Glanhau a chynnal a chadw cyfarpar gwaith
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â glanhau a chynnal a chadw rheolaidd cyfarpar gwaith.
Cynnal a chadw rheolaidd yw’r gwaith cynnal a chadw y mae gweithgynhyrchwyr yn argymell ei fod yn cael ei gyflawni fel rhan o amserlen lanhau a chynnal a chadw gyffredinol. Nid yw’n cwmpasu’r cynnal a chadw y mae gweithgynhyrchwyr a chontractwyr arbenigol yn ymgymryd ag ef.
Mae’r safon hon yn addas i unrhyw un sy’n glanhau ac yn cynnal a chadw cyfarpar gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 glanhau a chynnal a chadw cyfarpar gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau’r gweithle
P2 cyflawni’r holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, a pholisïau’r sefydliad
P3 asesu’r risgiau a defnyddio arferion gweithio diogel a’r cyfarpar diogelu personol (PPE), deunyddiau a chyfarpar cywir yn unol â chanllawiau’r gweithgynhyrchwyr
P4 cynnal y lefelau hylendid a bioddiogelwch priodol yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P5 gwirio bod y cyfarpar yn ddiogel cyn ymgymryd â glanhau a chynnal a chadw e.e. diffodd y cyflenwad pŵer
P6 cydymffurfio â’r amlder glanhau sy’n cael ei argymell gan weithgynhyrchwyr a pholisïau’r sefydliad
P7 diheintio cyfarpar gwaith, lle bo angen
P8 gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr neu drefnu bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei gyflawni gan beiriannydd gwasanaeth
P9 adrodd am unrhyw namau â chyfarpar gwaith ar unwaith, gan ddilyn y weithdrefn ofynnol
P10 adrodd am draul a gwisgo, fel y bo angen
P11 profi a chadarnhau bod y cyfarpar gwaith yn gweithredu’n gywir yn dilyn glanhau a chynnal a chadw
P12 trefnu bod dyfeisiau cludadwy’n cael eu profi gan drydanwr cymeradwy, fel bo angen
P13 storio deunyddiau a chyfarpar glanhau a chynnal a chadw yn ddiogel ac yn gywir ar ôl eu defnyddio
P14 delio â gwastraff o’r gweithgarwch yn ddiogel ac yn gywir yn unol â’r gweithdrefnau cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau’r sefydliad
P15 cadw cofnodion cywir a chyfredol fel bo gofyn deddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
K1 pwysigrwydd cwblhau’r gweithgaredd yn unol â chyfarwyddiadau a gweithdrefnau’r gweithle
K2 eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer amgylcheddol ac iechyd a diogelwch cyfredol a pholisïau’r sefydliad
K3 y deunyddiau, y cyfarpar a’r dulliau glanhau y dylid eu defnyddio ar gyfer glanhau’r gwahanol fathau o gyfarpar a’r dillad amddiffynnol y dylid eu gwisgo
K4 pwysigrwydd cynnal lefelau priodol o hylendid a bioddiogelwch, a’r gweithdrefnau ar gyfer hyn
K5 pam dylai deunyddiau glanhau gael eu gwanedu’n gywir ac effeithiau posibl peidio â gwneud hyn
K6 y risgiau posibl wrth ddefnyddio a storio deunyddiau a chyfarpar glanhau, a’r ffyrdd o allu lleihau’r risgiau hyn
K7 pa gyfarpar gwaith y dylid ei ddiheintio, pryd, pam a’r risgiau posibl os na wneir hyn yn gywir
K8 pwysigrwydd glanhau a diheintio i gynnal hylendid a bioddiogelwch
K9 pa mor aml y dylai gwahanol eitemau o gyfarpar gwaith gael eu glanhau, er enghraifft, pa rai y dylid eu glanhau bob tro y’u defnyddir, pa rai y dylid eu glanhau’n ddyddiol a pha rai’n llai aml
K10 pa mor aml y dylai gwahanol eitemau o gyfarpar gwaith gael eu cynnal a chadw, er enghraifft pa rai y dylid eu cynnal a chadw bob tro y’u defnyddir, a pha rai y dylid eu cynnal a chadw’n llai aml
K11 pryd ddylai cyfarpar gael ei gynnal a chadw gan beiriannydd gwasanaeth a gweithdrefn y sefydliad ar gyfer hyn
K12 sut i wirio bod y cyfarpar yn gweithio’n gywir a’r weithdrefn ofynnol ar gyfer rhoi gwybod am namau
K13 polisi’r sefydliad ar brofi dyfeisiau cludadwy
K14 sut i drin, storio a gwaredu gwastraff o’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
K15 y cofnodion y mae angen eu cynnal