanhau a’r ffyrdd y gellir lleihau’r peryglon hyn
G6 pa offer gwaith y dylid ei sterileiddio, pryd, pam a’r peryglon posibl os nad yw hyn yn cael ei wneud yn gywir
G7 pwysigrwydd glanhau a sterileiddio er mwyn cynnal hylendid a bioddiogelwch
G8 amlder glanhau eitemau gwahanol o offer gwaith (er enghraifft, pa rai y dylid eu glanhau bob tro y cânt eu defnyddio, pa rai dylid eu glanhau’n ddyddiol a pha rai yn llai aml)
G9 amlder cynnal a chadw eitemau gwahanol o offer gwaith (er enghraifft, pa rai dylid eu cynnal a’u cadw bob tro y cânt eu defnyddio, pa rai y dylid eu cynnal a’u cadw bob tro y cânt eu glanhau)
G10 sut i wirio bod yr offer yn gweithio’n gywir a phwy y dylid ei hysbysu ynghylch namau
G11 sut i drin, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
G12 y cofnodion sydd angen eu cynnal